Pwysau cyson ar ddisgyblion am luniau noeth, medd Estyn
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion uwchradd Cymru wedi dod dan bwysau i rannu lluniau noeth o'u hunain, cael eu bwlio'n homoffobig, a chael eu haflonyddu am wisgo sgertiau.
Yn ôl adroddiad newydd gan arolygwyr ysgolion Estyn mae hanner disgyblion uwchradd Cymru yn dweud eu bod nhw wedi cael eu haflonyddu'n rhywiol gan ddisgyblion eraill.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud nad yw ysgolion yn sylweddoli maint y broblem am nad yw disgyblion yn dweud wrth athrawon.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, a gomisiynodd yr adroddiad, mae'n cyfleu "gwirionedd anghyfforddus" y profiad ysgol i nifer o blant.
'Wedi troi'n beth cyffredin'
Fe fu arolygwyr Estyn mewn 35 o ysgolion gan siarad â 1,300 o blant rhwng diwedd Medi a dechrau Hydref wrth lunio'u hadroddiad.
Yn ôl y dystiolaeth a gasglwyd roedd disgyblion yn dweud bod aflonyddu rhywiol wedi troi'n beth "cyffredin" ac er ei fod yn digwydd o fewn ysgolion, ei fod yn fwy cyffredin tu allan i oriau ysgol ac ar-lein.
Ond roedd enghreifftiau hefyd o athrawon yn anwybyddu'r achosion mewn ysgolion, gan ddweud wrth ddisgyblion i "beidio â chymryd sylw," mai "bechgyn yw bechgyn" a'u bod nhw "jest yn bod yn wirion".
Yn ôl Estyn, roedd hyn yn un rheswm pam nad oedd disgyblion mor barod i fynd â'u hachosion at athrawon ac o'r herwydd nad oedd ysgolion yn sylweddoli maint y broblem.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod mwy o ferched yn dioddef aflonyddu rhywiol na bechgyn, gyda 61% o ferched yn dweud eu bod nhw wedi profi aflonyddu rhywiol o'i gymharu â 29% o fechgyn.
Ymhlith un o brofiadau cyson y merched a roddodd dystiolaeth oedd pwysau i rannu lluniau noeth o'u hunain, ac aflonyddu neu fwlio am hyd eu sgertiau ysgol.
"Mae'n gyffredin iawn - bechgyn yn gofyn am luniau noeth ac yn sbamio fy ffôn," meddai un. Roedd un arall yn sôn am gyd-ddisgyblion yn "begian" arni i yrru llun noeth o'i hun ar gyfryngau cymdeithasol.
O ran sgertiau ysgol, clywodd yr adroddiad dystiolaeth gan un ferch bod bechgyn "wastad yn codi sgertiau merched neu'n edrych i fyny eu sgertiau pan maen nhw'n eistedd lawr".
"Os yw dy sgert di'n rhy fyr, rwyt ti'n slag neu'n slut. Os yw dy sgert di'n rhy hir rwyt ti'n ddiflas neu'n frigid. Ac os wyt ti'n gwisgo sgert fer, mae'r bechgyn yn trin hwnna fel consent - bod ti'n gofyn amdani."
Dywedodd un bachgen Blwyddyn 8 wrth yr adroddiad petai merched yn gwisgo sgertiau hirach byddai llai o "demtasiwn i fechgyn edrych".
Roedd galw enwau a bwlio homoffobig yn destun pryder i lawer o ddisgyblion hefyd. Dywedodd un disgybl fod "plant yn dweud wrtha i am ladd fy hun am fy mod i'n aelod o'r grŵp LGBTQ+."
Dywedodd y mwyafrif o ddisgyblion LGBTQ+ a holwyd gan Estyn eu bod nhw'n teimlo mai "dim ond ychydig o athrawon" fyddai'n gwneud rhywbeth petai nhw'n clywed iaith homoffobig yn erbyn disgybl.
Mae'r adroddiad yn nodi fod profiad disgyblion o aflonyddu rhywiol yn cynyddu wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, gyda 95% o ddisgyblion yn dweud eu bod nhw wedi gweld aflonyddu rhywiol yn digwydd - a 72% ohonyn nhw'n dweud eu bod nhw wedi ei weld yn digwydd yn yr ysgol.
Mewn holiadur ychwanegol ar-lein gan Estyn, a atebwyd gan 1,150 o ddisgyblion, dywedodd 26% o ferched a 23% o fechgyn eu bod nhw wedi cael eu cusanu neu eu cyffwrdd yn rhywiol heb eu caniatâd ar dir yr ysgol uwchradd.
"Enw'r adroddiad yw 'Dydyn Ni Ddim yn Dweud Wrth Ein Athrawon' - a dyna ydan ni wedi ei ddarganfod," meddai awdur yr adroddiad, Delyth Gray.
"Mae 'na fwlch enfawr rhwng beth mae disgyblion wedi bod yn dweud wrthon ni sy'n digwydd a'r hyn mae staff mewn ysgolion yn ei wybod.
"Dydy'r disgyblion ddim yn meddwl fod y pethau yma'n ddigon pwysig i ddweud wrth eu hathrawon, er eu bod nhw'n dueddol o ddigwydd bob dydd."
Yn ôl Ms Gray, mae angen mwy o gyfleodd hyfforddiant ar athrawon er mwyn eu helpu i ddelio â'r materion hyn - yn ogystal ag agwedd mwy rhagweithiol er mwyn mynd i'r afael ag achosion pan maen nhw'n codi.
Mae diffyg addysg rhyw cyson mewn ysgolion ar hyn o bryd hefyd, medd yr adroddiad.
Yn ôl y Comisiynydd Plant, Sally Holland mae'r cyfleodd i ddysgu am addysg rhyw a pherthynas yn cael ei "wasgu allan" o'r cwricwlwm fel ag y mae er mwyn gwneud lle i addysg academaidd wrth i blant fynd yn hŷn.
"Weithiau dyw addysg rhyw ddim yn bodoli o gwbl ar ôl 14 oed, sef yr union amser y dylai fod ar gael," meddai.
"Mae angen i ysgolion gael yr hawl, o fewn y system addysg, i roi amser i'r materion pwysig yma ar gyfer bywyd, iechyd a diogelwch."
Yn ôl yr Athro Holland mae'r cwricwlwm newydd i Gymru - sy'n rhoi mwy o bwyslais ar addysg perthnasau a rhywioldeb - yn "gyfle da" er mwyn gwneud pethau'n well.
Ond yn ôl Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru mae'r feirniadaeth o ysgolion yn "rhwystredig ac yn annheg wrth iddyn nhw wneud ymdrech enfawr i roi lles disgyblion wrth galon popeth maen nhw'n ei wneud.
"Mae gan ysgolion rôl i'w chwarae wrth daclo'r rhwystrau sydd gan ddysgwyr rhag cofnodi achosion o aflonyddu rhywiol trwy weithredu addysg bersonol a chymdeithasol gyson ac effeithlon, ond does dim modd i ysgolion wneud hyn ar eu pen eu hunain," meddai llefarydd.
Dywedodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, fod yr adroddiad yn profi'n "ddarllen anodd".
"Mae'n tanlinellu'r gwirionedd anghyfforddus ynglŷn â pha mor gyffredin yw aflonyddu rhywiol gan gyfoedion yn ein hysgolion a bod plant yn aml yn rhannu'r profiadau hynny gyda'u ffrindiau yn hytrach na'u hathrawon," meddai.
"Mae hyn yn arwain at ddiffyg ymwybyddiaeth ynglŷn â gwir raddfa aflonyddu rhywiol mewn ysgolion.
"Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod gwerth Addysg Perthnasau a Rhywioldeb, fydd yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru i bob disgybl.
"Mae gan ysgolion rôl bwysig i'w chwarae wrth greu amgylchiadau diogel a chefnogol i ddysgwyr allu mwynhau perthnasau iach a diogel trwy gydol eu bywydau."
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2021
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd18 Medi 2020