20 mlynedd o garchar am lofruddiaeth Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Ashley KeeganFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr hyn wnaeth Ashley Keegan ei ddisgrifio fel "creulon a llwfr" gan yr heddlu

Mae dyn a drywanodd ei ddioddefwr yn y cefn saith gwaith wedi cael ei garcharu am oes am ei lofruddiaeth.

Bydd Ashley Keegan, 22, yn treulio o leiaf 20 mlynedd dan glo am lofruddio John Bell, 37, yn Aberteifi ym mis Gorffennaf.

Clywodd llys bod Keegan wedi bod yn yfed y tu allan i'w gartref yng Ngolwg y Castell brynhawn a nos 20 Gorffennaf.

Wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen, daeth yn ymosodol at Mr Bell a'i ffrind Daniel Saunders, pan gyrhaeddon nhw gartref ei gymydog, mam Daniel, Amanda Simpson.

Am tua 23:40, cafodd Mr Saunders ei roi mewn tacsi gan Amanda, pan ddaeth Keegan yn ymosodol unwaith eto.

Fe adawodd y tacsi ac yn ystod y ddadl a ddilynodd cafodd Amanda ei gwthio i'r llawr.

Yna trodd Keegan ar Mr Bell, gan fynd ato a thaflu dyrnau i'w ben.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Bell ei drywanu saith o weithiau yn ei gefn

Clywodd y llys na wnaeth Mr Bell ymateb, gan ddal ei ddwylo i fyny wrth ei frest a'u codi i geisio amddiffyn ei ben a'i wyneb tra'n symud tuag yn ôl.

Fe gerddodd Mr Bell i ffwrdd ac i lawr yr allt.

Ond yna gwelwyd Keegan yn cerdded tuag at ei gartref a chodi cyllell gegin fawr, cyn mynd ar ôl ei ddioddefwr.

Aeth ato o'r tu ôl a thrywanu Mr Bell dro ar ôl tro, meddai'r heddlu.

Ni lwyddodd i droi o gwmpas ar unrhyw bwynt - ni chafwyd hyd i glwyfau amddiffynnol - ac fe lwyddodd Mr Bell i gerdded rhyw 150 llath i ffwrdd o'r stryd wedi'r digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Y gyllell a ddefnyddiodd Keegan i lofruddio Mr Bell

Yna gwelwyd Keegan yn taflu'r gyllell i ffwrdd, cyn mynd i'w gartref, lle dywedodd wrth ei bartner Chloe Phillips: "Dwi wedi ei drywanu."

Ychydig cyn hanner nos, derbyniodd yr heddlu sawl adroddiad am y digwyddiad ar Golwg y Castell a gan aelod o'r cyhoedd a welodd John Bell, wedi'i anafu ac yn gwaedu ar Bont Aberteifi.

Daeth yr heddlu o hyd i Mr Bell wedi'i anafu'n ddifrifol mewn stryd ochr ger bwyty Fusion.

Er gwaethaf ymdrechion i'w achub, bu farw yn y fan a'r lle.

Datgelodd archwiliad post-mortem saith clwyf trywanu i gefn Mr Bell, a arweiniodd ato'n colli cryn dipyn o waed.

'Creulon' a 'diangen'

Wrth siarad yn dilyn y ddedfryd, dywedodd DCI Gareth Roberts: "Roedd gweithredoedd Keegan ar nos Fawrth, 20 Gorffennaf, 2021 yn greulon ac yn llwfr.

"Nid oedd Keegan na John yn hysbys i'w gilydd o'r blaen ac roedd marwolaeth John yn weithred ddiangen heb unrhyw gymhelliad blaenorol.

"Ni chododd Ashley Keegan y larwm na galw ambiwlans, yn lle hynny fe guddiodd yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran nes iddo gael ei ddal."

Fe ddiolchodd DCI Roberts i'r tystion yn yr achos am eu dewrder a chydymdeimlodd gyda theulu Mr Bell, gan ganmol eu "hurddas" drwy gydol yr achos llys.