Nyrs yn gadael ei swydd yn sgil 'artaith' y pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae nyrs a weithiodd uned gofal dwys yn ystod y pandemig yn dweud ei bod wedi gadael ei swydd barhaol fel nyrs oherwydd pwysau ar ei hiechyd meddwl.
Roedd Fern Osborne, 30, o Lanelli, yn gweithio mewn ysbyty yng Nghaerfyrddin. Dywedodd mai gadael ei swydd oedd "ei hunig opsiwn".
Dywedodd ei bod wedi cyrraedd pwynt lle'r oedd yn gobeithio y byddai eu profion llif unffordd yn bositif fel na fyddai'n rhaid iddi fynd i'r gwaith.
Dywedodd cyfarwyddwr o Fwrdd Iechyd Hywel Dda ei bod "yn flin" ganddyn nhw bod Ms Osbourne wedi gadael y sefydliad.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r GIG yn cynnig cyfleoedd i nyrsys sy'n dymuno gweithio'n fwy hyblyg.
Roedd Ms Osbourne yn gweithio yn Ysbytai Cyffredinol Glangwili ym mis Tachwedd pan benderfynodd y byddai'n well ganddi "gymryd y risg" o ddibynnu ar waith asiantaeth nag aros yn ei swydd fel nyrs.
Mae hynny'n golygu peidio cael tâl salwch, dim cyfraniad at bensiwn ac ansicrwydd gwaith.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C bod y pwysau ar ei hiechyd meddwl a chorfforol yn "arteithiol".
"It's like torture. Achos chi'n gwybod chi'n mynd mewn a falle o chi mewn y dydd cyn, a chi ddim 'di yfed digon, chi ddim 'di cysgu digon, ac wedyn chi'n mynd mewn am shifft arall, a chi'n neud yr un peth eto, a falle'r dydd nesa hefyd. Ma fe'n galed."
Ychwanegodd: "O'n i jyst yn teimlo'n anxious mas o gwaith, pan o'n i'n gweithio y dydd nesa o'n i methu cysgu, odd e'n rhy galed."
'Rhaid i fi adael'
Dywedodd bod prinder staff, pwysau cynyddol a diffyg cefnogaeth yn ei gwneud hi'n anoddach i wneud ei swydd.
"O'n i ddim eisiau mynd mewn am y shifft, o'n i'n neud lateral flows a fi'n credu o'n i eisiau nhw i fod yn bositif jyst i fi ddim mynd i gwaith.
"Dyna pryd ro'n i'n gwybod bod yn rhaid i fi adael."
Dywedodd Ms Osbourne bod ail don Covid-19 wedi bod yn "sioc".
Ychwanegodd: "Fi'n credu gethon ni gyd sioc lawr yn Glangwili achos o'dd dim byd 'da ni rili yn y wave cynta, yr ail wave, fi'n credu, it really hit home, that it was real."
Cafodd Ms Osbourne ddiagnosis o gyflwr sciatica yn ei chlun ar ôl codi claf a'u troi drosodd ar y peiriant anadlu.
Cafodd gyfarwyddyd i beidio gweithio ar ward Covid yn dilyn yr anaf. Ond dair wythnos yn ddiweddarach, roedd hi yn ôl. "Roedden ni mor brin o staff doedd dim dewis gen i."
'Ma lot o'r staff eisiau gadael'
Ychwanegodd Ms Osbourne bod nifer o'i chydweithwyr yn rhannu'r un teimladau.
Dywedodd: "Fi'n credu, ma' lot o bobl fi 'di siarad i eisiau gadael ond methu achos plant neu mortgages, eisiau prynu tŷ a phethau fel 'na. Hyd yn oed os maen nhw ddim wedi gadael, a ddim yn mynd i, fi'n credu ma lot o'r staff eisiau gadael. Sa i'n credu bod nhw'n hapus.
"Sa i'n gwybod beth sy'n mynd i newid, achos dyw Covid ddim yn mynd i unrhyw le."
Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys wedi dweud bod y GIG yn dod yn "beryglus o ddibynnol" ar staff o asiantaethau.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, fe wariodd y GIG £69.04m ar nyrsys o asiantaethau yn 2019. Neidiodd y swm i £219.3m yn 2020/2021.
Dywedodd Helen Whyley, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru bod nyrsys y GIG, yn enwedig y rhai mewn rolau uwch, yn aml yn "isel eu hysbryd neu'n wynebu profiadau trawmatig wrth weithio dan amodau anniogel".
Ychwanegodd bod gweithio i asiantaeth yn eu galluogi i ddefnyddio'u sgiliau heb y pwysau. Ond, dywedodd bod risg na fydd byrddau iechyd yn cyflogi staff yn uniongyrchol mwyach.
"Dydy hyn ddim chwaith yn ddelfrydol ar gyfer gofal cleifion. Mae nyrsys o asiantaethau yn llai cyfarwydd gyda pholisïau, cyfarpar a sut mae wardiau wedi eu gosod, ynghyd â bod yn llai abl i ddarparu cysondeb gofal.
"Os yw GIG Cymru yn mynd i gadw ei staff nyrsio ei hun, mae angen moderneiddio'r gweithdrefnau cyflogaeth i roi mwy o reolaeth i nyrsys dros bryd maen nhw'n gweithio."
Atgoffa staff i 'ofalu am eu hiechyd'
Mewn ymateb i brofiadau Ms Osbourne, dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr Sefydliadol a Gweithlu Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Mae'n flin gyda ni bod yr unigolyn dan sylw wedi gadael ein cyflogaeth ac yn gwerthfawrogi'r amgylchiadau anodd iawn mae ein nyrsys, a'n staff arall, yn gweithio ynddynt wrth i ni barhau i ymateb i'r pandemig.
"Mae iechyd a lles ein nyrsys i gyd, ynghyd â'r holl aelodau o staff, myfyrwyr a gwirfoddolwyr sy'n gweithio o fewn Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn bwysig iawn i ni fel sefydliad."
Ychwanegodd bod staff yn aml yn cael eu hatgoffa i drafod a gofalu am eu hiechyd eu hunain.
'Gweithwyr asiantaeth yn adnodd gwerthfawr'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod nifer y staff sy'n cael eu cyflogi yn y GIG yn "uwch nag y bu ers blynyddoedd" ar hyn o bryd.
Ychwanegodd: "Mae gweithwyr asiantaeth yn darparu adnodd ychwanegol gwerthfawr iawn yn ystod y cyfnod hwn hefyd.
"Mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd i nyrsys sy'n dymuno gweithio'n fwy hyblyg gofrestru i weithio i fanciau staff sefydliadau'r GIG, lle maen nhw'n elwa o delerau ac amodau cyflog cenedlaethol ac yn gallu dewis gweithio'n hyblyg ar adegau sy'n addas iddyn nhw ac mewn lleoliad cyfarwydd lle maen nhw'n fwy cyfforddus.
"Mae strategaeth y gweithlu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn amlinellu cynlluniau ar gyfer trawsnewid y gweithlu mewn ffordd gynaliadwy ar gyfer y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2021
- Cyhoeddwyd21 Medi 2021
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021