Cymru'n wynebu 'argyfwng' nyrsio canser, medd elusen

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
MammogramFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae tua 207 o nyrsys arbenigol canser yng Nghymru

Mae Cymru'n wynebu argyfwng nyrsio canser allai adael niferoedd cynyddol o gleifion heb y gofal a'r cymorth meddygol cywir, yn ôl elusen.

Mae adroddiad Cymorth Canser Macmillan yn awgrymu bod angen cynnydd o 80% yn nifer y nyrsys canser arbenigol yng Nghymru i gefnogi'r 230,000 o bobl y maen nhw'n rhagweld fydd yn byw gyda chanser erbyn diwedd y ddegawd.

Pe bai nifer y nyrsys canser arbenigol yn aros ar y lefelau presennol, byddai'n gadael bwlch o 166 o nyrsys yng Nghymru erbyn hynny.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae tua 207 o nyrsys arbenigol canser yng Nghymru, sy'n golygu bod angen i'r nifer gynyddu 80% i lenwi'r bwlch.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod nifer y nyrsys cofrestredig yng Nghymru yn parhau i gynyddu, a bod lleoedd hyfforddi wedi cynyddu 68% dros y pum mlynedd diwethaf.

Yn ôl Macmillan mae bron i dri chwarter nyrsys canser y fron yn ogystal â hanner nyrsys canser gynaecoleg yng Nghymru yn 50 oed neu'n hŷn, a bydd nifer ohonynt yn ymddeol dros yr un cyfnod.

Mae pryderon cynyddol hefyd y bydd hyd yn oed yn fwy o'r nyrsys hyn yn gadael y proffesiwn oherwydd effeithiau Covid-19.

Datgelodd arolwg barn diweddar gan Macmillan fod y gweithlu eisoes wedi'i or-ymestyn, gyda miloedd o bobl â chanser yn y DU ddim yn derbyn gofal nyrsio arbenigol

Profiad Cathy

Cafodd Cathy Snape o Ynys Môn ddiagnosis o ganser y fron ym mis Chwefror 2020, yr un adeg a dechrau'r pandemig coronafeirws.

"Roedd pawb yn amlwg yn hynod o brysur a dwi'n credu dyna pam doedd gofal unigol, y cymorth ac adborth penodol o' ni angen, ddim ar gael o gwbl," meddai.

Ffynhonnell y llun, Cathy Snape
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cathy Snape wedi gweld diffyg cymorth arbenigol ac unigol yn anodd

"Mae pobl gyda chanser angen mwy na gwasanaeth iechyd sydd ond yn cynnig triniaeth corfforol, 'da ni hefyd angen rhywun sy' medru rhoi cwtsh i ni a dal ein llaw trwy'r broses.

"Doeddwn i ddim yn gwybod be' o' ni'n neud - doeddwn i ddim yn deall fy niagnosis yn llawn, doeddwn i ddim yn siŵr am fy meddyginiaeth.

"Dyna pam mae mynediad at gymorth canser arbenigol a hirdymor oddi wrth nyrs mor bwysig."

Angen 'gweithredu ar frys'

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru: "Mae diagnosis canser yn effeithio ar gymaint mwy nag iechyd rhywun a heb y cymorth cywir, gall pobl brofi sgil-effeithiau triniaeth diangen, caledi ariannol yn ogystal â heriau ymarferol ac emosiynol.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn hyfforddi nyrsys canser ar frys yn ogystal ag ymrwymo i gyfarwyddo Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddatblygu cynllun gweithlu canser."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Macmillan bydd y gost o gynyddu nifer y nyrsys arbenigol, yn ogystal ag ôl-lenwi'r swyddi blaenorol, yn costio mwy na £22m

Ychwanegodd bod angen i fyrddau iechyd roi amser a chyllid i nyrsys ar gyfer hyfforddiant bellach.

"Heb weithredu ar frys, ni fydd y nifer cynyddol o bobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru yn cael y gofal a'r cymorth o ansawdd uchel sydd ei angen arnynt."

Beth fydd y gost?

Yn ôl Macmillan bydd y gost o gynyddu nifer y nyrsys, yn ogystal ag ôl-lenwi'r swyddi blaenorol, yn fwy na £22m.

Amcangyfrifir mai £12.2m yw cost hyfforddi a datblygu nyrsys canser arbenigol i gyflawni'r cynnydd, sy'n gyfystyr â thua £53 y pen i bob person â chanser yng Nghymru.

Byddai'r costau o gyflogi 166 o nyrsys canser arbenigol ychwanegol yn 2030 tua £10.2m y flwyddyn.

Ffynhonnell: Cymorth Canser Macmillan

Goblygiadau meddygol 'difrifol'

Yn ôl arolwg barn gan Macmillan, mae un o bob pump (21%) o'r rhai a gafodd ddiagnosis o ganser yng Nghymru yn y pum mlynedd diwethaf yn dweud bod diffyg cymorth nyrsio canser arbenigol yn ystod eu diagnosis neu eu triniaeth.

Roedd yr effaith ar gleifion yn "sylweddol" gydag un o bob 10 (11%) o'r rhai a gafodd ddiagnosis yn yr un cyfnod - mwy na 6,000 o bobl - yn profi o leiaf un sgil-effaith meddygol difrifol o ganlyniad i ddiffyg cymorth.

Roedd yr arolwg hefyd yn awgrymu bod cleifion heb ofal nyrsio arbenigol yn fwy tebygol o brofi iselder neu or-bryder.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae nyrsys arbenigol canser yn chwarae rhan bwysig a gwerthfawr wrth ddarparu gofal o ansawdd uchel a chefnogi pobl a'u teuluoedd trwy ganser.

"Mae nifer y nyrsys cofrestredig yng Nghymru yn parhau i gynyddu ac mae lleoedd hyfforddi wedi cynyddu 68% dros y pum mlynedd diwethaf.

"Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn arwain ar ddatblygu cynllun gweithlu newydd ar gyfer nyrsio."