Newyddion Da o Bawenydd Mawr!
- Cyhoeddwyd
Daeth aelodau capel Gellionnen ger Pontardawe at ei gilydd ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr i ail-greu stori'r geni, ond gyda chŵn.
Daeth y syniad wrth geisio dangos i aelodau iau'r capel bod modd bod yn greadigol wrth ddweud stori'r geni, ac nad oes rhaid glynu at berfformiad draddodiadol bob tro.
Cyfuniad o ddau beth wnaeth i aelodau capel Gellionnen feddwl am y syniad yma. Cerdded cŵn a'u stori'r geni flwyddyn diwethaf.
Y llynedd, fe ail greon nhw stori'r geni gyda gwahanol aelodau o'r capel wedi gwisgo fyny fel rhai o'r cymeriadau a rhai o'r ffermwyr wedi dod ag anifeiliaid hefyd, ond nid yr un anifeiliaid â sydd yn y stori draddodiadol. Roedd merlen Shetland a defaid yn lle'r asyn a'r camelod!
"Fe ffilmion ni'r gyfanwaith a rhoi e ar y we. Gwyliodd dros 17,000 o bobl y fideo," meddai Rory Castle Jones, gweinidog y capel a threfnydd sioeau Nadolig Gellionnen.
"Cafon ni negeseuon gan bobl ar draws y byd yn cynnwys Awstralia yn dweud gymaint oedden nhw wedi mwynhau'r fideo.
"Dydy cael 'hwyl' a bod yn greadigol ddim yn rhywbeth mae pawb yn cysylltu gyda gwasanaethau capel."
Cerdded cŵn dros y clo
Daeth yr ysbrydoliaeth i roi rhai o brif rannau stori'r geni eleni i gŵn wedi i rai o aelodau'r capel gyfarfod dros y cyfnodau clo er mwyn cerdded eu cŵn yn rheolaidd.
"Roedd hyn yn gyfle i berchnogion y cŵn gwrdd â chael cymdeithasu dros y cyfnodau clo mewn ffordd saff," eglura Rory.
Cyfarthion yr ŵyl
"Fe gyfunodd y ddau beth, a chynigodd un o aelodau'r capel, Megan, i wneud stori'r geni gyda chŵn yr aelodau.
"Jôc oedd e i gychwyn a chwarddodd pawb, ond fe benderfynom ni 'neud e go iawn!
"Roedd hyn i gyd er mwyn cael bach o sbort a sbri yng nghyfnod y Nadolig. A gwneud rhywbeth gwahanol yn lle'r norm o gael pobl i actio'r stori fel ni wedi bod yn gwneud ers cannoedd o flynyddoedd.
"Roedd llawer o baratoadau wedi cael ei wneud er mwyn gallu gwneud hwn. Roedd un person yn castio'r cŵn a pherson arall yn paratoi gwisgoedd.
"Tri milgi wnaeth actio'r tri gŵr doeth. Un ohonyn nhw yw fy nghi i, Edna. Er bod Edna yn ferch wnaethon ni ddim sticio i'r rhyw cywir chwaith; wnaethon ni dorri llawer o'r drefn normal!
"Ci bach fluffy o'r enw Holly oedd y baban Iesu, ac fe lwyddodd i aros yn llonydd am ddigon hir, a chi mawr sydd yn cyfarth o hyd gafodd y rôl o berchennog y llety.
"Mae'r capel yn gyfarwydd iawn â chŵn, mae sawl ci yn troi fyny i'n gwasanaethau 'ta beth a phan y'n ni'n cael ein gwasanaeth cymun, ni'n rhoi bisgedi i'r cŵn yr un amser. Maen nhw'n rhan fawr o'n capel ni.
"Roedd eu cynnwys nhw yn stori'r geni bron yn naturiol!"
Rhoi gwên ar wynebau
Codi ysbryd pobl mewn cyfnod anodd oedd bwriad y sioe, meddai Rory. "Er nad ydyn ni mewn cyfnodau clo bellach mae dal llawer o bobl yn mynd drwy amser caled ers y pandemig.
"Ac wrth edrych ymlaen tuag at y Nadolig, mae llawer o bobl yn byw ar eu pennau eu hunain, boed yn bobl hŷn neu'n fregus. Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth byddai'n rhoi gwên ar wynebau pobl.
"Mae'r stori hefyd yn adrodd neges o gariad, heddwch a gobaith. Y Nadolig yw'r amser perffaith i wneud hynny, ac mae un o'n haelodau wnaeth ffilmio'r perfformiad am olygu fideo o'r sioe eleni er mwyn i bawb ei fwynhau.
"Ac er dwi'n sicr y bydd rhai yn credu bod gwneud y stori gydag anifeiliaid ychydig yn rhyfedd a doniol, dwi'n credu bod natur ac anifeiliaid yn rhan bwysig iawn o'n bywydau. Felly mae o i gyd yn cysylltu gyda'i gilydd.
Ond beth sydd nesaf i gapel Gellionnen?
"Mae wastad cynlluniau gyda ni yn y capel," eglura Rory.
"Ac er bod hwn am fod yn anodd iawn i'w guro, dwi'n ffyddiog y gallwn ni feddwl am sioe unigryw arall ar gyfer flwyddyn nesa'!"