Ffordd osgoi Llanbedr: Pentrefwyr i barhau â'r frwydr

  • Cyhoeddwyd
Llanbedr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynlluniau i greu ffordd osgoi o amgylch Llanbedr yn dyddio 'nôl dros 60 mlynedd

Mae pentrefwyr yn Llanbedr, Gwynedd yn dweud y byddan nhw'n parhau i frwydro am ffordd osgoi wedi i Lywodraeth Cymru gefnu ar gynlluniau.

Fe wnaeth tua 150 o bobl fynychu cyfarfod cyhoeddus yn y pentref ddydd Gwener i fynegi eu rhwystredigaeth na fydd y ffordd yn cael ei hadeiladu.

Maen nhw'n bryderus y bydd hynny'n arwain at flynyddoedd lawer yn rhagor o broblemau traffig yn yr ardal - yn enwedig yn ystod hafau prysur.

Mae pryder hefyd y bydd yn ei gwneud hi'n fwy anodd i ailddatblygu hen safle'r Awyrlu ar gyrion y dref, a chreu swyddi sydd mor daer eu hangen yn yr ardal.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod problemau traffig Llanbedr, ond ei bod eisiau gweithio gyda Chyngor Gwynedd er mwyn canolbwyntio ar ddatrysiadau mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth tua 150 o bobl i gyfarfod ddydd Gwener i fynegi eu rhwystredigaeth na fydd y ffordd yn cael ei hadeiladu

Mae'r cynlluniau i greu ffordd osgoi o amgylch Llanbedr yn dyddio 'nôl dros 60 mlynedd.

Cafodd ei wyntyllu oherwydd bod pont gul yng nghanol y pentref yn achosi traffig trwm, yn enwedig yn yr haf pan fo miloedd o dwristiaid yn yr ardal.

Roedd trigolion hefyd yn gobeithio y byddai'n helpu i greu swyddi yn hen safle'r Awyrlu gerllaw, sy'n cael ei droi'n ganolfan awyrofod.

Cafodd y cynllun ar gyfer y ffordd osgoi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2020, cyn iddi benderfynu fis diwethaf na fyddai'n mynd yn ei flaen oherwydd newid hinsawdd.

Daeth panel sy'n adolygu pob cynllun adeiladu ffyrdd ar ran Llywodraeth Cymru i'r casgliad y byddai ffordd osgoi Llanbedr yn debygol o gynyddu allyriadau carbon.

'Plant ddim yn aros yn yr ardal'

Mae grŵp o'r enw Pobl wedi cael ei sefydlu yn y pentref i ymgyrchu er mwyn ceisio newid meddyliau'r llywodraeth.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Jane Taylor-Williams fod "y teimlad yn gryf iawn yma".

"Fe ddaeth fel cymaint o sioc pan gafodd ei gyhoeddi na fyddai'r ffordd yn mynd yn ei blaen pan oedden ni'n meddwl ei fod am ddigwydd o'r diwedd," meddai.

"'Da ni angen i rywbeth ddigwydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn Llanbedr. Dydy plant ddim yn aros yn yr ardal am nad oes 'na lawer o swyddi da iddyn nhw.

"'Da ni am barhau gyda'r frwydr - allwn ni ddim rhoi'r gorau iddi rŵan. Mae 'na gymaint o broblemau yn ein cymuned sydd angen eu datrys ac mi fyddai ffordd osgoi yn gwneud gwahaniaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn wrth y cyfarfod y bydd y cyngor yn parhau i frwydro am adeiladu'r ffordd

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn o Blaid Cymru, wrth y cyfarfod y bydden nhw hefyd yn parhau â'r frwydr i adeiladu'r ffordd.

"Mae'n rhaid i ni gadw'r pwysau ar Lywodraeth Cymru," meddai.

"Fe ddaeth yr argymhelliad i sgrapio ffordd osgoi Llanbedr gan banel o arbenigwyr oedd yn edrych ar faint o garbon deuocsid y gallai'r ffordd newydd gynhyrchu, ond dydw i ddim wedi fy argyhoeddi gan eu canfyddiadau.

"Maen nhw'n dangos diffyg dealltwriaeth am ddefnydd o'r ffyrdd yng nghefn gwlad Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i gydweithio â Gwynedd i ddatblygu atebion cynaliadwy i fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â thraffig yn y pentref a mynediad i'r maes awyr, fel y rhai a awgrymir yn adroddiad Cadeirydd y Panel".