Cynghorydd yn gadael ei blaid wedi sylw 'tramorwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd sir o Geredigion wedi gadael y Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl iddo awgrymu mai "tramorwyr" sy'n rhannol gyfrifol am roi gwasanaethau ambiwlans y sir dan straen.
Daeth sylwadau'r Cynghorydd Lloyd Edwards mewn trafodaeth ynghylch toriadau posib i griwiau ambiwlans y sir yr wythnos ddiwethaf.
Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau eu bod wedi derbyn nifer o gwynion ynglŷn â'r sylwadau.
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig fod y Cynghorydd Edwards wedi ildio ei aelodaeth cyn i'r blaid gynnal gwrandawiad disgyblu, fyddai wedi'i gynnal nos Lun.
Bydd felly yn eistedd fel cynghorydd annibynnol ar Gyngor Ceredigion.
"Dwi'n credu bod yna lot o fewnfudwyr wedi dod fewn i'r sir yma ac maen nhw'n cael yr un cymorth â phobl sydd wedi eu geni a'u magu yn y sir," meddai'r cynghorydd yn y cyfarfod rhithiol ddydd Iau.
"A wedyn mae e'n rhoi mwy o bwyse' ar weithlu'r ambiwlans. A dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi dala 'mlaen i rywbeth maen nhw wedi gwneud, trwy ddod â mewnfudwyr fewn i Gymru ac i Geredigion... Pobl tramor 'wy'n siarad am nawr."
Yn sgil y sylwadau, ymatebodd arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn, yn y cyfarfod gan ddweud mai dim ond 50 o bobl oedd wedi cael eu croesawu i Geredigion.
Ychwanegodd mai "ffoaduriaid oedden nhw, nid mewnfudwyr" a'u bod wedi dod yma "i gael ein help ni".
'Cwbl annerbyniol'
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ddydd Llun: "Does gan hiliaeth a senoffobia ddim lle yn ein plaid, ac mae sylwadau'r cynghorydd yn cael eu condemnio gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
"Rydyn ni eisiau ymddiheuro'n ddiamod ar ran y blaid am y gofid a'r tramgwydd a achoswyd gan sylwadau'r Cynghorydd Edwards."
Ychwanegodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds fod "sylwadau'r Cynghorydd Edwards yn gwbl annerbyniol" ac nad ydyn nhw'n cyd-fynd â gwerthoedd y Democratiaid Rhyddfrydol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd7 Medi 2021