Trydydd brechlyn i oedolion cyn diwedd Rhagfyr 'os yn bosib'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Drakeford: 'Dau ddos ddim digon effeithiol yn erbyn Omicron'

Bydd pob oedolyn sy'n gymwys yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu erbyn diwedd y flwyddyn "os yn bosib" dan gynllun Llywodraeth Cymru.

Nos Lun fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyhoeddi'r cynllun newydd mewn neges ar sianel deledu BBC Cymru.

Dywedodd ei fod yn rhagweld y bydd angen treblu nifer y brechiadau sy'n cael eu rhoi er mwyn taro'r targed hwnnw.

Ychwanegodd bod y llywodraeth yn "debygol o orfod cymryd rhagor o gamau i ddiogelu Cymru".

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog gyhoeddi unrhyw newidiadau, os oes angen, ddydd Gwener.

Daw'r cyhoeddiad nos Lun yn dilyn addewid Boris Johnson i gynnig y trydydd brechlyn i bawb dros 18 sy'n gymwys erbyn diwedd Rhagfyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y nod yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru oedd cynnig y brechlyn atgyfnerthu i bawb erbyn diwedd mis Ionawr.

Yn gynharach ddydd Llun, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn "gwneud popeth posib i gyflymu'r rhaglen frechu".

Dywedodd Mr Drakeford bod Omicron yn bygwth creu "sefyllfa ddifrifol iawn" ac erbyn diwedd y mis, Omicron fydd "prif ffurf y feirws, gan gyflwyno ton newydd o haint a salwch".

Mae 30 o achosion Omicron bellach wedi eu cofnodi yng Nghymru ac fe ddaeth i'r amlwg fod un person eisoes yn yr ysbyty gyda'r haint.

Yn ei neges dywedodd y Prif Weinidog "nad yw dau ddos o'r brechlyn yn ddigon" a bod y pigiad atgyfnerthu yn "hollbwysig i wella'r amddiffyniad rhag yr amrywiolyn newydd sy'n lledaenu'n gyflym".

Disgrifiad,

Yn ôl Dr Phil White o BMA Cymru, brechu yw'r "unig ffordd ymlaen nawr i ni arbed trychineb dros y gaeaf"

"Mae'r wybodaeth sydd gennym yn dweud ein bod yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn. Mae Omicron yn symud yn gyflym iawn," meddai'r Prif Weinidog.

"Mae'n bosibl y bydd hyn yn arwain at nifer fawr o bobl yn yr ysbyty, ar yr union adeg pan mae'r Gwasanaeth Iechyd eisoes dan straen sylweddol.

"Ein nod yw cynnig apwyntiad i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd y flwyddyn, os gallwn.

"Dyma fydd blaenoriaeth y Gwasanaeth Iechyd dros yr wythnosau nesaf.

"Rhowch flaenoriaeth i'r pigiad atgyfnerthu. Dyma'r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i amddiffyn eich hun yn erbyn y coronafeirws a'r amrywiolyn newydd."

Mae disgwyl i'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan rannu rhagor o fanylion mewn cynhadledd newyddion ddydd Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n "debygol y bydd angen cymryd mwy o gamau i ddiogelu Cymru" yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford

'Sefyllfa'n gwaethygu'

"Doedd neb ohonom eisiau clywed y newyddion am yr amrywiolyn omicron hwn," ychwanegodd.

"Ar ôl dwy flynedd hir o'r pandemig, roeddem i gyd wedi gobeithio gallu rhoi'r coronafeirws y tu nôl i ni y Nadolig hwn.

"Unwaith yn rhagor, yn anffodus, rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol, sy'n gwaethygu.

"Gallwn dynnu gyda'n gilydd eto, i ddiogelu ein gilydd - ein ffrindiau, ein teulu, ein cymdogion. Diogelu ein gilydd, a chadw ein hunain yn iach ac yn saff.

"Rydyn ni eisoes wedi cymryd rhai camau i amddiffyn pobl. Ac mae'n debygol y bydd angen i ni gymryd camau eraill i'ch diogelu chi, a diogelu Cymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae amrywiolyn Omicron wedi newid y darlun yn llwyr

Wrth ymateb dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: "Does dim angen rhagor o gyfyngiadau arnom os oes cyfran fawr iawn o bobl yn cael eu brechu.

"Mae dyletswydd ar bobl sy'n gymwys i gael eu brechlyn ac mae gan lywodraeth Lafur gyfrifoldeb i gyflymu'r rhaglen frechu. Mae cymdeithas rydd ac economi agored yn dibynnu ar hynny."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru: "Mae'n rhaid i'n Gwasanaeth Iechyd dderbyn y gefnogaeth a'r adnoddau y mae ei angen i weithredu'r cynllun brechu fel mater o flaenoriaeth lwyr a dylid ehangu apwyntiadau 'cerdded i mewn' fel bod mwyafrif y boblogaeth yn cael brechlyn atgyfnerthu erbyn y flwyddyn newydd."

Ychwanegodd bod adroddiadau o brinder profion llif unffordd yn "hynod bryderus ac ni allai fod wedi dod ar adeg gwaeth."

Llacio rheol goruchwylio?

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Dr Eilir Hughes o feddygfa Tŷ Doctor yn Nefyn: "Mae hon yn darged hyn yn oed yn fwy uchelgeisiol o ystyried lefel y gwaith - pa mor brysur yw'r Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd ar yr adeg yma o'r flwyddyn ond hefyd 'dan ni'n mynd drwy gyfnod y gwyliau - mae lot o ddiwrnodau i ffwrdd, lot o ddyddiau Gŵyl y Banc ac mae'n staff ni wedi blino."

Disgrifiad o’r llun,

'Bydd rhaid cael gwared â rhai o'r elfennau sy'n bodoli ar hyn o bryd er mwyn brechu pawb," medd Dr Eilir Hughes

"Dwi'n meddwl bod rhaid i ni fod yn realistig - mae yna elfennau, ar hyn o bryd, sy'n bodoli efo'r hyblyn - er enghraifft, sicrhau fod pobl yn cael eu goruchwylio ar ôl ei chael hi," ychwanegodd.

"Petaen nhw yn medru llacio'r rheolau yma - gwneud y gwaith ymarferol yn rhwyddach i feddygfeydd ar draws Cymru - yna dwi'n meddwl bod modd i ni 'neud dipyn o wahaniaeth yn y cyflymder 'dan ni'n rhoi'r frechlyn allan - ond tan 'dan ni'n medru goroesi'r heriau hynny dwi'n teimlo, efallai, bod hi'n rhy anodd ond amser a ddengys ac efallai bod modd i rai o'r pethau 'ma lacio wrth i ni geisio cyflymu."