Omicron: 'Mae'n anochel y bydd pobl yn cael niwed'
- Cyhoeddwyd
Fe allai cynnydd yn achosion Omicron gyrraedd uchafbwynt dros y Nadolig, ac mae'n "anochel y bydd pobl yn cael niwed" yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Dywedodd Dr Frank Atherton bod cyflymder trosglwyddiad yr amrywiolyn diweddaraf yn "achosi i lawer o larymau ganu", a bod yna gynlluniau i geisio cynnig brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn erbyn diwedd Rhagfyr yn lle diwedd Ionawr.
Mae 30 o achosion Omicron wedi eu cofnodi yng Nghymru ac fe ddaeth i'r amlwg bore Llun bod un person eisoes yn yr ysbyty gyda'r haint.
Wrth gydnabod angen i gyflymu'r broses frechu, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan nad oedd am wneud addewidion nes bod sicrwydd o'u cadw a'u gweithredu.
Dywedodd hefyd ei bod am barhau i ddilyn cyngor y Cyd-bwyllgor Imiwneiddio a Brechu (JCVI) i flaenoriaethu brechu unigolion ar sail oedran a chyflyrau meddygol, ac i beidio brechu plant dan 12 oed.
'Y gwahaniaeth rhyngo' ni a Lloegr yw bod ni ddim yn gwneud addewidion tan ein bod ni yn hollol siŵr ein bod ni yn gallu cadw atyn nhw," meddai Ms Morgan ar raglen Dros Frecwast.
"Mae'n timau ni wedi bod yn ddiwyd drwy'r penwythnos yn gweithio i weld a ydyn ni yn gallu cyflymu'r broses.
"Roedd gyda ni gynllun eisoes i roi brechlyn atgyfnerthu i 1.3 miliwn o bobl cyn diwedd Ionawr. Mae'n ofyn mawr dod â hynny ymlaen ond beth ry'n ni yn 'neud, [a'r] tîm wedi bod yn 'neud yng Nghymru yw gweithio drwy'r broses cyn gwneud addewidion.
"Rhaid edrych pryd y mae'r don yn dod pa siâp yw'r don ac ymateb yn gymedrol a bod ni ddim yn cyflwyno mesurau ond nad oes wir raid.
"Dy'n ni ddim eisiau cau lawr cyn Nadolig os nad oes wir angen i ni wneud hynny... ond os bydd angen mesurau, fe fyddwn ni yn gwneud hynny."
Ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd Dr Atherton bod arwyddion o wledydd eraill - yn arbennig De Affrica, ble cofnodwyd yr achos Omicron cyntaf - yn destun pryder.
"Rwy'n poeni'n arw am beth sy'n mynd i ddigwydd [yng Nghymru] dros y bythefnos, tair wythnos nesaf," meddai.
"Ni allwn fforddio i gael niferoedd mawr o bobl yn ymgynnull yr adeg yma o'r flwyddyn."
"Bydd y brig ar gynnydd rhwng nawr a'r Nadolig. Ni alla'i ddweud pa bryd fydd yr uchafbwynt ond rwy'n disgwyl nifer cynyddol o achosion yn y gymuned ac yna mynediadau ysbyty wrth gyrraedd cyfnod y Nadolig a wedi hynny ym mis Ionawr."
Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Daniel Davies
Nid am y tro cyntaf, ry'n ni'n gweld gwahaniaeth yn y ffordd y mae Cymru a Lloegr yn darparu'r brechlyn.
Roedd 'na gyhuddiadau gaeaf diwethaf bod Llywodraeth Cymru'n llusgo'i thraed o'i gymharu â gweddill y DU yn wyneb yr amrywiolyn Delta.
Yn y pen draw, fe wnaeth rhaglen frechu Cymru ddal lan - a goddiweddyd un Llywodraeth y DU.
Mae'n rhaid bod Llywodraeth Cymru'n gobeithio y bydd yr un peth yn digwydd y gaeaf hwn wrth iddi lynu at y cyngor i wahodd y bobol fwyaf bregus i gael eu brechu'n gyntaf, yn hytrach na gosod yr hyn mae Eluned Morgan yn eu galw'n dargedau amheus.
'Penderfyniadau anodd'
Mewn ymateb i'r sefyllfa ddiweddaraf, dywedodd cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg y byddai cynnig brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn erbyn diwedd Rhagfyr yn hytrach na diwedd Ionawr yn bosib ond yn heriol.
"Peidiwch anghofio'r staff clinigol a rhai nad sy'n glinigol rydym eu hangen i weithredu'r rhaglen frechu - yr un adnoddau rydym yn eu defnyddio i gynnal gwasanaethau iechyd cyffredinol," meddai Dr Kelechi Nnoaham.
"Byddai symud e i ddiwedd Rhagfyr yn darged heriol eithriadol a byddai'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn, ond fel y mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd fe fedrwn ni ddygymod, just about."
Yn ôl Dr Eilir Hughes, y meddyg teulu yn Nefyn ble mae sesiynau brechu galw-i-mewn wedi eu trefnu, mae meddygon yn Lloegr yn cwestiynu a fydd modd cyrraedd y targed brechiad atgyfnerthu cyn diwedd y mis.
Dywed y gall ddeall trywydd "mwy gofalus a mwy mesuradwy" Llywodraeth Cymru, "ond mi ydan ni mewn argyfwng ac mae'n rhaid bod mor gyflym â phosib".
Mae o blaid agor canolfannau brechu ddydd a nos "os fedrwch chi gael y staff - dyna'r broblem", ac yn dweud bod dilyn trefn fesul oedran "yn arafu petha', yn anffodus".
Dywedodd hefyd bod "rhaid ystyried... o ddifri" brechu plant dan 12 oed yn sgil "mwy a mwy o dystiolaeth ym Mhrydain" ynghylch marwolaethau ac achosion Covid hir ymhlith plant.
Yn ôl ymgynghorydd gofal dwys o fewn Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Dr Ami Jones, mae'r ysbyty ble mae hi'n gweithio "yn orlawn" ac mae staff eisoes "yn pendroni sut 'dan ni'n mynd i ymdopi".
Dywedodd: "Mae pawb ar eu gliniau, mae wedi bod yn gwpl o flynyddoedd heriol... ry'n ni gyd yn edrych ar ein gilydd ac yn gofyn sut dan ni'n mynd i ddod drwyddi eleni.
"A yw'r GIG yn mynd i fod mewn un darn ddechrau flwyddyn nesaf?"
'Penderfyniadau ar sail data'
Mae angen cyflymu'r rhaglen frechu ar fyrder, medd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, gan fynegi gobaith y bydd Llywodraeth Cymru'n dilyn esiampl Lloegr a'r Alban trwy gynnig trydydd pigiad i oedolion fis ynghynt.
Dywedodd bod hi hefyd yn hanfodol, os am osgoi amharu ar fywydau pobl a'r economi, "i gasglu tystiolaeth i gyfiawnhau unrhyw gyfyngiadau yn hytrach na defnyddio diffyg tystiolaeth i wneud penderfyniadau".
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru mai brechlynnau atgyfnerthu a phrofi yw'r "ddau beth allweddol i daclo ton Omicron".
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth bod rhaid i'r Gwasanaeth Iechyd gael "y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen i roi brechlynnau atgyfnerthu fel blaenoriaeth", ac y dylai unrhyw benderfyniadau pellach fod "ar sail data", gan nad yw effaith Omicron ar y gwasanaeth yn glir eto.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2021