Covid: Mwy o arian i Gymru ac 'ystyried' help i fusnesau
- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth Cymru'n derbyn swm ychwanegol o arian gan Lywodraeth y DU i "daclo'r misoedd allweddol sydd i ddod".
Bydd y Trysorlys yn rhoi arian ychwanegol i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i helpu gyda chyflymu'r rhaglen frechu ac ymateb i'r amrywiolyn Omicron.
Dywedodd Mark Drakeford yn y Senedd ddydd Mawrth y bydd Llywodraeth Cymru yn "ystyried" pa help ariannol y gallai roi i'r sector lletygarwch a thwristiaeth wrth i Omicron "newid ymddygiad cwsmeriaid".
Ychwanegodd y Prif Weinidog wrth ateb cwestiwn am gyfyngiadau Covid-19 mai "cyngor" nid "gorfodaeth" fydd unrhyw newidiadau i reolau yng Nghymru.
'Omicron yn newid ymddygiad pobl'
Dywedodd Trysorlys y DU ddydd Mawrth y bydd arian ychwanegol ar gael i'r gwledydd datganoledig trwy fformiwla Barnett er mwyn "cynllunio ar gyfer y misoedd allweddol sydd i ddod".
Mae disgwyl i gyfran o'r arian fynd tuag at gyflymu'r rhaglen frechu ar ôl i Mark Drakeford gyhoeddi ddydd Llun y bydd pob oedolyn cymwys yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu cyn diwedd y flwyddyn.
Bydd cyfran arall o'r arian yn gallu cael ei ddefnyddio i helpu gyda "materion eraill" Covid-19.
Bydd y Trysorlys yn penderfynu ar swm yr arian dros y dyddiau nesaf gan "adolygu'r swm" dros yr wythnosau i ddod.
Bydd Llywodraeth Cymru yn "ystyried" pa help ariannol y gallai roi i'r sector lletygarwch a thwristiaeth wrth i amrywiolyn Omicron "newid ymddygiad cwsmeriaid" yn ôl Mark Drakeford.
Ychwanegodd yn sesiwn holi'r prif weinidog ddydd Mawrth: "Byddem yn sicr yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU yn barod i sylweddoli'r effaith y mae'r amrywiolyn yn ei gael yn ehangach ar y rhannau o'r economi sy'n cael eu heffeithio mwyaf uniongyrchol."
"Mae'r newyddion am amrywiolyn Omicron yn newid ymddygiad pobl, a does dim amheuaeth o gwbl fod hynny'n cael effaith ar fusnesau yn y diwydiant lletygarwch."
Dywedodd Mr Drakeford wrth aelodau'r Senedd ei fod wedi bod yn rhan o "gyfres o drafodaethau gyda chydweithwyr o Lywodraeth y DU dros y penwythnos ynglŷn â beth allai'r Trysorlys fod yn barod i'w wneud i gefnogi busnesau'n effeithiol" ar draws y Deyrnas Unedig.
'Cyngor' nid 'gorfodaeth' wrth newid rheolau
Ychwanegodd y Prif Weinidog y bydd yn debygol mai 'cyngor' nid 'gorfodaeth' fydd unrhyw newidiadau i reolau Covid-19 yng Nghymru.
Mae Prif Weinidog Yr Alban Nicola Sturgeon wedi "cynghori" pobl i beidio cymdeithasu gyda mwy na thri chartref heblaw am ddydd Nadolig.
Wrth ateb cwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn y Senedd, dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r dull o roi cyngor cryf ar gael i ni, ac mae'n rhywbeth y byddwn yn dymuno ystyried fel cabinet yr wythnos hon."
Bydd Mark Drakeford yn adolygu cyfyngiadau Covid-19 Cymru mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021