Addunedau: 'Ail-osod y cloc' neu 'bywyd yn rhy fyr'?
- Cyhoeddwyd
Yn ôl y sôn y Babiloniaid hynafol oedd y bobl gyntaf i wneud addunedau Blwyddyn Newydd, rhyw 4,000 o flynyddoedd yn ôl.
Nhw hefyd oedd y cyntaf i gynnal dathliadau i groesawu'r flwyddyn newydd - er iddyn nhw, byddai dechrau'r flwyddyn yng nghanol mis Mawrth yn hytrach na dechrau Ionawr.
Yn ystod gŵyl grefyddol enfawr 12 diwrnod o'r enw Akitu, bydden nhw'n gwneud addewidion i fod yn bobl well a thalu eu dyledion. Gellid ystyried yr addewidion hyn yn rhagflaenwyr addunedau'r flwyddyn yr ydyn ni'n eu gwneud yn flynyddol.
Gwir dweud fod bobl ar hyd y wlad yn eu gwneud gan gynnwys ambell wyneb cyfarwydd. Cafodd Cymru Fyw air gydag ambell un am yr addewidion mae nhw'n eu gwneud.
Siw Hughes
Mae Siw yn gyfarwydd i bob un ohonom fel Kath Jones ar Pobol y Cwm ond beth yw ei theimladau hi am addunedau blwyddyn newydd?
"Fawr ddim â deud y gwir. Dwi'n ofni fod pobl yn rhoi gormod o bwysau arnyn nhw eu hunain wrth lynu at addunedau. Addewid i'r hunan ydy o mewn gwirionedd, felly m'ond chi'ch hun 'da chi'n siomi wrth faglu neu fethu. Maddeuwch ac ymlaciwch. Dydi o ddim yn ddiwadd byd nac ydy?"
Ond ydi'r actores yn un am wneud addewidion?
"Dwi wedi gneud addunedau yn y gorffennol a'u torri fore trannoeth reit aml! Cosbi fy hun yn ofnadwy wedyn am 'fethu'. Os ydy rwbath yn ddigon pwysig i chi mi wnewch o waeth pa amser y flwyddyn.
"Wnes i ddim addunedu llynedd gan i ni fyw drwy gyfnod mor ansicr. Digon oedd bodloni ar fod yn ddiogel rhag yr aflwydd a pheidio creu disgwyliadau mawr."
Beth am eleni?
"Na, bydda i ddim yn addunedu eleni. Mae bywyd rhy fyr a rhy werthfawr. Dyddiad ar galendr ydy o ar ddiwedd y dydd. Does dim rhaid gwaredu arferion drwg a chychwyn rhai da yn benodol ar Ionawr 1af, siawns?"
A beth am obeithion Siw am 2022?
"Cael yr iechyd i grwydro'r famwlad yn y campyrfan, a symud yn nes at Gymru rydd."
Tudur Owen
Mae'r comedïwr a chyflwynydd yn llais cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru ac yn wyneb cyfarwydd ar S4C. Bydd sioe arbennig ganddo o'r enw O'r Diwedd ar S4C am 9 o'r gloch Nos Calan yn edrych nôl ar 2021, ond ydi Tudur yn un am gadw at ei addewidion?
"Dwi'n cofio cael dyddiadur newydd gan Mam bob 'Dolig pan yn blentyn, ac am yr wythnosau cyntaf o'r flwyddyn mi fyddai pob manylyn o fy mywyd yn mynd i mewn i'r dyddiadur, ond erbyn diwedd Ionawr roedd y tudalennau yn hollol wag am weddill y flwyddyn.
"Yr un ydi'r stori hefo fy addunedau; syniad neis ond hollol anymarferol.
Ond beth am 2021 - oedd adduned?
"Gan fy mod i wedi rhoi stôn cyfan o bwysa' ymlaen yn ystod y locdown cyntaf, 'nes i adduned y baswn i'n colli pwysa' yn 2021. A dwi mor falch o ddeud mai hwnna ydi'r unig adduned sydd wedi gweithio - o'n i wedi colli dwy stôn erbyn mis Mai."
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Oes adduned ar y gweill ar gyfer y flwyddyn nesaf?
"Mae'r flwyddyn newydd yn handi fel dyddiad i'w ddefnyddio ar gyfer ail-osod y cloc, fel petai. Ond mae o'n gallu bod yn rhyw linell derfyn ddychmygol sy'n rhoi lot o bwysa' ar bobl.
"A hefyd dydi'r teimlad o ddeffro ar y soffa ar Ionawr 1af efo cur yn dy ben ddim yn ddechreuad da i unrhyw flwyddyn!
"Fy adduned yn 2022, am y tro cyntaf erioed ydi i wneud llai. h.y. dwi isio bod yn fwy diog. Dwi wedi penderfynu 'na pobl diog sy'n mynd i achub y blaned.
"Llai nid Mwy! Dyna fydd fy slogan ar gyfer 2022."
Melanie Owen
Tydi'r ddarlledwraig a newyddiadurwraig Melanie Owen ddim yn gwneud addunedau, ond yn hytrach meddai hi yn "Gwneud dewisiadau am sut dwi isho byw bywyd - mwy o switch up i fy agwedd."
Ond o ofyn os wnaeth hi rai o'r dewisiadau yma y llynedd, daeth yr ateb yn glir: "Do! 'Nes i benderfynu credu yn fy hun fwy a bod yn fwy hyderus, a pheidio cymryd 'na' fel ateb terfynol."
Esboniodd fod hyn wedi gwneud pethau'n bositif iawn iddi yn 2021.
"O'dd pawb wedi dweud na i'r syniad o bodlediad MelMalJal, dolen allanol, so nes i feddwl, 'ocê 'na'i jest 'neud e fy hun' ac mae wedi bod yn briliant ac wedi agor cymaint o ddrysau i fi ."
A beth am flwyddyn yma? Ydi Melanie am wneud penderfyniad tebyg?
"Ydw. Yn 2022 fi am wthio fy hun gymaint â fi'n gallu. Fi'n 26 nawr a ma' cyment fi ishe neud cyn fi'n 30, so flwyddyn yma 'sai'n mynd i ymddiheuro am wthio fy hun, fi jest am 'neud e!"
Felly beth amdanoch chi? Ydych chi am wneud adduned fel Tudur, penderfyniad Mel neu ydych chi'n cytuno gyd Siw fod 'bywyd yn rhy fyr'?
Beth bynnag wnewch chi, mi ydyn ni i gyd yn sicr yn gobeithio am flwyddyn newydd dda!