Dau'n ddieuog o ddynladdiad yn sgil cwymp eglwys
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi eu cael yn ddieuog o ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd yn achos sgaffaldiwr a fu farw pan gwympodd wal eglwys yng Nghaerdydd.
Ond fe gafwyd Keith Young, o Landochau Fach, Bro Morgannwg a Stewart Swain, o ardal Yr Eglwys Newydd, Caerdydd yn euog o dorri rheolau iechyd a diogelwch.
Cafodd Jeff Plevey, oedd yn 56 oed ac o Gaerdydd, ei wasgu i farwolaeth yn ystod gwaith dymchwel Eglwys Citadel yn Sblot yng Ngorffennaf 2017.
Bydd y ddau ddiffynnydd yn cael eu dedfrydu yn y flwyddyn newydd, ynghyd â dau ddyn arall oedd wedi pledio'n euog i dorri rheolau iechyd a diogelwch.
Bu farw Mr Plevey pan ildiodd wal gefn yr eglwys wrth iddo weithio arno.
Wedi achos a barodd am 11 wythnos, fe benderfynodd rheithgor yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe - o fwyafrif - bod Swain a Young yn euog o fethu â gyflawni eu dyletswyddau dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Swain yw cyfarwyddwr y cwmni sgaffaldiau Swain Scaffolding Ltd a Young yw cyfarwyddwr y cwmni dymchwel Young Contractors, oedd yn rhan o'r gwaith o ddymchwel yr eglwys.
Cafwyd dau ddyn arall, gan gynnwys perchennog yr eglwys, yn ddieuog o droseddau iechyd a diogelwch.
Roedd dau ddiffynnydd arall eisoes wedi cyfaddef torri rheolau iechyd a diogelwch - Phil Thomas o Gaerdydd, sef ymgynghorydd iechyd a diogelwch Young, a Richard Dean o Abertyleri, sy'n ymgynghorydd peirianneg.
'Gall Dad orffwys nawr'
Mewn datganiad yn dilyn y dyfarniadau, dywedodd plant Mr Plevey, Lauren a Joshua bod y cyfnod ers ei farwolaeth wedi bod "heriol i ni gyd", a'u bod yn ddiolchgar i bawb "a weithiodd yn ddiflino i gael atebion i'n teulu".
Ychwanegodd y datganiad: "Rydym mor falch ein bod o'r diwedd wedi dod i derfyn proses mor hirfaith. Gallwn dynnu llinell oddi tano, gall Dad orffwys nawr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2017