Diwrnod mewn canolfan frechu: Profiadau pobl Llangefni

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llinos Morris gyda'r brechlyn
Disgrifiad o’r llun,

Llinos Morris, un o'r tîm, gyda photel o'r brechlyn

Gyda chanolfannau ar hyd a lled Cymru yn cael eu defnyddio i gynnig trydydd brechlyn i bob oedolyn sy'n gymwys erbyn diwedd Rhagfyr, BBC Cymru gafodd ymweld â chanolfan yn y gogledd i gyfarfod y staff a gweld sut mae'r broses yn gweithio.

Mae'n waith digon rhewllyd am wyth y bore wrth i dîm Betsi Cadwaladr baratoi i gludo'r brechiad Pfizer o'i storfa oer ym Mangor i un o'u canolfannau dros dro yn y gymuned.

Rhaid ei gadw ar dymheredd penodol, ac Alex Rooke Dennis sy'n gyfrifol am drosglwyddo'r poteli bach o'r oergell i fag oer, ac ar eu taith.

Disgrifiad o’r llun,

Alex Rooke Dennis, o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn sicrhau bod y frechlyn yn ddiogel ar gyfer y daith

"Mae'n rhaid gwneud yn siŵr nad ydi o allan o'r ffrij am rhy hir," meddai.

"Mae lot o gyfrifoldeb efo'r job achos heb rhain does 'na ddim clinig ag efo bob dim sydd 'di bod yn mynd ymlaen mae lot o bobl yn dibynnu ar rhain i gael bywyd normal eto."

I Glwb Pêl-droed Llangefni mae'r brechlynnau yn cael eu trosglwyddo, un o'r cannoedd o lefydd sydd wedi eu defnyddio gan fwrdd iechyd y gogledd eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Dau o'r bron i bum cant o bobl oedd efo apwyntiad i gael brechlyn yn Llangefni

Mae'r tîm brechu wedi bod yno ers wyth yn paratoi'r lleoliad drwy osod arwyddion, byrddau, cadeiriau a digon o boteli diheintio.

Am 09:30 mae'r drysau yn agor ac un o'r cyntaf i gyrraedd ydi Elfed Rowlands, o Fenllech.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd y fantais o gael y frechiad i sicrhau iechyd pawb," meddai wrth raglen Newyddion 2021 ar S4C.

"Mae'r pethau yma yn hollbwysig - a pwysig ein bod ni'n cael y cyfle i ddod yma fel ein bod ni ddim yn gorfod teithio i Fangor a Chaergybi."

Disgrifiad o’r llun,

Elfed Rowlands yn barod i gael ei drydydd pigiad

Yn wahanol i'r AstraZeneca, gyda'r Pfizer mRNA mae'n rhaid aros am chwarter awr ar ôl ei derbyn cyn gadael y ganolfan i wneud yn siŵr fod popeth yn iawn.

Gyda phryder am yr amrywiolyn newydd Omicron, a'r brys i roi'r drydydd pigiad i gymaint o'r boblogaeth â phosib, mae angen i'r rheolwr nyrsio Non Smith gadw'r broses yn llyfn drwy'r dydd.

"'Dan ni'n gwneud o gwmpas y 480 mewn diwrnod llawn, mae'n glinig prysur ofnadwy," meddai.

"Ro'n i'n arfer gweithio efo tîm nyrsio brechu ysgol so dwi wedi arfer efo lot o blant o gwmpas a ma' hwn yn eitha' tebyg.

"'Dan ni'n gweithio allan sut ydan ni'n cael y trefn i weithio drwy'r dydd, a mae'r tîm yn dda ofnadwy ac wedyn yn just get on with it."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rheolwr nyrsio Non Smith yn gweithio yng nghanolfannau brechu Ynys Môn a Bangor

Mae dros 500 o staff yn gweithio i dîm brechu Betsi Cadwaladr - rhai wedi eu hail-hyfforddi, a staff newydd wedi eu recriwtio.

Drwy'r dydd mae'r llif o bobl yn gyson a dim stop ar y broses. Mae'n rhaid cadw golwg ar y stôr o'r brechlyn a chadw gwaith papur manwl.

Llinos Morris, oedd yn arfer gweithio i adran gwasanaeth cwsmer y Post Brenhinol cyn ymuno gyda'r tîm brechu ar ddechrau'r pandemig, sy'n gyfrifol.

"Mae 'na system o bwy sy'n cael pa vial, faint sy'n dod 'nôl a ma' angen cadw trac ar y papurau, a thymheredd y ffrij a chadw trac o faint o vials sydd ar ôl," meddai.

"Mae'n responsibility reit fawr ond mae'n rhywbeth sy'n rhaid ei wneud ac mae'n bwysig bod ni'n cael o'n iawn."

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi’n mwynhau - mae’n grêt ac mae'r bobl yn grêt, ond mae'n brysur," meddai Teifion Wyn Jones, wnaeth ymuno â'r tîm brechu ar ôl graddio mewn gwyddoniaeth cyn yr haf

Dydi'r tîm ddim yn gwbl newydd, mae 'na rai sydd wedi ymddeol o'r gwasanaeth iechyd - ac wedi dod yn eu hôl.

Fe wnaeth Eleri Fôn Roberts ymddeol fel nyrs i blant gyda lewcemia bedair blynedd yn ôl cyn dod 'nôl i'r byd iechyd fis Hydref eleni.

"Flwyddyn ddiwetha' pan wnaeth hyn i gyd ddigwydd, a'm mhartner a fi splitio, neshi ffeindio hi'n anodd iawn bod ar ben fy hun a do'n i'n ddim isio wynebu gaeaf arall ben fy hun, er bod gen i deulu yn lleol," meddai.

"Dwi wrth fy modd ac mor falch mod i wedi dod yn ôl, cael gweld gymaint o bobl a 'da chi'n cael lot o hanesion.

"Dwi'n gwybod bod ni'n trio gwneud y gwaith yn sydyn ond weithia pam 'da ni'n cael yr henoed ma' nhw jest eisiau jangl bach."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eleri Fôn Roberts yn hoff o gael sgwrs gyda'r cleifion pan fyddan nhw'n dod am eu pigiad

Wrth iddi nosi mae'r tîm yn gwneud yn siŵr nad oes gormod o'r Pfizer yn cael eu hagor ar yr un pryd er mwyn gwneud yn siŵr na fydd unrhyw boteli ar eu hanner yn cael eu gwastraffu.

Toc cyn saith y nos, a'r olaf wedi cael y pigiad, mae'r poteli sy'n weddill yn cael eu trosglwyddo yn ôl i'r brif storfa ym Mangor ac mae'r staff yn Llangefni yn paratoi at y bore wedyn.

Gyda 480 wedi eu brechu mae'n waith caled, meddai Non Smith, ond mae hi'n falch o fod yn rhan o'r broses.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r gwirfoddolwyr Rosemari Heaney yn cyfarch pobl wrth iddyn nhw gyrraedd: "Dwi’n falch mod i’n medru helpu, dwi'n gwybod pa mor bwysig ydi o."

"Dwi'n teimlo'n privileged ofnadwy i fod yn rhan o rywbeth mor fawr ac mor bwysig yn ein bywydau ar hyn o bryd," meddai.

"Mae'n lot, lot o waith - mwy nag ydw i erioed wedi gweithio ac eto you reap what you sow a 'dan ni'n gobeithio cael cymdeithas nôl yn normal cyn gynted â phosib."