Penri Jones, athro ac awdur Jabas, wedi marw yn 78 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r athro a'r awdur Penri Jones wedi marw yn 78 oed ar ôl salwch byr.
Mae'n fwyaf adnabyddus am ysgrifennu'r gyfrol Jabas a ddaeth wedyn yn gyfres deledu boblogaidd.
Ef hefyd oedd cyd-sylfaenydd y cylchgrawn Cymraeg dychanol Lol yn 1965.
Yn enedigol o Lŷn, cynrychiolodd ei gymuned yn Llanbedrog ar Gyngor Gwynedd.
Roedd yn athro o ran galwedigaeth, ond fe ysgrifennodd nifer o nofelau, gan gynnwys Cymru Ar Werth, Clwyfau, a Dan Leuad Llŷn.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn teyrnged, dywedodd cynhyrchydd y gyfres deledu, Jabas, bod cydweithio â Penri Jones yn "fraint".
"Yn nyddiau cynnar S4C roedd galw am ddeunydd teledu cyfoes a chyffrous ar gyfer plant a phobol ifanc," eglura Norman Williams wrth BBC Cymru Fyw.
"Roedd Jabas, nofel boblogaidd ac unigryw Penri Jones yn cynnig y cyfan a mwy.
"Fel athro ysgol uwchradd, gwyddai Penri'n union be fyddai'n plesio a gosododd ei gymeriadau lliwgar a'i straeon cyfoes ynghanol realiti bywyd Pen Llŷn yn yr 80au.
"Llwyddodd y cyfresi teledu i ddenu cynulleidfa newydd i S4C, a'r actorion ifanc yn profi eilun addoliaeth yn eu sgîl.
"Ynghanol y cyfan, parhau i fod mor ddiymhongar ag erioed fu hanes Penri, a braint oedd cael cydweithio efo Cymro cadarn gafodd sawl 'brênwêf' yn ei fywyd."
'Bydde 'na dim Lolfa oni bai am Penri'
Fe wnaeth Robat Gruffudd, sylfaenydd gwasg y Lolfa, roi teyrnged i Penri Jones ddydd Llun.
Wedi i'r ddau gwrdd yn y brifysgol ym Mangor yn y 1960au, fe wnaethon nhw gyhoeddi rhifyn cyntaf cylchgrawn Lol ar y cyd fel myfyrwyr cyn cynllunio i greu gwasg newydd.
"Un nos Wener yn ein tymor olaf ni, ar ôl peint neu ddau... daethon ni 'nol i'n tŷ ni yn Sgwâr Cyffin a llofnodi dogfen yn ymrwymo ni i sefydlu gwasg newydd," dywedodd Mr Gruffudd.
"Yr enw byddai'r Lolfa. Bydde 'na dim Lol na Lolfa oni bai am Penri.
Fe wnaeth Mr Gruffudd ganmol llwyddiant Mr Jones i "daro tant" gyda phobl ifanc, "gan ddenu cynulleidfa newydd at lyfrau Cymraeg".
Ychwanegodd fod Mr Jones yn "berson gwleidyddol yn yr ystyr iawn".
Fe wnaeth y ddau fynychu protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith, meddai, ac fel cynghorydd sir fe weithiodd Mr Jones yn "ddiddiolch, ond oedd e'n 'neud y cyfan er mwyn yr iaith".
"Mae'r sgyrsiau 'na gaethon ni ym Mangor Uchaf yn yr hen flynyddoedd maith yn ôl yn daran ysbrydoliaeth."
'Cariad angerddol tuag at Gymru'
Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn fod Penri Jones yn "genedlaetholwr, dyn y pethe, un oedd â dawn geiriau arbennig ac a ddylanwadodd ar gannoedd o blant fel athro".
"Roedd yn fraint cydweithio â Penri oedd mor gadarn ei farn, gŵr cwbl ddiymhongar, dyn ei filltir sgwâr ac a oedd â chariad angerddol tuag at Gymru, y Gymraeg a phopeth oedd yn ymwneud â Llŷn," meddai.
Ychwanegodd y Cynghorydd Simon Glyn, cadeirydd y cyngor: "Gwasanaethodd Penri yn frwd dros ei ardal a thros Gymru am flynyddoedd lawer a bydd coffa da amdano fel aelod o Gyngor Gwynedd ac yn arbennig waith allweddol wrth ddatblygu polisi iaith y sir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2016