Cofio Cymry'r Titanic

TitanicFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

A hithau yn 113 mlynedd ers suddo'r Titanic ar 15 Ebrill 1912, cafodd Ifan Pleming wahoddiad i roi sgwrs yng nghynhadledd y British Titanic Society yn Lerpwl, ynglŷn â chysylltiadau Cymru â'r llong chwedlonol.

Yma, mae Ifan yn adrodd ychydig o hanes y Cymry a gafodd eu hanfarwoli drwy eu cysylltiad â'r llong 'nad oedd modd ei suddo'.

Y criw

Mae gan y teulu Ismay gysylltiadau â Chymru. Thomas Henry Ismay oedd perchennog y White Star Line, ac roedd ei fab, Joseph Bruce Ismay, ar fwrdd y Titanic yn rhinwedd ei swydd fel rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni.

Roedd Thomas yn ymwelydd cyson â Llandegfan, Biwmares a Chaernarfon, gan bod gan ei bartner busnes William Imrie blasty yn Llandegfan – Bryn Mel.

Diddorol yw nodi hefyd bod gan Ismay 32 siâr mewn llong o Bwllheli, y Charles Brownell, yn ystod ei ddyddiau cynnar fel gŵr busnes.

Cafodd Harold Lowe o'r Bermo, Pumed Swyddog y Titanic, brentisiaeth Gymreig. Anfarwolwyd ef gan Ioan Gruffudd yn ffilm James Cameron o 1997.

Harold Lowe a'r swyddogion eraill a oroesoddFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Harold Lowe (chwith) oedd un o'r pedwar swyddog a oroesodd y trasiedi

Cychwynnodd o ddifrif ar yr Aeron Lass, sgwner o Aberarth. Yn ddiweddarach, ymunodd â chwmnïau Lerpwl, yr Alfred Holt a'r Elder Dempster.

Gelwid yr Alfred Holt Line, neu'r Blue Funnel Line yn 'Welsh Navy' oherwydd bod cymaint wedi ymuno â hi o bentrefi arfordirol gogledd-orllewin Cymru, ac ni ellir anghofio mai Cymro o Gaerfyrddin oedd Syr Alfred Lewis Jones, pennaeth yr Elder Dempster.

Frederick FleetFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Frederick Fleet a welodd y mynydd iâ, ond yn rhy hwyr i'r Titanic i'w osgoi

Roedd Frederick Fleet, a oedd yn y Crow's Nest wrth i'r Titanic daro'r mynydd rhew, ar y Clio ger Bangor yn ôl Cyfrifiad 1901.

Roedd His Majesty's Industrial Training Ship Clio yn codi ofn ar blant yng Nghymru a thu hwnt, gan mai hon oedd y llong 'hogiau drwg'. Roedd yn 'achub' lladron, anffodusion, tlodion a'r rhai a ystyrid yn gymdeithasol annerbyniol, a'u derbyn ar ei bwrdd er mwyn eu disgyblu, dysgu gwerthoedd a sut i fihafio.

Roedd Ynadon, cyn belled â Chaerfyrddin yn bygwth y Clio ar blant, ac un yn dweud, ar ôl dedfrydu cosb o ddirwy am ddwyn - "this is the last time I shall be merciful, should we meet again it's the Clio for you, boy".

His Majesty's Industrial Training Ship ClioFfynhonnell y llun, Pickering, Charles Percy/Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Frederick Fleet o long yr 'hogiau drwg', y Clio, i'r Titanic - 'llong breuddwydion'... a drodd yn hunllef

Y dyn nad oedd yno...

Ymddangosodd llun Joseph Evans o Dreffynnon yn y papurau newydd fel llun o'r criw a gollwyd ar y Titanic, ond ni fu ef ar gyfyl y llong.

Yn gynnar yn ei fywyd symudodd i Gaernarfon ac ymunodd â'r White Star Line yn 1891. Buan iawn y gwelodd ei hun yn brif swyddog yr Olympic, chwaer-long y Titanic, a hynny am un fordaith yn unig, ond daeth y penodiad hwnnw â pheth anfarwoldeb iddo.

Joseph Evans ar yr Olympic 1911Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

(o'r chwith) William McMaster Murdoch (Swyddog Cyntaf); Joseph Evans (Prif Swyddog); David Alexander (Pedwerydd Swyddog); Capten Edward John Smith - bu farw William Murdoch a Chapten Smith ar y Titanic, ond mae'r llun yma o fordaith gyntaf yr Olympic yn 1911

Mae academydd, Hermann Soeldner wedi awgrymu bod prinder lluniau o swyddogion y Titanic wedi'r drychineb a bod y llun hwn, a dynnwyd yn Southampton cyn i'r Olympic adael ar ei thaith gyntaf i Efrog Newydd ar 14 Mehefin 1911, ar gael yn weddol ddidrafferth.

Tynnwyd y llun pan oedd Joseph Evans yn brif Swyddog i Edward John Smith, a William McMaster Murdoch yn Swyddog Cyntaf ar yr Olympic. Wedi'r cyfan, roedd yr Olympic bron yn union yr un fath a'r Titanic a'r ddau swyddog a gollwyd yn rhan o'r llun.

Cynnig help

Roedd Arthur Ernest Moore yn felinydd a dyfeisydd o'r Coed Duon, ac yn ŵr eithaf ecsentrig. Dyfeisiodd feic iddo allu ei reidio ar ôl colli ei goes mewn damwain yn y felin.

Roedd wedi dotio ar y Radio Marconi, ac wedi adeiladu set yn llofft y felin. Arni, clywodd un o alwadau radio olaf y Titanic o ganol yr Iwerydd.

Artie Moore
Disgrifiad o’r llun,

Doedd neb yn coelio Artie Moore pan glywodd am y Titanic yn galw am help dros y radio

Ar hynny, aeth i'r orsaf Heddlu leol i ddweud y newyddion, ond cafodd rybudd y byddai'n cael ei arestio am fod yn 'lunatic'.

Er gwaethaf hyn oll, profwyd Artie yn iawn, ac yn ddiweddarach, fe gafodd ysgoloriaeth gan Fwrdd Addysg Sir Fynwy i fynd i astudio yn y British School of Telegraphy a swydd gan Marconi.

Thomas William Jones a Countess of RothesFfynhonnell y llun, Wikipedia/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Thomas William Jones oedd yn gyfrifol am gwch achub rhif 8 - daeth yn ffrindiau â'r Countess of Rothes, a oedd ar y cwch

Roedd Thomas William Jones yn Able Seaman ar y Titanic. Aeth i'r môr gyda'i dad yn cario brics coch o Amlwch i Lerpwl.

Ar noson y drychineb, rhoddwyd y cyfrifoldeb o gwch achub rhif 8 i Jones. Bu'n dyst i ffrae rhwng gŵr a gwraig oedrannus, Isador ac Ida Straus, yn ôl bob tebyg, ac ni adawodd yr un o'r ddau gydag ef.

Yn y cwch achub, gwnaeth Jones ffrindiau am oes â'r Countess of Rothes, ac fe roddodd rif y cwch achub iddi ar blac, am iddi helpu i lywio'r cwch mor dda.

Gwrthododd Twm arian gan y Iarlles am achub ei bywyd, ond cytunodd i dderbyn lampau paraffin i Gapel Tregele. Bu'r ddau yn ffrindiau mynwesol am weddill eu bywydau.

Y teithwyr

Dau oedd yn deithwyr trydydd dosbarth ar y Titanic oedd David John Bowen a Leslie Williams, y naill o Dreherbert, a'r llall o Donypandy. Roedd y ddau ar eu ffordd ar daith focsio, diolch i gontract rhwng Frank Torreyson a Charles Barnett.

David John BowenFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r bocsiwr David John Bowen ar y Titanic - mewn llythyr at ei fam yn dyddio o 11 Ebrill, dywedodd fod y llong 'bron mor fawr â Threherbert'

Nid nhw oedd y ddau gyntaf a ddewiswyd i fynd allan yno, ac roeddent i fod i deithio ar y Lusitania wythnos ynghynt, ond drwy ffawd creulon, bu i'r ddau ganfod eu hunain ar y Titanic, a collasant eu bywydau.

Pynciau cysylltiedig