Dewch i grwydro... Sir Benfro

Keith ThomasFfynhonnell y llun, Keith Thomas
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru Fyw wedi gofyn i dywysyddion swyddogol o amgylch Cymru i roi cyngor am lefydd difyr i fynd dros gyfnod gwyliau'r Pasg.

Mae Keith Thomas yn byw ym mhentre' bach Llanrhian ar arfordir gogledd Sir Benfro.

Mae'n gweithio fel tywysydd yn arwain teithiau i ymwelwyr o amgylch Cymru gyfan.

Dyma ddewis Keith am lefydd difyr i fynd dros wyliau'r Pasg ac ar benwythnosau yn ardal Sir Benfro a de orllewin Cymru.

Castell Caeriw, Sir Benfro

Castell CaeriwFfynhonnell y llun, Wikipedia

Mae 'na amryw o gestyll gallwch ymweld â nhw yn Sir Benfro.

Un o ffefrynnau Keith yw Castell Caeriw, a hynny am sawl rheswm.

Yn ôl Keith: "Mae'r castell ei hun yn enghraifft dda o adeilad sydd wedi ei addasu a newid dros bron i 500 mlynedd.

"Yn wreiddiol, roedd yn perthyn i Rhys ap Tewdwr, cyn iddo gael ei ladd gan y Normaniaid. Hwn hefyd oedd cartef (neu un ohonynt!) y Dywysoges Nest – un o fenywod mwyaf enwog Cymru, ac yn fam-gu i Gerallt Gymro," meddai.

Hanner milltir i ffwrdd o'r castell mae "un o drysorau cudd y Sir, sef pentref Carew Cheriton," meddai Keith.

Nepell i'r castell mae hen eglwys Santes Fair, lle y claddwyd un o berchnogion enwoca'r castell, sef Rhys ap Tomos.

Yn ôl yr hanes, fe oedd y dyn laddodd y Brenin Richard III yn 1485, ac wrth wneud hynny, rhoi'r Cymro Harri Tudur ar yr orsedd.

Porth Stinan

Porth StinanFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Tyddewi yn fan poblogaidd iawn, ond rhyw ddwy filltir i'r gorllewin mae Porth Stinan.

Wrth gerdded ar lwybr yr arfordir y byddwch yn pasio safle bad achub Tyddewi ac mae'r golygfeydd tuag at Ynys Dewi yn odidog.

Eglwys Sain Brynach

Eglwys Sain BrynachFfynhonnell y llun, Wikipedia

Mae eglwys Sain Brynach wedi'i lleoli ym mhentref Nanhyfer. Roedd Sain Brynach yn un o ddilynwyr Dewi Sant ac mae eglwys yma i gofio amdano.

Mae'r garreg Geltaidd sydd yn sefyll ym mynwent yr eglwys yn un o'r enghreifftiau gorau o gerrig tebyg sydd yng Nghymru.

Ar ddrws yr eglwys hefyd mae carreg hynafol arall, sy'n cynnwys ysgrifen Ogham, sef wyddor gynnar Wyddelig.

Pentre Ifan

Pentre IfanFfynhonnell y llun, Wikipedia

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn archeoleg, mae Pentre Ifan, sy' tu allan i Drefdraeth, yn lle delfrydol i fynd.

Yma mae safle claddu sydd dros 5,000 o flynyddoedd oed. Mae'r cerrig hyn yn dystiolaeth fod pobl wedi bod yn byw yn Sir Benfro miloedd o flynyddoedd yn ôl.

Mae chwarel yn agos iawn i'r safle yma hefyd, a'r sôn fod cerrig enwog Stonehenge, 160 milltir i ffwrdd, wedi cael eu cario oddi yno.

Pynciau cysylltiedig