Oedi'r penderfyniad i gyfyngu BBC Sounds i'r Deyrnas Unedig yn unig

- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC wedi oedi'r penderfyniad dadleuol i gyfyngu ap BBC Sounds i'r Deyrnas Unedig yn unig.
Roedd Cymry alltud ymhlith nifer o wrandawyr dramor oedd yn gwrthwynebu'r penderfyniad gan adain fasnachol y gorfforaeth, BBC Studios, oherwydd byddai'n golygu na fydden nhw'n gallu defnyddio BBC Sounds i wrando ar Radio Cymru.
Mae gwasanaeth newydd gan y BBC ar gyfer gwrandawyr y tu allan i'r DU wedi dechrau yn ddiweddar, sy'n cynnwys podlediadau a gorsafoedd Radio 4 a'r World Service, ac roedd disgwyl y byddai BBC Sounds yn cael ei gau dramor yn ddiweddarach eleni.
Ond mae'r BBC bellach yn dweud eu bod yn gweithio ar gynlluniau "i sicrhau argaeledd gorsafoedd eraill y BBC i wrandawyr y tu allan i'r DU ar lwyfannau eraill".
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
Ychwanegodd llefarydd y BBC fod "hynny'n cynnwys gorsafoedd cerddoriaeth y BBC, Radio 1, Radio 2 a Radio 3, 6Music, 1Xtra a'r Asian Network, yn ogystal â gorsafoedd y BBC yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau".
Yn ôl y gorfforaeth fe fydden nhw'n rhoi blaenoriaeth "i wledydd lle mae'r galw am wasanaethau sain y BBC ar ei ucha'".
Cyhoeddodd y BBC na fydden nhw'n cau BBC Sounds y tu allan i'r DU hyd nes eu bod wedi cadarnhau'r cynlluniau hynny.
Fe ddaeth i'r amlwg fis Mawrth bod newid ar y gorwel i ddarpariaeth radio'r BBC dramor, ac ar y pryd dywedodd siaradwyr Cymraeg sy'n defnyddio BBC Sounds i wrando ar Radio Cymru dramor bod y newyddion yn siom ac yn dipyn o sioc.

Dywedodd Andy Bell bod y cyhoeddiad yn "addawol"
Wrth siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Gwener, dywedodd y newyddiadurwr Andy Bell, sy'n byw yn Awstralia, bod y cyhoeddiad yn "addawol".
Mae'n gyfrifol am bodlediad Rhaglen Cymru sy'n trafod y cyfryngau Cymraeg, ac mae'n dweud iddo dderbyn tipyn o ymateb o Batagonia, yr Unol Daleithiau yn ogystal ag Awstralia i'r cynllun i gau BBC Sounds i wrandawyr tramor.
Cafodd y datganiad yn cadarnhau'r oedi ei gyhoeddi gyntaf ar wefan newyddion BBC Gogledd Iwerddon, ac mae Andy Bell yn credu bod hynny'n arwyddocaol.
"Oedd 'na gryn drafod yn Iwerddon yn ddiweddar os oedd y penderfyniad i roi taw ar BBC Sounds yn fyd eang, yn atal y gwasanaeth rhag cyrraedd rhai gwrandawyr yng Ngweriniaeth Iwerddon - a bod hynny'n mynd yn groes i gytundeb dydd Gwener y Groglith," meddai Andy Bell.
Yn dilyn datganiad diweddara'r BBC, ychwanegodd ei fod yn "weddol hyderus bydd y Gymraeg a'r Gaeleg a'r Wyddeleg yn dal i'w clywed trwy BBC Sounds flwyddyn nesa'".