'Rhaid gwerthu Oakwood yn fuan cyn i broblem tresmasu waethygu'

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn "sawl galwad" yn ymwneud â thresmasu yn Oakwood
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwerthu parc antur Oakwood yn Sir Benfro cyn gynted â phosib yn dilyn tresmasu ar y safle, yn ôl AS.
Dros fis wedi cau'r safle, mae Sam Kurtz, Aelod o'r Senedd Ceidwadol o Sir Benfro, wedi dweud mai'r hiraf y bydd y safle'n wag, bydd "yn cynyddu'r siawns" o broblemau eraill gyda phobl yn tresmasu ar y safle ger Arberth.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn "sawl galwad" yn ymwneud â phobl yn tresmasu ar y safle, gyda phobl yn crwydro'r parc antur ac yn postio'r fideos ar Youtube a TikTok.
Nid yw Aspro, sy'n berchen Oakwood, wedi ymateb i gais am ymateb.

Mae arwyddion yn rhybuddio yn erbyn tresmasu ar giatiau Oakwood
Cadarnhaodd Aspro ar ddechrau Mawrth na fyddai parc antur Oakwood yn ailagor ar gyfer tymor 2025 "yn dilyn adolygiad strategol o'r busnes".
Dywedodd y cwmni eu bod wedi penderfynu cau'r safle eiconig "oherwydd heriau a gyflwynwyd gyda'r amgylchedd busnes presennol", gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr a pherfformiad ariannol y parc.
Dywedodd Sam Kurtz ei fod yn poeni am adroddiadau o dresmasu:
"Mwy o bethau fel 'na sydd yn mynd i ddigwydd. Dyna pam mae fe mor bwysig i gael e i ailagor, beth bynnag bydd e, mor gloi â phosib."
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn "sawl galwad" yn ymwneud â thresmasu ar safle Oakwood ers iddo gau.

Mae fideos wedi ymddangos ar wefannau cymdeithasol o bobl yn tresmasu ar y safle
Ychwanegodd Mr Kurtz: "Os mae'n eistedd yn wag dros yr haf i gyd pan mae twristiaid yn dod lawr yma yn Sir Benfro, mae cyfleoedd eraill i bobl torri mewn yma.
"So ni moyn gweld 'ny achos gall damwain ddigwydd. Mae'n hollbwysig mae rhywun yn prynu'r safle mor gloi â gallan nhw."
Dywedodd yr aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro fod "sawl busnes" wedi cysylltu i fynegi diddordeb mewn prynu safle'r parc.

Mae Sam Kurtz yn poeni am y perygl o ddamweiniau os fydd mwy yn tresmasu ar y safle
Fe alwodd ar Apsro hefyd i fod yn rhagweithiol gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddod o hyd i brynwr.
"Dwi wedi hala ebost i Aspro a gofyn am gyfarfod gyda nhw i weld beth allwn ni wneud i sicrhau bod y safle yn trosglwyddo i rywun newydd mor gloi â gallwn ni, ond ar hyn o bryd mae'n rhaid gweithio gyda Aspro. Nhw sydd yn berchen y parc a nhw sydd â'r allweddi os moyn gwerthu y safle."
Ychwanegodd nad oedd wedi cael ymateb hyd yn hyn: "Dwi'n gobeithio 'newn ni glywed ganddyn nhw rhwybryd yn y dyfodol."
Pontins y de?
Pryder Mr Kurtz yw y gallai safle Oakwood fod mewn sefyllfa debyg i safle Pontins ym Mhrestatyn a gaeodd yn 2023. Mae'r safle dal yn wag hyd heddiw.
"Os mae hyn yn eistedd yn wag am flwyddyn neu fwy mae hwnna yn mynd i greu problemau enfawr i'r ardal achos mae'n safle mor fawr.
Gobeithio nawr so ni'n mynd i weld beth sydd wedi digwydd yn y gogledd yma yn Oakwood."
Edrych yn ôl: Agoriad reid Vertigo ym mharc Oakwood yn 1997
Agorwyd Oakwood gan y brodyr McNamara ym 1987 ac mae William McNamara bellach yn berchen ar barc gwyliau Bluestone, sydd drws nesaf i Oakwood.
Mae Bluestone wedi gwrthod ymateb i'n cais pan ofynnwyd a fyddai diddordeb gyda nhw mewn prynu'r safle.
Mae Mari Stevens yn gyfarwyddwr i gwmni ymgynghori twristiaeth Anian.
"Does dim syniad gyda fi'n bersonol os oes diddordeb gan Bluestone i ddatblygu eu darpariaeth nhw ond beth sy'n drawiadol yw ein bod ni yn gweld bod nifer o atyniadau twristiaeth, yn arbennig parciau antur, yn gynyddol yn cynnwys darpariaeth lety."
Ychwanegodd: "Mi fydden i'n rhagweld mae pwy bynnag sy'n datblygu'r safle yn mynd i fod yn cynnig pecyn cyfansawdd ac amrywiol, yn hytrach nag atyniad cul yn unig."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i ymgysylltu â pherchennog y safle.
"Rydym yn cydnabod y gwerth sylweddol sydd gan hen safle Oakwood i bobl leol ac ymwelwyr, ac yn obeithiol y daw prynwr ymlaen i sicrhau ei gyfraniad parhaus i'r economi leol a'r diwydiant twristiaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2022