Priodi ac adnewyddu hen dŷ: Newid byd yn 2021

  • Cyhoeddwyd
Cat ac Eurig JoniverFfynhonnell y llun, Cat ac Eurig Joniver

I nifer, roedd 2021 yn flwyddyn lle ddigwyddodd fawr ddim. Ond i Cat ac Eurig Joniver, bu'n flwyddyn o newid byd, wrth iddyn nhw nid yn unig briodi ond hefyd weithio ar drawsnewid tŷ oedd wedi mynd â'i ben iddo, yn gartref i'w teulu.

line

Naw mlynedd yn ôl gwnaeth Cat Oliver o Gaeredin gwrdd â Eurig Jones o Ddinbych tra'n astudio uwch-raddau mewn diogelu amgylchedd morol ym Mangor.

Pan briododd y pâr eleni, penderfynon nhw beidio dilyn y drefn arferol o Cat yn cymryd cyfenw Eurig, ond doedden nhw ddim chwaith yn gyfforddus yn defnyddio enwau'r ddau a chreu enw double-barreled, oherwydd yn ôl Eurig, "Mi oedd Oliver-Jones yn swnio lot rhy posh i fi".

Felly mi benderfynodd y cwpwl gyfuno eu henwau a chreu enw unigryw a gwahanol, a dyna darddiad eu cyfenw newydd 'Joniver' .

Wrth sgwrsio â Eurig a Cat, yn fuan iawn mae rhywun yn sylwi nad ydyn nhw'n gwpwl sydd yn cymryd yr opsiwn hawdd nac yn gwneud penderfyniadau confensiynol.

Chwilio am y tŷ perffaith

adnewyddu tŷFfynhonnell y llun, Cat ac Eurig Joniver

Yn 2019 roedd y cwpwl ifanc am brynu tŷ ond yn union fel miloedd o bobl ifanc eraill, roedd popeth yr oeddent yn ei weld yn rhy ddrud.

Ond doedd Cat a Eurig ddim am adael i hyn eu rhwystro. Fel yr esboniodd Eurig; "O'n i wedi treulio blynyddoedd yn helpu bobl eraill i adnewyddu neu 'neud gwaith ar eu tai felly pam ddim helpu fy hun drwy wneud yr un peth?"

A dyna'n union wnaeth y cwpwl; prynu tŷ yng nghanolbarth Cymru oedd wedi mynd â'i ben iddo a mynd ati i'w adnewyddu.

Ychwanega Cat, "Pan oedden ni'n edrych ar eiddo gwelsom nifer o dai oedd yn berffaith, ar wahân i'r ardd. Doedd dim angen gwaith ar y tai ond roedd y gerddi mor fach fel na allem ddychmygu ei fod yn gweithio i ni a'r cŵn na'n breuddwydion o gadw gwenyn, ieir a thyfu ein llysiau ein hunain.

"Pan aethon ni i weld y tŷ yma fe 'naethon ni syrthio mewn cariad ag ef - roedd yn teimlo'n iawn - ac felly roeddem yn hapus i'w adnewyddu yn gartref. Er ar y pryd doeddwn i ddim wedi sylweddoli cymaint o waith oedd o am fod!"

Covid a HS2 yn rhoi stop ar waith

Wrth i Cat ac Eurig benderfynu mynd ati o ddifri, daeth Covid-19 i'r wlad ac yn ei sgil caewyd yr holl siopau a iardiau. Ar ben hyn, pan ail-agorodd yr iardiau roedd yna brinder enbyd o nwyddau gan fod y wladwriaeth wedi penderfynu prynu llawer o'r stoc ar gyfer dechrau gwaith ar reilffordd HS2.

"Pwy 'sa 'di meddwl," medda Eurig, "y bysa rheilffordd sydd ddim yn dod ar gyfyl Cymru yn effeithio gwaith adeiladu yng nghanolbarth Cymru? Ac ar ben popeth, oherwydd hyn aeth pris pren drwy'r to hefyd."

gwaith yn y tŷFfynhonnell y llun, Cat ac Eurig Joniver
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cat ac Eurig wedi byw ar safle adeiladu am ran helaeth o 2021

Yn ystod 2020 fe ganolbwyntiodd Eurig a Cat ar glirio'r ardd oedd heb gael sylw ers dros deuddeg mlynedd a gwneud ychydig o waith paratoi, ac yna yn 2021 aethant ati o ddifri.

"Mae adnewyddu eich cartref eich hun gyda chyllideb gymedrol yn gofyn am lawer o ddysgu sgiliau. Mae'r ddau ohonom wedi mynd amdani go iawn. Ac os 'di petha'n wonky, yna byddwn ni'n ei roi i lawr i gymeriad y bwthyn, nid ein sgiliau ni!" meddai Cat.

Dysgu drwy weithio

Rhwng y ddau, maen nhw wedi symud tunelli o bridd, clirio ffosydd ac ail-bwyntio'r waliau allanol.

"Mae Cat yn weithiwr gwych ond yn labrwr sâl," meddai Eurig dan chwerthin. "Tydi hi ddim ofn gwaith caled ond tydi hi ddim yn licio fi'n deud wrthi be' i 'neud!"

Stafell 'molchiFfynhonnell y llun, Cat ac Eurig Joniver
Disgrifiad o’r llun,

Yr stafell 'molchi yn dechrau siapio, er fod yna ddim llawer o breifatrwydd ar hyn o bryd...!

Felly pa sgiliau newydd mae Cat wedi eu dysgu ar y daith?

"Rydw i wedi dysgu sut i deilsio ystafell ymolchi yn llwyr o'r dechrau i'r diwedd; byrddio plastr; gosod carped; a lefelu lloriau concrit enfawr! Mae pob diwrnod yn ddiwrnod o ddysgu, mae wedi bod yn hwyl ac rydyn ni wedi arbed llwyth o arian ar hyd y ffordd."

Tydi adnewyddu tŷ ddim yn digwydd dros nos ond yn 2021, maen nhw wedi torri cefn y gwaith. "Dwi wedi plannu coed, wedi ail-bwyntio'r tu allan i gyd a gosod ystafell 'molchi, felly mae pethau'n siapio," meddai Eurig.

Ond mae'r ddau yn gytûn mai uchafbwynt 2021 (oni bai am briodi!) ydi iddynt gasglu eu pot cyntaf o fêl o'u cwch gwenyn eu hunain!

Casglu mêlFfynhonnell y llun, Cat ac Eurig Joniver
Disgrifiad o’r llun,

Un o uchafbwyntiau'r flwyddyn - casglu mêl o'u cwch gwenyn eu hunain!

Gallwch ddilyn cynnydd cartref Cat ac Eurig ar eu cyfrif Instagram, @slate_to_great, dolen allanol