Cymeradwyo Swyddog Cymraeg i fyfyrwyr Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cytuno i gynnal Swyddog yr iaith Gymraeg Llawn Amser.
Fe fydd y swydd yn ei lle erbyn y flwyddyn academaidd 2023/24.
Mae 'na alw am swyddog llawn amser Cymraeg ym mhrifysgol mwya' Cymru, gyda'r swydd ar hyn o bryd yn un rhan amser.
Mae'r cyhoeddiad, wedi cyfarfod y bwrdd ddydd Iau, wedi cael croeso.
Yn ôl y datganiad a gyhoeddwyd ddydd Gwener penderfyniad y Bwrdd Ymddiriedolwyr oedd "y bydd Is-lywydd llawn amser Iaith, Diwylliant a Chymuned Gymraeg yn ymuno â'r tîm swyddogion o fis Gorffennaf 2023".
Gwell cefnogaeth
O ganlyniad fe fydd rhaid gwneud gwelliannau i Is-ddeddfau Undeb y Myfyrwyr, a fydd yn "nodi bod RHAID cynnwys Is-lywydd Iaith, Diwylliant a Chymuned Gymraeg o fewn y tîm sabothol" ac fe fydd rhai i'r gwelliannau gael eu cyflwyno ar gyfer cael eu cymeradwy gan Senedd y Myfyrwyr yn ystod misoedd cyntaf 2022.
Fe fydd y swydd yn cychwyn ar ol etholiadau Gwanwyn 2023 gan gynnig gwell cefnogaeth i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC) a'r Swyddog Cymraeg rhan-amser dros y flwyddyn i ddod.
Yn ol y bwrdd mae hyn "yn newid hynod gadarnhaol i'r sefydliad a'i gefnogaeth i'r gymuned Gymraeg" ac yn "gwarantu swydd Is-lywydd Iaith, Diwylliant a Chymuned Gymraeg", gan fod y newidiadau yn cynnig "clo triphlyg" yn nogfennau llywodraethol Undeb y Myfyrwyr.
"Yn olaf, hoffai'r Swyddogion Sabothol ddiolch i'r myfyrwyr sydd wedi ymgysylltu'n angerddol ac yn gadarnhaol â'r pwnc hwn, mae gan yr Undeb hanes balch o actifiaeth myfyrwyr a bydd yn parhau i gefnogi ac annog myfyrwyr i godi llais ar faterion sy'n bwysig iddynt."
Llais i'r myfyrwyr
Yn ôl Annell Dyfri, y Swyddog Cymraeg rhan amser presennol, mae'r cyhoeddiad yma yn un i'w groesawu.
"Mae hyn yn newyddion gwych yr ydym ni a'r myfyrwyr o'n blaen wedi bod yn brwydro amdano ers blynyddoedd.
"Mae'n gam mawr ymlaen er mwyn sicrhau llais i fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol.
"Mae'n dipyn o waith gwneud hyn yn rhan amser ochr yn ochr â fy astudiaethau yn y drydedd flwyddyn.
"Drwy gael swyddog llawn amser, fe fydd 'na gynrychiolaeth o fewn yr undeb i gynrychioli buddiannau'r garfan gynyddol yna o siaradwyr a dysgwyr cyfrwng Cymraeg.
"Fe fydd llais y myfyrwyr Cymraeg yn cael ei gynrychioli yn barhaus ar fwrdd yr undeb ac yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr di-Gymraeg y brifysgol hefyd, " ychwanegodd.
Yn 2018 fe gafodd cynnig ei gymeradwyo a fyddai, ym marn y cynigwyr, wedi arwain at benodi swyddog llawn amser.
Ar y pryd, dywedodd Undeb Myfyrwyr y brifysgol mai galw ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i ystyried creu'r swydd oedd y cynnig, a dim mwy na hynny.
Yn 2019 fe sefydlwyd gweithgor i edrych ar y sefyllfa, ond wnaeth yna ddim ddigwydd tan nawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021