'Diwylliant o ddifaterwch' am gyflwr llety myfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Mae yna "ddiwylliant o ddifaterwch" ynglŷn â chyflwr llety myfyrwyr, yn ôl ymchwil newydd.
Dywed adroddiad gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) ac elusen Shelter Cymru bod gormod o fyfyrwyr yn byw gyda thamprwydd, llwydni neu offer diffygiol.
Credir bod yr effaith wedi bod yn waeth oherwydd bod pobl ifanc wedi treulio mwy o amser yn eu llety yn ystod y pandemig.
Dywedodd un myfyriwr ei bod wedi sefyll arholiad tra bod llygoden fawr yn "symud o gwmpas" yn yr ystafell.
Yn ôl yr ymchwil gall llety anaddas effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol yn ogystal ag astudiaethau myfyrwyr.
Dywedodd un myfyriwr arall bod landlordiaid yn meddwl bod myfyrwyr yn "haeddu byw mewn tŷ llaith gyda chyfarpar wedi torri".
Ac yn ôl un arall mae "disgwyl i fyfyrwyr fyw mewn amodau ofnadwy dim ond oherwydd mai dyna'r 'ffordd mae myfyrwyr yn byw'".
'Tamprwydd ymhobman'
"Roedd y fflat yn edrych yn neis iawn ar-lein," meddai Laura Chapman, myfyrwraig ôl-raddedig yng Nghaerdydd.
Doedd dim modd i Laura ymweld â'r tŷ o ganlyniad i'r pandemig. Pan ddaeth y dydd iddi symud mewn dywedodd Laura "nad oedd e ddim yn edrych unrhyw beth fel y lluniau".
"Roedd e lawer gwaeth na beth oedden ni'n ei ddisgwyl."
Dywedodd nad oedd unrhyw beth wedi cael ei lanhau, ac wrth symud dodrefn fe wnaeth hi ddarganfod mwy a mwy o damprwydd.
"Doedd gan y tŷ bach ddim chaen, a doedd llawer o'r ffenestri ddim yn cau."
Fe wnaeth Laura roi gwybod i'r landlord am y problemau hyn ar ei diwrnod cyntaf yn y tŷ, ond cafodd wybod nad oedd unrhyw frys i'w trwsio.
"Dwi'n meddwl fod llawer o landlordiaid yn credu nad yw myfyrwyr yn poeni - felly gafon nhw sioc pan wnaethon ni stŵr am y peth," ychwanegodd.
Dri mis yn ddiweddarach, dydy'r tamprwydd ddim wedi cael ei ddatrys.
Mae byw mewn amodau fel hyn yn gwneud i chi deimlo'n isel, meddai Laura, yn ogystal â chynyddu costau i ddelio â'r problemau.
"Dydy e ddim yn awyrgylch neis i fyw nag i weithio ynddo."
Mae'r pandemig wedi amlygu'r broblem, meddai Laura, gan fod myfyrwyr yn treulio mwy o amser yn y tŷ wrth i rai darlithoedd barhau ar-lein.
Dywedodd Laura ei bod hi'n ffodus ei bod hi'n ymwybodol o'i hawliau fel tenant, ond fod hyn ddim yn wir am lawer o fyfyrwyr.
"Dydy llawer o fyfyrwyr ddim yn gwybod lle maen nhw'n sefyll o ran gwneud cwynion.
"Mae llawer o bobl yn meddwl 'nai roi lan gyda fe, dim ond blwyddyn yw hi'," meddai Laura, "ond dydy hi ddim yn iawn i fyw mewn amodau fel hyn."
Amodau gwael yn 'ddisgwyliedig'
Fe gasglodd NUS Cymru a Shelter Cymru farn rhyw 300 o fyfyrwyr am eu llety.
Fe nododd dros hanner eu bod yn byw gyda thamprwydd neu lwydni, a dywedodd cyfran sylweddol fod eu tai neu fflatiau mewn cyflwr gwael.
Yn ôl dwy ran o dair roedd cyflwr eu llety wedi cael effaith ar eu hiechyd meddwl.
Dywedodd yr adroddiad fod problemau wedi gwaethygu yn ystod y pandemig oherwydd bod myfyrwyr wedi treulio mwy o amser yn eu llety.
"Ni wedi cael lot o broblemau dros y dwy flynedd diwethaf," meddai Nel Richards, sy'n fyfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn yng Nghaerdydd.
Ar hyn o bryd mae problemau gwres yn nhŷ Nel gan fod y boeler wedi torri, a'r myfyrwyr sydd wedi gorfod delio gyda'r broblem.
Mae sawl problem arall gan gynnwys tamprwydd - ac maen nhw'n creu rhwystredigaeth a drwgdeimlad yn y tŷ.
Dywedodd Nel fod y fath broblemau yn "ddisgwyliedig o ran tai myfyrwyr", ond na ddylai yr un person fynd trwy'r amodau hyn os yn fyfyriwr ai peidio.
'Ystrydeb' am fyfyrwyr
Mae'r sefyllfa yn annheg ac yn cael effaith ar fyfyrwyr, meddai Nel.
"Rydyn ni'n talu gormod am beth rydyn ni'n cael."
Ym marn Annell Dyfri, sydd hefyd yn ei thrydedd flwyddyn, mae "ystrydebau" am fyfyrwyr yn rhan o'r broblem.
Mae "sawl problem" wedi bod yn nhŷ Annell, o damprwydd i'r sychwr dillad a'r boeler yn torri.
Efallai bod rhai'n meddwl na fyddai myfyrwyr yn poeni am amodau fel hyn, meddai Annell, ond dydy hynny ddim yn wir.
"Ni'n gorfod byw yma a mae fe yn gallu effeithio arnom ni."
'Cadw dillad yn y car'
Esboniodd Annell ei bod yn "cymryd wythnosau i bobl ddod allan" i ddelio â'r problemau a bod hynny'n rhoi straen ychwanegol ar fyfyrwyr.
"Rhwystredigaeth yw e yn fwy na dim byd. Pethau bach, ond ar ôl diwrnod hir o ddarlithoedd chi jyst moyn dod nôl a ddim gorfod delio â'r problemau yma."
Mae Edward Drake, myfyriwr yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cadw dillad yn ei gar oherwydd tamprwydd yn ei ystafell.
"Mae'r cwpwrdd yn yr ystafell ar y wal ac mae hwnnw'n damp," meddai, "felly alla i ddim cadw fy nillad i ynddo - mae fy nghotiau a phethau yn fy nghar."
'Darlun reit frawychus'
Mae wedi "tarfu" ar bethau, meddai, ac er bod y landlord wedi ceisio mynd i'r afael â'r broblem, daeth y tamprwydd yn ôl ar ôl cyfnod byr ac mae ei ddillad yn parhau yn ei gar.
"Mae'n gallu cael tipyn o effaith," ychwanegodd Edward.
Mae llety myfyrwyr wastad wedi bod yn gysylltiedig ag "ansawdd isel, costau uchel a landlordiaid amheus" meddai Llywydd NUS Cymru, Becky Ricketts.
Dywedodd Heddyr Gregory o elusen Shelter Cymru bod eu hymchwil wedi amlygu "darlun reit frawychus".
"Rhaid i ni fynd i'r afael â'r ystrydeb bod e'n dderbyniol i fyfyrwyr wynebu safonau ofnadwy fel rhan o'r profiad o fod yn fyfyriwr," meddai.
"Y'n ni wedi sylweddoli bod yna ddiwylliant o ddifaterwch wedi bodoli yn y maes yma ers degawdau."
Dywedodd bod yr ystadegau ynglŷn ag effaith llety gwael ar iechyd meddwl yn "codi ofn".
Yn ôl Ms Gregory mae angen i awdurdodau lleol a chenedlaethol weithio i wella'r sefyllfa, ac mae angen i fyfyrwyr hefyd fod yn barod i ofyn am gymorth.
"Newid y psyche yna ymhlith myfyrwyr hefyd - 'neud iddyn nhw sylweddoli bod ganddyn nhw'r un hawliau a'r un amddiffynfeydd ag unrhyw un arall sy'n rhentu," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd24 Medi 2021