Mwy o amser i holi dyn wedi marwolaeth menyw ifanc
- Cyhoeddwyd

Dyma'r dillad roedd Lily Sullivan yn eu gwisgo noson ei marwolaeth
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cael 36 awr ychwanegol i holi dyn 31 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth menyw 18 oed yn Sir Benfro.
Cafwyd hyd i gorff Lily Sullivan yng nghanol Penfro yn yr oriau mân ddydd Gwener 17 Rhagfyr.
Mae'r llu'n awyddus i siarad gyda thri pherson a gafodd eu gweld yn cerdded gyda chi trwy ali ger siop barbwr Zero's tua 02:40 fore Gwener, gan gredu "y gallen nhw fod â gwybodaeth all helpu creu darlun o symudiadau Lily".
Ychwanegodd bod y ci "o faint canolig ac yn gwisgo rhyw fath o gôt ar gyfer ci".

Yr ali ger siop barbwr Zero's yn Main Street, Penfro
Mae'r heddlu hefyd wedi gosod cordon o amgylch ardal Mill Pond wrth i swyddogion barhau i gynnal archwiliad.
Dywed y llu y bydd yna bresenoldeb heddlu amlwg yn y dref wrth i'r ymholiadau barhau.
Mae ditectifs yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd Ms Sullivan yn ystod noson allan gyda'i ffrindiau yn ardal Main Street o 19:30 ymlaen nos Iau, neu yn ardal Mill Pond o oddeutu 02:00 fore Gwener.
"Hoffwn i ddiolch y tystion sydd eisoes wedi cysylltu gyda'r heddlu," meddai'r Ditectif Arolygydd Paul Jones.
"Mae'n bwysig ein bod yn gwybod ble aeth Lily yn ystod y noson ac rwy'n erfyn ar unrhyw un oedd yn yr ardal allai fod wedi gweld Lily i gysylltu â ni."
Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i deulu Ms Sullivan.
Mae'r dyn 31 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn parhau yn y ddalfa wedi i ynadon rhoi 36 awr ychwanegol i'r heddlu ei holi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2021