Drakeford yn amddiffyn rheolau newydd i atal Omicron
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru'n gwadu "gamblo" gyda bywoliaethau gweithwyr clybiau nos wrth ymateb i ledaeniad amrywiolyn Omicron.
Bydd clybiau nos yn cau o 27 Rhagfyr, ond doedd Mark Drakeford ddim yn gallu cadarnhau a fydd yna gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i dalu cyflogau staff.
Fe alwodd o'r newydd ar Lywodraeth y DU i ailgyflwyno'r cynllun ffyrlo, a helpodd i dalu cyflogau staff busnesau fu'n rhaid cau yn ystod y pandemig.
Dywedodd hefyd bod hi'n "anochel" y bydd yna gyfyngiadau pellach mewn tafarndai a bwytai ar ôl Nadolig.
Mae'r Gweinidog Economi, Vaughan Gething wedi rhybuddio nad oes gan Gymru mo'r arian na'r system wybodaeth i allu cynnig cynllun ffyrlo ei hun.
Nos Sul, cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod wedi dyblu faint o arian ychwanegol sydd ar gael i lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon - o £430m i £860m - i "fynd i'r afael â Covid".
Bydd £270m bellach ar gael i Lywodraeth Cymru, meddai'r Trysorlys.
Posib ailgyflwyno rhai rheolau
Mewn cyfweliad ar raglen BBC Politics Wales, awgrymodd Mr Drakeford y gallai bwytai a thafarndai orfod dychwelyd i weini cwsmeriaid wrth y bwrdd yn unig, a chasglu manylion ar gyfer olrhain cysylltiadau.
Cam posib arall, meddai, yw cyfyngu ar faint o bobl o wahanol aelwydydd sy'n cael cwrdd unwaith yn rhagor, ond "mae yna fesurau y gallwch eu cymryd cyn cyrraedd y pwynt yna".
Bydd gweinidogion yn cwrdd ddydd Llun i benderfynu a ddylid cyflwyno cyfyngiadau mewn digwyddiadau chwaraeon sydd i fod i ddigwydd dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd, gan gynnwys gemau darbi rygbi a phêl-droed.
"Rydym yn cael cyngor ffresh gan ein harbenigwyr iechyd cyhoeddus ynghylch a yw'n dal yn ddiogel ai peidio i fwrw ymlaen gyda'r gemau hynny," dywedodd.
"Os nad yw'n saff i fwrw ymlaen fel ag y maen nhw nawr [mae angen gofyn] a fydde'n bosib, tybed, fwrw ymlaen gyda llai o bobl."
Fe allai hynny olygu cynnal gemau gyda llai i gefnogwyr neud ddim cefnogwyr o gwbl.
Ar yr un rhaglen fe rybuddiodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru y gellid fod angen mwy o gyfyngiadau gan fod Cymru'n debygol o weld "tswnami" o achosion Omicron yn yr wythnosau nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru'n annog pobl i gymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan, cwrdd yn yr awyr agored os y bosib, a gadael bwlch o ddiwrnod rhwng pob digwyddiad.
O 27 Rhagfyr bydd cyfyngiadau cyfreithiol newydd mewn grym, gan gynnwys clybiau nos a rheolau ychwanegol, fel systemau un ffordd, o fewn busnesau i amddiffyn cwsmeriaid a staff.
Daeth cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU i ben ym mis Medi, ac mae cwestiynau'n codi dros dalu cyflogau gweithwyr clybiau nos y tro hwn.
Dywedodd Mr Drakeford na fydd pob un o glybiau nos Cymru'n cau, gan fod modd iddyn nhw barhau yn yr un ffordd â thafarndai.
'£60m ar y bwrdd'
O ran talu cyflogau staff, dywedodd: "Byddwn yn edrych fel llywodraeth i weld os oes yna help allwn ni ei roi i'r sector yna i gefnogi pobl a fyddai fel arall yn colli gwaith oherwydd mae'r niferoedd yn ddigon bach i ni o leiaf edrych i weld be allwn ni wneud.
"Yn sicr dydyn ni ddim yn gamblo gyda bywoliaeth unrhyw un. Dylien nhw gael eu talu dan gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU - dyna'r ffordd y maen nhw wastad wedi cael eu talu.
"Rydym wedi rhoi £60m ar tabl. Byddwn yn gweithio gyda'r sectorau i weld sut gellir defnyddio hwnnw."
Ychwanegodd: "Tra bo nifer y bobl sy'n ddiwaith oherwydd ein penderfyniadau ni... yn gymharol fach, fe edrychwn i weld os oes unrhyw beth gallwn ni wneud i helpu.
"Unwaith ry'ch chi'n mynd tu hwnt i'r nifer fach yna, yn unig ffordd yn sicr y gellir talu'r costau hynny yw trwy gynllun y DU."
Er eu bod yn dal ar agor, mae llawer wedi canslo byrddau a digwyddiadau mewn tafarndai a bwytai wrth i bobl ymateb i'r cyngor i weld llai o bobl yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn "cydymdeimlo'n fawr gyda busnesau sy'n dibynnu ar gyfnod y Nadolig" a bydd y llywodraeth yn gweithio gyda'r sector "i weld be all bod yn bosib".
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arian wrth gefn i ddelio gyda phwysau'r pandemig.
Atebodd Mr Drakeford bod angen defnyddio'r arian hwnnw ar y rhaglenni brechu ac olrhain cysylltiadau, ac i helpu ysgolion gefnogi disgyblion.
"Mae'r syniad hyn bod yna swm fawr o arian sy'n chwilio am rywbeth i'w wneud, i fod yn blaen, yn hurt."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2021