'Ni all Llywodraeth Cymru ariannu cynllun ffyrlo newydd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Bar gwag

Does gan Lywodraeth Cymru mo'r arian na'r system i dalu cyflogau gweithwyr sy'n cael eu heffeithio gan y rheolau Covid newydd, yn ôl y Gweinidog Economi, Vaughan Gething.

Bydd clybiau nos yn cau yng Nghymru o 27 Rhagfyr ymlaen a bydd angen cadw pellter cymdeithasol mewn siopau ac yn y gwaith mewn ymateb i ledaeniad yr amrywiolyn Omicron.

Dywedodd Mr Gething bod £60m wedi ei neilltuo i helpu busnesau ond ni fydd yna gynllun ffyrlo ar batrwm y cynllun y sefydlodd Llywodraeth y DU y llynedd.

Nos Sul, cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod wedi dyblu faint o arian ychwanegol sydd ar gael i lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon - o £430m i £860m - i "fynd i'r afael â Covid".

Bydd £270m bellach ar gael i Lywodraeth Cymru, meddai'r Trysorlys.

Yn y cyfamser, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio y gallai Cymru weld "tswnami o achosion" yn yr wythnosau nesaf.

'Heb yr un mynediad at wybodaeth a data'

"Does dim mynediad gyda ni i'r arian a fyddai'n angenrheidiol i gyflwyno cynllun fel y cynllun ffyrlo ar draws Cymru," dywedodd Mr Gething yn gynharach ddydd Sul, mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement.

"Byddai'n cymryd llawer iawn yn fwy o arian i wneud hynny a phopeth arall ry'n ni'n amau y bydd yn rhaid i ni ei wneud.

"O ran yr hyn roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu ei wneud... sef un o'u cyfraniadau mwyaf positif o ran rheoli'r pandemig gyda'r cynllun ffyrlo, gan warchod swyddi a busnesau - does gyda ni mo'r yn mynediad â nhw i'r wybodaeth a'r data.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i glybiau nos gau o 27 Rhagfyr ymlaen dan y rheolau diweddaraf

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, bod gan Lywodraeth Cymru £650m mewn arian wrth gefn y gellid ei ddefnyddio i roi cefnogaeth.

Ychwanegodd petae wedi bod yn benderfyniad ar draws y DU i gau lleoliadau, fe fyddai'n cefnogi galw ar y Trysorlys am gefnogaeth ariannol.

"Os yw Llywodraeth Cymru'n gweithredu ar ei phen ei hun... mae angen iddi ddefnyddio ei harian wrth gefn ei hun," dywedodd.

Sgyrsiau anodd gyda staff

Mae Samantha Dabb, rheolwr bar a chanolfan gerddoriaeth Le Public Space yng Nghasnewydd yn dweud na fyddai'n bosib parhau i dalu staff heb gefnogaeth os oes rhaid aros ar gau.

"Mae'n wirioneddol anodd i siarad gyda fy staff rhan amser a dweud 'Sa i'n gwybod os fyddwch chi mewn gwaith ar ôl Nadolig'.

"Yn amlwg, fe wnawn ein gorau i dalu gymaint ag y gallwn ni i chi, ond heb ffyrlo gall hynny ond para ychydig wythnosau cyn i ni ddiflannu beth bynnag."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gofyn unwaith yn rhagor i bobl gadw dau fetr ar wahân wrth siopa, ac i reoli faint o bobl sydd yn y siop

Yn ôl pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru, Sara Jones, mae'r rheolau pellter cymdeithasol newydd yn cael eu cyflwyno "ar adeg gwaethaf posib y flwyddyn".

Dylid defnyddio cyfran o'r £60m y mae Llywodraeth Cymru wedi ei neilltuo, meddai, i ddigolledu busnesau.

Dywedodd bod cyfnod y Nadolig "yn gwbl hanfodol i fanwerthwyr", gan fod 20% o'u holl werthiannau am flwyddyn yn digwydd bryd hynny.