Penfro: Cyhuddo dyn, 31, o lofruddio Lily Sullivan, 18
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y teulu mewn datganiad fod Lily yn ferch "garedig a gofalgar"
Mae dyn 31 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw ifanc yn Sir Benfro.
Cafwyd hyd i gorff Lily Sullivan, 18, yng nghanol tref Penfro yn ystod oriau mân ddydd Gwener, 17 Rhagfyr.
Fe wnaeth Lewis Haines, o Landyfái, ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd fore Mawrth ar gyhuddiad o lofruddiaeth.
Siaradodd i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni.
Bydd Mr Haines yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe fore Iau.