Y gyllideb: £2.9bn yn fwy i wasanaethau cyhoeddus Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rishi Sunak a thim y Trysolrys o flaen 11 Downing Street gyda'r focs gochFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd £2.9bn yn ychwanegol ar gael i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru erbyn 2024, yn ôl dadansoddiad o gyllideb y Canghellor.

Ond mae arbenigwyr cyllid ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhybuddio y gall teuluoedd wynebu gaeaf caled wrth i gostau byw a phrisiau ynni godi.

Fe wnaeth adolygiad gwariant Rishi Sunak osod maint cyllideb Llywodraeth Cymru am y tair blynedd nesaf.

Mae'r rhagolygon wedi "gwella'n sylweddol", i raddau helaeth diolch i wariant ar iechyd yn Lloegr.

Mae disgwyl i gyllid craidd ar gyfer gwasanaethau dyfu 3.1% y flwyddyn, yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Mae'n golygu y bydd gan Weinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, £1.6bn yn fwy i'w wario pan fydd hi'n cyhoeddi ei chyllideb ar 20 Rhagfyr.

Mae hynny'n uwch na'r disgwyl, ond dydy'r ffigurau ddim yn cynnwys y biliynau o bunnoedd o arian brys y mae Cymru wedi'i dderbyn i ymladd y pandemig. Mae'r arian yna'n dod i ben eleni.

Mae datganoli wedi chwyddo'r coffrau hefyd, meddai'r dadansoddiad, gyda Chymru yn debygol o dderbyn £200m ymhen tair blynedd o ganlyniad i'r pwerau treth incwm ac eiddo a roddwyd i Fae Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gan Weinidog Cyllid Cymru £1.6bn yn fwy i'w wario pan yn cyhoeddi ei chyllideb

Dywedodd awdur yr adroddiad, Guto Ifan: "Mae'n ymddangos fel fod Llywodraeth y DG yn cefnu ar bolisïau llymder ariannol a oedd yn eu lle yn ystod y degawd cyn y pandemig.

"Ond mae pwysau ar gostau byw yn bryder enfawr ac fe allai'r misoedd nesaf fod yn gyfnod caled i aelwydydd yng Nghymru."

Cyhoeddodd Mr Sunak newidiadau i'r Credyd Cynhwysol a fydd yn caniatáu i bobl gadw mwy o'u taliadau os ydyn nhw'n gweithio.

Ond yn ôl adroddiad y ganolfan, ni fydd hynny'n ad-dalu yn llawn y bobl wnaeth golli'r taliad wythnosol o £20 yn ddiweddar - yn enwedig y rhai ar incwm isel.