'Digonedd o dwrcis, ond staffio yw'r broblem'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
twrcwns

Ar un adeg eleni roedd yna bryder na fyddai digon o dwrcwn ar gael ar gyfer ein ciniawau Nadolig oherwydd prinder staff prosesu.

Bellach, mae ffermydd twrcwn a phroseswyr dofednod yn galw am gynllun tymor hir i fynd i'r afael â'r broblem.

Dibynnu ar staff o'r tu hwnt i Brydain mae llawer o'r proseswyr mawr, ond mae lefelau staffio yn broblem oherwydd Brexit a'r pandemig.

Gallai defnyddio myfyrwyr o golegau addysg bellach fod yn un ateb yn ôl un ffermwraig o ardal Aberteifi, sy'n llwyddo i gyflogi pobl leol yn dymhorol.

Yn ôl Llywodraeth y DU, maen nhw eisiau i gyflogwyr fuddsoddi yn y gweithlu ym Mhrydain yn y tymor hir.

Dechreuodd yr archebion am dwrcwn Postance Poultry "yn llawer cynt na'r arfer", yn ôl y perchennog Kate Postance.

Yn gyflym iawn, roedd pob twrci wedi ei werthu, ac mae hi'n dweud mai'r adroddiadau yn y cyfryngau am brinder sy'n gyfrifol.

"Y gwir yw, roedd wastad digon o dwrcis, y staffio oedd y broblem," meddai.

Diwrnodau hir a gwaith caled

Ym mis Hydref - ar ôl pwysau gan y diwydiant - fe wnaeth Llywodraeth y DU newidiadau i gynnwys 5,500 o weithwyr dofednod tymhorol yn eu cynllun peilot sy'n cynnig fisas dros dro i weithwyr amaethyddol o dramor.

Ond mi fuasai'n well gan weinidogion weld pobl leol yn gwneud y swyddi hyn, rhywbeth y mae Ms Postance yn llwyddo i'w wneud.

"Fi'n credu lot ohono fe yw ein bod ni'n barod i unrhywun ddod i gael go - mae'n aelod hynaf ni yn ei 60au a'r ieuengaf yn 14," meddai.

"Mae grŵp o 11 ohonon ni yn gwneud pob proses, a ma' nhw i gyd yn lleol… a ma' nhw'n gweithio'n really galed.

"Mae'r diwrnode'n hir, a dyw e ddim yn broses neis, ond ma' nhw'n clatsho bant… Ni'n canu caneuon 'da'n gilydd a gwrando ar y radio."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kate Postance a'i gwr yn gallu cyflogi digon o bobl leol i brosesu dofednod ar ei fferm sy'n gymharol fach

10 mlynedd ers dechrau cadw dofednod maen nhw bellach yn magu 300 o dwrcwn, 400 o ieir a 260 o hwyaid, ac yn prosesu popeth ar y safle.

Mae Ms Postance yn credu y dylid annog disgyblion ysgol a myfyrwyr o golegau addysg bellach i ymweld â ffermydd a safleoedd prosesu i geisio'u denu nhw i'r diwydiant.

"Addysg falle [yw'r ateb] o ran sgôp amaeth… a hala myfyrwyr mas i weld beth ni'n 'neud… Ma'r cyfle 'na iddyn nhw ddod i weld."

'Cael siawns i 'neud popeth'

Un ohonyn nhw yw Lleucu, sy'n ddisgybl ysgol lleol 15 oed, ac yn awyddus i fynd i fyd amaeth yn y dyfodol.

"'Odd da fi ddiddordeb mewn amaeth, 'odd Mam yn dod o ffarm, ac o'n i'n neud amaeth yn yr ysgol," meddai.

"O'n i'n 'neud twrcis fel rhan o'r gwaith cwrs, ac o'n i moyn cael mwy o wybodaeth amdano fe, just cael profiad."

Mae'n amlwg yn mwynhau'r gwaith: "'Odd e'n amazing, oddet ti'n cael y siawns i 'neud popeth…

"O'n i ddim yn meddwl allen i 'neud e', 'odd Mam ddim yn meddwl allen i 'neud e, ond o'n i'n gallu… Fi'n gobeithio helpu draw 'na 'to, pob blwyddyn."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lleucu yn gobeithio gallu dychwelyd i weithio ar y fferm yn y dyfodol

Gyda thîm o 11 yn paratoi tua 300 o dwrcwn yn barod ar gyfer y Nadolig, mae Kate Postance cydnabod bod ei busnes yn fach mewn cymhariaeth â phroseswyr mawr sydd wedi wynebu "dwy flynedd heriol tu hwnt" yn sgil Brexit a Covid-19.

I'r Arglwydd Newborough, sydd berchen fferm organig Stad Rhug ger Corwen, mae'n "sefyllfa anodd iawn".

Mae llawer o'u twrcwn, gwyddau ac ieir yn mynd i geginau gwestai crand a bwytai yn Llundain a Hong Kong.

Ond ym mis Medi, cafodd y fferm rybudd gan eu lladd-dy lleol yn Sir Caer, bod problemau staffio yn golygu efallai na fyddai modd prosesu'r adar erbyn y Nadolig.

"Fel arfer, yr adeg yna o'r flwyddyn, fe fuasen nhw'n cyflogi 19 o bobl o ddwyrain Ewrop, sy'n dod yn ôl bob blwyddyn, ond eleni, dim ond un oedd ganddyn nhw," esbonia'r Arglwydd Newborough.

"Yn y diwedd, fe lwyddon nhw gyda gweithlu llai yn gweithio oriau hirach o lawer er mwyn sicrhau bod ein twrcwn a'n gwyddau'n cael eu prosesu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Arglwydd Newborough yn ystyried a fydd yn cadw twrcwn eto yn y dyfodol oherwydd yr anhawster

Ond mae'r sefyllfa wedi arwain at amheuon a fyddan nhw'n parhau i fagu twrcwn ar y fferm. Byddan nhw'n penderfynu yn y flwyddyn newydd a fyddan nhw'n prynu cywion.

"Dydy'r broblem heb ddiflannu, ac mae angen cael ei datrys yn weddol fuan os fydd ganddon ni hyder i gynhyrchu adar y flwyddyn nesaf," meddai.

Mae angen "strategaeth tymor hir" ar Brydain ar gyfer gweithwyr tymhorol mewn amaethyddiaeth, meddai, gan ychwanegu y bydd hi'n "cyfrannu at storm berffaith o chwyddiant a phrisiau uwch".

"'Dan ni angen i bobl ddod yma o Ewrop - mae 'na fylchau iddyn nhw eu llenwi - a dydy unrhywun sy'n meddwl yn wahanol ddim yn gweld y broblem fel ydyn ni."

'Gyrfa hirdymor ar gael'

Mae ffigyrau gan Gyngor Dofednod Prydain, sy'n cynrychioli cynhyrchwyr hanner y cig sy'n cael ei fwyta ym Mhrydain, yn awgrymu bod dros 2,600 yn gweithio yn y sector yma yng Nghymru.

Mae'n ddiwydiant sydd ar gynnydd, wrth i'r ffermydd defaid a gwartheg traddodiadol arallgyfeirio.

"Mi fyddai technoleg, canolbwyntio ar sgiliau ac addysg, a gweithlu o'r tu hwnt i Brydain" yn helpu "i osgoi peryglu ein gallu i fwydo'r genedl" meddai cadeirydd y cyngor, Richard Griffiths.

Maen nhw'n awyddus i weld cynllun newydd yn cael ei gyflwyno erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf, i ganiatáu i weithwyr o dramor ddod i Brydain dros gyfnod o ddwy flynedd.

Byddai hynny, meddai Mr Griffiths, yn rhoi "amser a gofod i roi sgiliau newydd i'r gweithlu o Brydain, a buddsoddi mewn technolegau newydd".

Roedd y sector brosesu wedi ceisio creu cynlluniau hyfforddiant yn ogystal â "hyrwyddo [ei hun] fel gyrfa ymarferol dymor-hir i bobl ifanc", meddai John Richards, rheolwr datblygu diwydiant Hybu Cig Cymru.

"I fod yn deg mae'r gadwyn gyflenwi wedi sefyll lan ac wedi treial edrych ar y opsiyne o ran hyfforddiant, a threial dangos bod 'na yrfa hir dymor i bobl… yn y gadwyn gyflenwi a phrosesu, ond mae hwnnw'n cymryd amser.

"O ran hyfforddiant ac wedyn cael pobl ifanc mewn iddo fe, 'de chi'n siarad am system o ryw dwy, dair blynedd. Dyw e ddim yn rhywbeth sy'n dod yn syth bin."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod fisas ar gyfer y diwydiant dofednod "yn ateb tymor byr yn unig, ac fydd hynny ddim yn mynd i'r afael â'r problemau tymor hir mae'r sector yn eu hwynebu".

"Rydym ni wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar sawl achlysur a gofyn iddyn nhw ystyried cyflwyno Fisa Adfer Covid 12 mis," meddai'r llefarydd, gan ychwanegu bod datblygu sgiliau a hyfforddiant i'r sector yn cael ei gefnogi gan eu cynllun Sgiliau Bwyd Cymru.

Yn ôl llefarydd Llywodraeth y DU, mae cigyddion dofednod a phroseswyr "i gyd yn gymwys am y cynllun fisa gweithwyr â sgiliau dan y system bwyntiau (mewnfudo)" ers mis Rhagfyr y llynedd.

"Gall y gweithwyr gael eu noddi am hyd at bum mlynedd, a does dim terfyn ar niferoedd", meddai.

"Ond, rydym eisiau i gyflogwyr wneud buddsoddiadau yn y tymor hir mewn gweithlu domestig o Brydain, a rhan o'n Cynllun Swyddi yw helpu pobl ar draws Prydain i ail-hyfforddi, cael sgiliau newydd a mynd yn ôl i'r gwaith."

Pynciau cysylltiedig