Ffliw adar: Ffermwyr ieir yn poeni am eu bywoliaeth
- Cyhoeddwyd
Gyda ffliw adar wedi taro Prydain yn waeth nag erioed mae'n gyfnod pryderus i ffermwyr ieir.
Maen nhw'n poeni, nid yn unig yn poeni am les eu hanifeiliaid, ond hefyd am eu bywoliaeth.
Hyd yma mae 38 achos wedi'u cadarnhau eleni yn y Deyrnas Unedig, o'i gymharu â 26 trwy gydol y gaeaf diwethaf.
Yn ôl Ysgrifennydd Amgylchedd San Steffan, George Eustice, dyma'r "lledaeniad mwyaf i'r wlad wynebu".
Tri achos sydd yna hyd yma yng Nghymru - y rheiny yn ardaloedd Wrecsam, Ynys Môn a'r diweddaraf, wythnos yn ôl, yng Nghrughywel ym Mhowys.
Mae Ardal Parth Rheoli Clefydau Dros Dro o 3 cilomedr a 10 cilomedr wedi'u gosod o amgylch y safle lle mae'r haint.
Yn yr un sir, ond fwy i'r gogledd yn ochrau Carno, mae Ioan Humphreys yn gofalu am 32,000 o ieir ar fferm Felin Newydd.
Mae ei gwmni, Nant yr Ieir, yn darparu 220,000 o wyau bob wythnos i ddwy o'r archfarchnadoedd mwyaf.
Ers pythefnos, yn unol â'r mesurau sydd wedi'u gosod drwy Brydain ar gadw dofednod, mae'r ieir yn gorfod aros dan do.
'Efallai fyswn i'n colli nhw i gyd'
Tra'n ddiolchgar nad oes achos o ffliw adar eto yn yr ardal gyfagos mae'n poeni beth ddaw, o ystyried fod y gaeaf ond megis dechrau.
"Mae'r ieir rŵan ar lockdown oherwydd y ffliw adar yma. Mae'n siomedig, ond yn lwcus mae'r sied yn ddigon mawr i gadw nhw'u gyd efo digon o le i grwydro," meddai.
"Mae yna bêl-droed i mewn yna, a phethau eraill i'r ieir chwarae efo nhw.
"Mae'n anodd. Ond o'u cadw nhw allan, efallai fyswn i'n colli nhw i gyd i'r ffliw. Mae'r cyfan i'r greater good a dweud y gwir."
Mae Meleri Tweed, milfeddyg yn ardal Abertawe, yn rhybuddio fod angen i bawb sy'n cadw adar - boed yn ddyrnaid ohonyn nhw neu'n filoedd - gadw at y rheolau.
Mae'r risg i bobl yn isel, ond mae degau o filoedd o adar wedi gorfod cael eu difa yn barod.
"Dyw hi ddim yn glir eto pam fod hi'n waeth eleni. Y gofid yw, wrth gwrs, fod y niferoedd o ffermydd sydd wedi'u heffeithio yn barod yn uwch na'r llynedd, ac rydyn ni'n eithaf cynnar yn y cyfnod," meddai.
"Dros y gaeaf y mae hyn yn digwydd wrth i adar ymfudo i mewn i Brydain hyd at fis Mawrth.
"Mae gofid y gall pethau waethygu eto dros y tri mis nesaf. Mae'n anodd iawn i'w reoli oherwydd bod e'n ymwneud ag adar gwyllt.
"Does dim allwn ni ei wneud i stopio nhw rhag trafeilio, a mynd â'r ffliw gyda nhw."
Nôl yng Ngharno mae Ioan Humphreys yn dweud eu bod nhw'n "lwcus nad ydy'r ffliw adar wedi ein cyrraedd eto".
Does dim angen trwydded wahanol, meddai, i ddosbarthu ei wyau ar hyn o bryd. Er hynny, mae'r sefyllfa yn cael "effaith fawr ar y busnes" ac mae'n "colli arian efo'r ffliw yma".
"Mae'r ieir yn bwyta mwy pan maen nhw yn y sied oherwydd tydyn nhw methu crwydro yn y caeau tu allan. Dwi ddim yn meddwl fod nhw'n dodwy gymaint chwaith," meddai.
"Gobeithio mewn cwpl o fisoedd fydd y lockdown yn codi. 'Dan ni'n gallu cadw'r ieir i mewn am ryw dri i bedwar mis cyn colli ein statws free-range."
'Pris bach i'w dalu'
Mae'n annheg cadw ieir i mewn am gyfnod hir meddai, ond gyda bygythiad ffliw adar mae'n "bris bach i'w dalu" o'i gymharu â'u colli nhw i gyd i'r haint.
"'Dan ni ddim ond yn gallu canolbwyntio ar yr adar 'dan ni'n eu cadw ein hunain.
"Mae bio-security yn hollbwysig - gwneud yn siŵr nad oes neb, sydd ddim i fod i wneud, yn dod i mewn ac allan o'r sied, a hefyd golchi holl olwynion y cerbydau.
"'Dan ni angen bod yn ofalus o'n ffermydd ni'n hunain oherwydd allwn ni ddim gwneud dim byd i reoli'r adar gwyllt."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021