Cofnodi'r nifer uchaf o achosion Covid mewn dydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Prawf CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae achosion o Omicron bellach wedi'u cofnodi ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi'r nifer uchaf o achosion o Covid-19 mewn diwrnod ers dechrau'r pandemig a hynny am yr ail dro'r wythnos hon.

Cafodd 6,755 o achosion newydd eu cofnodi yn y 24 awr hyd at 09:00 fore Iau.

Mae hyn dros ddwywaith yn uwch na'r ffigwr gafodd ei adrodd ddydd Iau, sef 3,292.

Mae hefyd dros 2,000 yn uwch na'r nifer uchaf o achosion oedd wedi ei adrodd mewn un dydd cyn heddiw, sef 4,662 ddydd Mercher.

Mae 10 yn rhagor o farwolaethau wedi eu cofnodi yn gysylltiedig â Covid-19.

Mae'n golygu bod 577,043 o achosion a 6,545 o farwolaethau wedi eu cofnodi yng Nghymru ers dechrau'r pandemig, yn ôl dull ICC o gofnodi.

'Cynnydd cyflym dros y dyddiau nesaf'

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe bod disgwyl "cynnydd cyflym dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf" mewn achosion.

Mae'r gyfradd achosion saith diwrnod am bob 100,000 o bobl wedi codi unwaith eto o 633 i 662.3.

Caerdydd sydd â'r gyfradd achosion uchaf (908.1), ond mae Ynys Môn yn agos ar ei hôl (903.7).

Mae cwymp sylweddol i'r gyfradd trydydd uchaf, sef 780.0 ym Mro Morgannwg.

Mae'r gyfradd achosion ar ei hisaf yn Sir Gaerfyrddin (481.5), gyda Cheredigion (484.2) yn ail a Blaenau Gwent (499.6) yn drydydd.

O safbwynt brechiadau, mae 2,486,737 o bobl wedi cael un brechiad a 2,296,242 wedi cael dau ddos.

Mae 1,490,668 wedi cael pigiad atgyfnerthu.