Cwestiwn ac ateb: Sut alla i gael trydydd brechlyn?
- Cyhoeddwyd

Mae gwyddonwyr yn dweud fod trydydd brechiad yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn yr amrywiolyn Covid-19 diweddaraf.
Mae 15 o achosion Omicron wedi eu cofnodi yng Nghymru ac fe ddaeth i'r amlwg bore Llun bod un person eisoes yn yr ysbyty gyda'r haint.
Sut mae mynd ati i gael y brechlyn atgyfnerthu, neu'r 'booster'?
Yr ateb gan Lywodraeth Cymru, yn syml, ydy "arhoswch i gael eich gwahodd".
Bydd eich bwrdd iechyd yn cysylltu â chi pan ddaw eich tro.
Maen nhw'n cael eu rhoi yn nhrefn grwpiau oedran, gan roi blaenoriaeth i frechu oedolion hŷn a phobl sydd mewn mwy o berygl.
Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu i ofyn am apwyntiad - dyma'r neges gan Lywodraeth Cymru.
Ond fe fydd mwy o ganolfannau brechu yn agor, gydag opsiynau cerdded i mewn a gyrru drwodd, ac oriau agor hirach.
Yn gynharach yn y mis, fe lwyddodd un ganolfan yn Nefyn i frechu bron i 4,000 o bobl mewn un penwythnos.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fydda i'n cael trydydd brechiad?
Ers diwedd Tachwedd, mae pob oedolyn dros 18 oed yn gymwys am drydydd brechiad.
Y cyngor meddygol o hyd ydy i beidio brechu plant dan 12 oed.
Pryd?
Bellach, dim ond tri mis o ofod sy'n rhaid wedi bod ers i chi dderbyn eich ail ddos o'r brechlyn.
Mae hyn wedi newid o'r cyngor blaenorol, sef chwe mis.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn gwneud "popeth o fewn ein gallu i gyflymu ein rhaglen frechu", a dyna'r neges gan sawl bwrdd iechyd hefyd.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Pa mor effeithiol ydy trydydd brechiad?
Er bod brechlynnau Covid yn cynnig llai o warchodaeth rhag salwch yn achos Omicron, mae data cynnar yn awgrymu fod trydydd brechlyn yn rhoi tua 70% i 75% o amddiffyniad yn erbyn haint symptomatig.
Mae'r Cyd-bwyllgor Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi argymell defnyddio'r brechlyn Pfizer-BioNTech a'r brechlyn Moderna ar gyfer y rhaglen brechiadau atgyfnerthu.
Y rhain sy'n cynnig yr amddiffyniad gorau fel trydydd dos.
Oes yna ddyddiad targed?
Mae yna gynlluniau i geisio cynnig brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn yng Nghymru erbyn diwedd Rhagfyr yn lle diwedd Ionawr.
Ond yn wahanol i Loegr, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan nad oedd am wneud addewidion "tan ein bod ni yn hollol siŵr ein bod ni yn gallu cadw atyn nhw".
Roedd gan Gymru gynllun eisoes i roi brechlyn atgyfnerthu i 1.3 miliwn o bobl cyn diwedd Ionawr.
Ar hyn o bryd mae'r rhaglen yng Nghymru yn dal i alw pobl, mewn trefn, am apwyntiadau sydd chwe mis o'u hail ddos, ac mae Cymru bellach wedi cyrraedd 80% o'r rheini.
Faint o bob sydd wedi cael tri brechlyn?
Mae 51% o bobl sydd bellach yn gymwys wedi derbyn trydydd dos yng Nghymru.
Mae hyn yn cymharu â 56% yn Yr Alban, 53% yn Lloegr a 45% yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd 91% o'r brechlynnau a roddwyd yn ystod yr wythnos ddiweddaraf yng Nghymru yn rhai trydydd dos.
Ar gyfartaledd mae tua 18,200 o bigiadau atgyfnerthu yn cael eu rhoi y dydd.
Ar anterth y rhaglen frechu ym mis Mawrth eleni, roedd y ffigwr yna tua 38,000-40,000 y dydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021