Yn ôl i'r dechreuad gyda Trystan ac Emma
- Cyhoeddwyd
Noswyl calan rhyddhaodd rhaglen BBC Radio Cymru, Trystan ac Emma, sengl gydag unrhyw elw yn mynd i elusen Plant Mewn Angen.
Mae'r ddau gyflwynydd poblogaidd wedi casglu criw arbennig o unigolion ynghŷd i ganu un o ganeuon Caryl Parry Jones, Yn Y Dechreuad, gan gynnwys Rhys Meirion a Caryl ei hun.
Ond yr hyn sy'n gwneud y sengl hon yn unigryw yw cyfraniad ffrindiau'r rhaglen i'r gân.
Clywn leisiau rai o'r criw newyddion sy'n cystadlu'n frwdfrydig yng nghwis y rhaglen bob dydd Gwener; yn ymddangos hefyd mae'r cwisfeistr ei hun Ieuan Jones, neu iodel Ieu i wrandawyr triw y rhaglen; ac un sydd wastad yn barod am sgwrs ar y tonfeddi gyda'i hŵyr mae Nain Trystan, Margaret Willams (na, nid *y* Margaret Williams!), wedi cyfrannu i'r sengl hefyd ac mae hynny ond enwi rhai.
Holon ni Trystan ac Emma am yr hyn a sbardunodd y prosiect.
"Dw i'n meddwl nes i gael rhyw egin syniad, achos bod gyno ni gyfranwyr da i'r rhaglen, y bysa fo'n ffordd neis o gael undod ac uno pawb efo'i gilydd," meddai Trystan.
"Wnaethon ni chwarae Yn Y Dechreuad ar y rhaglen," dywedodd Emma, "a mi wnes di [Trystan] ddweud "honna ydy hi"."
"Mae hi mor feel-good dydy? Nid yn unig geiriau anhygoel ond mae'r gerddoriaeth yn dy godi di rhywsut hefyd dydy," ychwanegodd Trystan.
Teimla'r ddau ei bod hi'n gân addas ar gyfer y cyfnod rydyn ni wedi bod ynddo am y flwyddyn a hanner ddiwethaf.
Eglurodd Emma: "Mae pawb wedi sylweddoli bod bywyd yn well pan mae'n syml. Gadewch i ni gyd fynd yn ôl i'r dechreuad a dechrau eto. Felly dw i'n meddwl ei bod hi'n addas iawn, ac fel ti'n dweud, Trystan, fedrwch chi ddim help ond canu efo hi, symud efo hi a gwenu pan 'dach chi'n clywed y gân."
O ran cael gwrandawyr y rhaglen ynghlwm â'r sengl, mae'r ddau gyflwynydd yn barod iawn i roi'r gydnabyddiaeth am fwrlwm a phositifrwydd y gân iddyn nhw.
Dywedodd Trystan: "Y bobl sy'n 'neud o de? Y cyfranwyr i gyd. Fath â Nain de? Y rheswm bod Nain ynddo fo ydy ei bod hi wedi bod yn dipio mewn ac allan o'r rhaglen, dydy? 'Dan ni wedi bod yn cael catch-up efo Nain, yn enwedig yn y cyfnod clo, i weld sut oedd hi'n ymdopi. Felly oedden ni'n teimlo fedrwn ni ddim cael sengl heb gael Nain arni. Wedyn 'naeth Nain esblygu i fod yn Nain a Rhys Meirion."
Ac o hynny, mae wedi esblygu ymhellach i gynnwys deuddeg o gantorion unigol, plant Ysgol Gymraeg Y Fenni, a hyd yn oed ci!
Aeth rhai o'r cantorion draw i stiwdio'r cerddor Mei Gwynedd yng Nghaerdydd i recordio, tra aeth llond llaw i recordio yn Stiwdio Sain yn Llandwrog.
Dywedodd Mei, sydd wedi cynhyrchu'r sengl: "Erbyn hyn dwi wedi gweithio ar sawl cân torfol gydag artistiaid amrywiol, yn cynnwys Gŵyl Y Baban gan Caryl nôl yn 2011, ond mae hon wedi bod yn brofiad unigryw iawn! Roedd clywed y syniad o dynnu ffrindiau'r sioe, y plant ac wrth gwrs y cyflwynwyr i ganu ar y gân yn wahanol i'r arfer, a dwi wedi mwynhau pob eiliad o'r broses."
"Yn aml fydda' i yn dweud nad yw un diwrnod 'run peth â'r llall, a dyna yn union yr oeddwn yn meddwl wrth gymysgu - ci yn canu ar drac! Blwyddyn newydd dda i chi gyd!"
Cyfle i adlewyrchu
Yn ddiweddar dathlodd y rhaglen flwyddyn gron ar yr awyr, ac fe gynigiodd hynny gyfle i'r tîm edrych yn ôl ar y môr o bobl sydd wedi rhoi eu hamser i siarad gyda Trystan ac Emma a rhannu eu straeon. Yn ôl Emma, mae'r sengl yn gyfle i roi'r teimlad yna ar gof a chadw.
"'Dan ni wedi cael blwyddyn o wneud y rhaglen a 'dan ni wedi cwrdd a sgwrsio efo pobl mor lyfli, mor agos atat ti, mor annwyl, mor ddoniol, mor ddifyr," meddai. "Mae'r ymdrech maen nhw wedi'i roi i'n rhaglen ni... heb y cyfranwyr fydde gennym ni ddim rhaglen. A dw i'n teimlo ar ôl clywed y gân a gwylio'r fideo mae o'n cwmpasu ein bwriad ni efo'r rhaglen."
Gallwch lawrlwytho fersiwn Rhaglen Trystan ac Emma o Yn Y Dechreuad yma.