Cyfyngiadau Covid newydd yn dod i rym yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
bwrdd o chwechFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwech o bobl sy'n cael eistedd o amgylch bwrdd mewn tafarn, bwyty neu gaffi o 26 Rhagfyr

Mae Cymru bellach wedi symud i lawer o gyfyngiadau Lefel Rhybudd Dau ar gyfer Covid-19 yng Nghymru.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod angen cyfyngiadau pellach er mwyn atal lledaeniad y feirws - yn benodol amrywiolyn Omicron.

Ers 06:00 y bore ar Ŵyl San Steffan mae'r 'rheol chwe pherson' wedi dychwelyd i lefydd fel tafarndai, bwytai, sinemâu a theatrau.

Mae rheolau ymbellhau wedi tynhau mewn mannau cyhoeddus a dim ond hyd at 30 o bobl sydd yn cael cwrdd mewn digwyddiadau dan do.

Mae clybiau nos bellach ar gau, ddiwrnod ynghynt na'r cynllun gwreiddiol.

Beth yn union sy'n newid?

Dyma'r rheolau sydd wedi newid yng Nghymru ddydd Sul:

  • Cadw pellter cymdeithasol o 2m mewn mannau cyhoeddus ble'n bosib;

  • 'Rheol chwe pherson' yn dychwelyd i lefydd fel lletygarwch, sinemâu a theatrau;

  • Mesurau ychwanegol i dafarndai a bwytai, fel gwasanaeth bwrdd, mygydau, a chasglu manylion cyswllt;

  • Hyd at 30 yn cael cwrdd ar gyfer digwyddiadau dan do, a hyd at 50 y tu allan;

  • Clybiau nos i gau;

  • Rheolau ymbellhau cymdeithasol o ddau fetr mewn gweithleoedd a siopau;

  • Bydd gemau chwaraeon proffesiynol yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig - ond caiff hyd at 50 o bobl fynd i wylio gemau cymunedol, a bydd eithriad ar gyfer chwaraeon plant.

Gallai unrhyw un sy'n mynd i'r gwaith pan nad oes angen wynebu dirwy o £60.

Ga i fynd i gartrefi teulu a ffrindiau?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Awgrymodd Mr Drakeford y dylid cadw at dair aelwyd ar y tro mewn cartrefi

Nid oes rheolau cyfreithiol i gyfyngu ar gymysgu yn nhai a gerddi pobl, ond awgrymodd Mr Drakeford y dylid cadw at dair aelwyd ar y tro.

Ond, dywedodd y Prif Weinidog y bydd trosedd benodol yn cael ei chyflwyno ar gyfer casgliad mawr o bobl.

Fe fydd hi'n anghyfreithlon i fwy na 30 o bobl gwrdd dan do, a 50 o bobl yn yr awyr agored.

Dywedodd Mr Drakeford y dylai pobl ddilyn pum rheol os yn cyfarfod â phobl eraill yn eu tai:

  • Cyfyngu ar nifer y bobl sy'n dod i'ch cartref;

  • Sicrhau fod pobl yn gwneud prawf llif unffordd cyn ymweld;

  • Cwrdd yn yr awyr agored os yn bosib, ond sicrhau fod digon o awyr iach yn dod i'r ystafell os yn cwrdd dan do;

  • Gadael bwlch rhwng unrhyw ymweliadau;

  • Cofio cadw pellter cymdeithasol a golchi'ch dwylo.

Ychwanegodd y bydd y rheolau mewn grym am yr amser byrraf posib, ac y byddan nhw'n cael eu hadolygu'n gyson.

Beth am briodasau ac angladdau?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen i leoliadau priodasau ac angladdau wneud asesiadau risg er mwyn addasu i'r cyfyngiadau newydd

Dywedodd Mark Drakeford y bydd angen i fannau sy'n cynnal priodasau ac angladdau addasu eu cyfyngiadau yn dibynnu ar faint y lleoliad.

Mae'r llywodraeth yn annog gwesteion i wneud prawf Covid llif unffordd cyn mynd i unrhyw ddigwyddiad o'r fath.

Beth am chwaraeon?

Bydd gemau chwaraeon proffesiynol yn cael eu chwarae heb dorf o ddydd Sul ymlaen.

Mae eithriad i gemau chwaraeon cymunedol a digwyddiadau chwaraeon i blant - gall hyd at 50 o bobl fynd i'w gwylio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o gemau oedd i fod i gael eu chwarae ar Ŵyl San Steffan wedi eu gohirio

Ddydd Nadolig daeth i'r amlwg na fyddai'r gêm rhwng Rygbi Caerdydd a'r Scarlets yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn mynd yn ei blaen ddydd Sul oherwydd achosion Covid ymysg carfan y rhanbarth o'r brifddinas.

Roedd gêm y Gweilch a'r Dreigiau ar 26 Rhagfyr eisoes wedi cael ei gohirio oherwydd achosion Covid-19 yng ngharfan y Gweilch.

Yn y byd pêl-droed, bu'n rhaid gohirio gemau Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd, a oedd hefyd i fod ar Ŵyl San Steffan, oherwydd achosion Covid.

Oes rhaid i fi weithio o adref?

O 20 Rhagfyr, fy ddywedodd Mark Drakeford bod gweithio o adref, os yn bosib, yn rheol gyfreithiol.

Mae'r rheol yn nodi y dylai pawb weithio o adref "lle mae'n rhesymol ac ymarferol i wneud hynny". Mae hynny'n cynnwys gwaith gwirfoddol ac elusennol hefyd.

Fe allai gweithwyr sy'n torri'r rheol heb reswm dilys gael dirwy o £60.

Gallai busnesau gael dirwy o £1,000 hyd at £10,000 am beidio â chadw at y rheolau.

Ga i ymweld â rhywun mewn cartref gofal?

Does dim cyngor swyddogol wedi ei rannu ynglŷn ag ymweliadau cartrefi gofal.

Felly ar hyn o bryd, penderfyniad y cartref yw gosod rheolau ar ymweliadau.

Beth yw'r rheolau ar hunan ynysu?

Bellach ni fydd rhaid i blant ac oedolion sydd wedi eu brechu'n llawn hunan ynysu os ydyn nhw wedi bod mewn cyswllt gyda rhywun â Covid-19.

Yn hytrach, fe fydd yn rhaid iddyn nhw gymryd prawf llif unffordd (LFT) bob dydd, ac fe fyddan nhw'n cael mynd i'r gwaith.

Ond fe fydd y rheiny sydd heb eu brechu'n llawn yn parhau i orfod hunan ynysu os ydyn nhw wedi bod yn gyswllt agos.