Dim torfeydd mewn gemau chwaraeon yng Nghymru o 26 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd
Bydd gemau chwaraeon yn cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig o 26 Rhagfyr ymlaen yng Nghymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cam yn helpu i reoli lledaeniad yr amrywiolyn Omicron o Covid-19.
Mae'r cyfyngiadau yn berthnasol i bob digwyddiad chwaraeon dan do, awyr agored, proffesiynol a chymunedol.
Mae'r cyfyngiadau wedi eu beirniadu fel rhai "hollol hurt" gan rai ar lawr gwlad, gydag eraill yn dweud y gallai'r camau fod yn wrth-gynhyrchiol.
Bydd "torfeydd yn dod yn ôl cyn gynted â phosib", meddai Gweinidog yr Economi, ond ychwanegodd Vaughan Gething bod "angen i ni weithredu nawr".
Cyhoeddodd hefyd y bydd cronfa gwerth £3m ar gael i glybiau a lleoliadau chwaraeon fydd yn cael eu heffeithio gan y mesurau newydd.
Bydd mwy o fanylion am y gronfa ar gael yn dilyn trafodaethau gyda'r sector, meddai Llywodraeth Cymru.
'Cyngor yn glir'
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y byddai cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno o 27 Rhagfyr.
Ddydd Llun, cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 435 achos o Omicron yng Nghymru erbyn hyn - cynnydd o 163 mewn diwrnod.
Mae'r gyfradd achosion saith diwrnod am bob 100,000 o bobl ar draws Cymru wedi neidio o 503.4 i 548.4.
Yn y cyfamser, mae bron i hanner y boblogaeth dros 12 oed wedi derbyn trydydd dos o'r brechlyn Covid-19 yng Nghymru erbyn hyn.
Dywedodd Vaughan Gething: "Mae digwyddiadau chwaraeon dros gyfnod y Nadolig yn un o uchafbwyntiau mawr y flwyddyn.
"Yn anffodus, mae'r amrywiolyn Omicron newydd yn ddatblygiad sylweddol yn y pandemig a gallai achosi nifer fawr o heintiau.
"Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws ofnadwy yma.
"Drwy gydol y pandemig rydym wedi dilyn cyngor gwyddonol ac iechyd y cyhoedd i gadw pobl yn ddiogel.
"Mae'r cyngor yn glir - mae angen i ni weithredu nawr fel ymateb i fygythiad Omicron.
"Rydym yn rhoi cymaint o rybudd i bobl am y penderfyniadau hyn ag y gallwn ni.
"Bydd torfeydd yn dod yn ôl cyn gynted â phosib. Rydyn ni eisiau i bawb fod yma i fwynhau eu hoff chwaraeon."
Cyn y cyhoeddiad am hanner nos ddydd Llun, roedd gemau chwaraeon yng Nghymru eisoes wedi'u heffeithio gan achosion o Covid-19.
Yn gynharach ddydd Llun daeth cadarnhad bod nifer o gemau yng Nghymru wedi'u gohirio dros yr ŵyl.
Mae'r gêm Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC) rhwng y Gweilch a'r Dreigiau ar 26 Rhagfyr wedi cael ei gohirio.
Yn y pêl-droed, bu'n rhaid gohirio gemau Caerdydd a Chasnewydd, a oedd hefyd i fod ar Ŵyl San Steffan.
Bydd y mesurau diweddaraf yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, medd Llywodraeth Cymru.
Beth ydy barn y gwrthbleidiau?
Mewn ymateb, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod y sefyllfa yn un "anodd sy'n symud yn gyflym" ond mai "nad dyma'r ffordd i wneud pethau".
Ychwanegodd bod "teuluoedd, gweithwyr, busnesau a sefydliadau yn haeddu cyfathrebu clir gan lywodraethau o bob math yn ystod cyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd.
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dal i gredu y dylai cyfyngiadau ond gael eu cyflwyno yn seiliedig ar y data cryfaf posib, ac fel yr opsiwn olaf er mwyn gwarchod y GIG."
Fore Mawrth, dywedodd y dylid galw'r Senedd yn ôl er mwyn cynnal dadl ar y newidiadau, yn hytrach na bod y llywodraeth yn rhyddhau datganiadau i'r wasg.
Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu at y Llywydd "i fynnu adalw'r Senedd er mwyn gallu craffu ar [y cynllun] yn llawn".
Dywedodd Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru ar chwaraeon, ei bod yn bwysig i glybiau chwaraeon gael eu cefnogi.
"Mae ein chwaraeon yn ffynnu gyda chefnogaeth y cyhoedd, ac mae'n droad creulon bod coronafeirws yn ffynnu mewn torfeydd hefyd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2021