Pwy fydd yn talu am bolisïau i leihau newid hinsawdd?

  • Cyhoeddwyd
Cartref Iwan Reynolds
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Iwan Reynolds o Langynnwr ei fod e'n arbed llawer o arian wedi iddo osod paneli solar

Wrth i gostau ynni godi ac argyfwng hinsawdd waethygu mae nifer yn holi pam nad oes paneli solar ar bob tŷ newydd fel bod modd cynhyrchu ynni glân am ddim ond pa mor gost-effeithiol yw hynny a beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru?

Mae biliau ynni wedi codi £400 y flwyddyn ar gyfartaledd, ac mae'r rheolydd ynni, Ofgem, yn rhybuddio y bydd costau ar eu huchaf flwyddyn nesaf.

Mae arbenigwyr yn darogan y bydd biliau pobl sy'n talu £850 ar gyfartaledd yn codi i dros £1700.

Mae Gweinidogion yng Nghymru yn awyddus i adeiladwyr leihau ôl-troed carbon tai newydd o fwy na thraean yn 2022.

Ond mae datblygwyr eisiau mwy o gymorth gan y llywodraeth er mwyn cyrraedd safonau adeiladu newydd.

Yn y gwanwyn fe fydd y cap ar brisiau ynni, sy'n rheoli prisiau cyflenwyr, yn codi oherwydd y cynnydd ym mhrisiau nwy - rhywbeth sydd wedi achosi i rai cyflenwyr fynd i'r wal yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae 25 miliwn o dai ym Mhrydain yn defnyddio boeleri nwy ond erbyn 2035 ni fydd boeleri nwy yn cael eu gwerthu rhagor. Mae 21% o ollyngiadau nwy y Deyrnas Unedig yn cael eu hachosi gan nwy rydyn ni'n defnyddio i dwymo ein tai.

Costio miloedd i osod paneli solar

Mae cynlluniau ar y gweill yn Nghymru a Lloegr i dalu am bwmp gwres yn lle boeleri. Ond wrth i'r wlad wynebu argyfwng ynni, a ddylai paneli solar gael eu cynnwys yn y safonau adeiladu newydd?

Yn ôl un cwmni sy'n gosod paneli solar, mae angen talu rhwng £6,000 a £7,000 am system paneli solar sy'n cynhyrchu 4kW o ynni.

Dywedodd Gareth Jones sy'n berchen ar gwmni Carbon Zero Renewables ei fod wedi gweld cynnydd o 1000% yn nifer y bobl sy'n gofyn am baneli solar ers dechrau'r argyfwng ynni.

"Mae rhesymau pobl dros ystyried paneli solar wedi newid o wneud arian o'r grid i bryderon am newid hinsawdd," meddai Mr Jones.

"Dydych chi ddim yn mynd i wneud llawer o arian drwy roi trydan yn ôl i'r grid, ond mae'r agwedd amgylcheddol bellach yn ffactor fawr - ynghyd â pheidio wynebu costau ynni uchel.

"Mae'r syniad o droi eich cartref yn orsaf creu trydan yn profi'n ddeniadol i rai pobl hefyd. Os oes gennych chi gar trydan, mae cwsmeriaid yn hoffi'r ffaith bod yr holl egni maen nhw'n ei ddefnyddio yn lân."

'Arbed arian'

Mae gan Iwan Reynolds o Langynnwr 20 panel solar ar ei dŷ. Mae ochr y to sy'n cynnwys y paneli yn wynebu'r de.

Yn ei garej mae dau fatri yn storio'r ynni ac yn rhyddhau yr hyn sydd angen i redeg y tŷ yn ystod y dydd gan gynnwys peiriannau a thwymo'r dŵr.

Yn ogystal, mae peth o'r ynni yn cael ei ddefnyddio i redeg y car trydan.

Ers buddsoddi yn y dechnoleg, mae Iwan wedi gweld gwahaniaeth mawr yn ei gostau ynni bob mis.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iwan Reynolds yn talu ryw £400 y flwyddyn am nwy a thrydan

"Fi'n gwario tua £80 y flwyddyn ar drydan. Mae hwnna'n cynnwys rhedeg y tŷ a rhedeg y car trydan.

"Fues i'n siarad gyda fy mrawd a does dim technoleg gyda fe fel sydd gyda fi. Dywedais i bo' fi'n talu £33 y mis a tua £400 y flwyddyn am nwy a thrydan.

"Dywedodd e bod e'n talu tua £90 i £100 y mis felly o gymharu â fe, dwi'n arbed tua £60 i £65 y mis."

'Angen lleihau ôl troed carbon cartrefi 37%'

Yn sgil yr argyfwng ynni a'r angen i adeiladu tua 7,400 o dai newydd bob blwyddyn yng Nghymru, ydy'r llywodraeth yn bwriadu gwthio datblygwyr i adeiladu tai newydd â safonau gwyrdd llymach?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ofnau y bydd prisiau tai newydd yn codi yn sgil rhai gofynion amgylcheddol

Mae Cymru wedi datgan bod yna argyfwng hinsawdd ac wedi gosod targed o gyrraedd sero net erbyn 2050.

Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am bolisïau newid hinsawdd yn bwriadu ei gwneud hi'n orfodol i ddatblygwyr ostwng ôl-troed carbon tai newydd 37% o gymharu â safonau cyfredol.

Ond mae Julie James yn bwriadu gadael i adeiladwyr tai preifat benderfynu sut i gyrraedd y targed newydd gan ei bod yn derbyn nad yw pob ffynhonnell ynni adnewyddadwy yn gweithio ym mhobman.

"Dydyn ni ddim yn gorchymyn cyflwyno technoleg benodol, ond rydyn ni'n gorfodi canlyniad penodol," meddai Julie James wrth y BBC.

"Dydw i ddim yn gwneud hyn achos fy mod i'n hoff iawn o'r math yma o dŷ ond yn hytrach achos bod argyfwng hinsawdd - newidiadau yn ein tywydd ac amodau tywydd difrifol iawn. Rydyn ni angen tai sy'n gallu gwrthsefyll y pwysau cynyddol o dywydd eithafol."

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r diwydiant adeiladu i leihau ôl troed carbon cartrefi 37% o'r flwyddyn nesaf - ac i sicrhau fod cymaint o'r cyflenwadau'n dod o Gymru er mwyn lleihau unrhyw ôl troed carbon yn y gadwyn gyflenwi.

Pris tai newydd yn codi

Mae'r sefydliad sy'n cynrychioli datblygwyr bach yn cytuno mai newid yn yr hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf ac mai ynni adnewyddadwy y tu mewn i'n cartrefi yw'r dyfodol.

Ond mae Ffederasiwn y Meistri Adeiladwyr wedi rhybuddio y gallai hyn gynyddu costau tai newydd ac mai'r cwsmeriaid fydd yn gorfod talu.

Dywed Ben Francis, sy'n gweithio i gwmni Hygrove - cwmni adeiladu tai preifat yn ne Cymru: "Mae'n costio mwy i adeiladu tai newydd yng Nghymru yn barod oherwydd y safonau cyfredol ond gyda newidiadau pellach gall hynny fod yn gost uwch i brynwyr newydd yn y dyfodol.

"Hoffen ni drafod cymaint ag sy'n bosib gyda Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod nhw'n deall perspectif cwmni fel ni ar effaith polisïau newydd fel hyn ar y broses adeiladu a'r broses ddatblygu," meddai.