Y teulu sydd ar alwad petai argyfwng ar y môr

  • Cyhoeddwyd
Y teulu BarberFfynhonnell y llun, RNLI/Nathan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu Barber tu allan i orsaf y bad achub ar Draeth Poppit ger Aberteifi

Am y tro cyntaf eleni bydd pedwar aelod un teulu o Geredigion ar alwad ddiwrnod Nadolig petai unrhyw un yn mynd i drafferthion yn y môr.

Ers 12 mlynedd mae Tony Barber yn aelod gwirfoddol o fad achub Aberteifi, ac fe ymunodd ei fab 20 oed, Leo, â'r criw dair blynedd yn ôl.

Ond Nadolig eleni fe fydd ei wraig, Amanda a'u merch 18 oed, Madeleine hefyd ar alwad ar ôl penderfynu gwirfoddoli i'r gwasanaeth.

Petai'r alwad yn dod am gymorth bydd yn cymryd naw munud iddyn nhw gyrraedd gorsaf y bad achub ar draeth Poppit ger Aberteifi.

'Dim teimlad gwell nag achub bywyd'

"Rwy'n edrych ymlaen, i fod yn onest," meddai Madeleine, oedd eisiau ymuno â'r RNLI "gynted ag i mi droi'n 17 oed".

"Os alla'i ollwng beth bynnag rwy'n ei wneud mewn amrantiad a helpu rhywun arall, bydde'n golygu'r byd i mi...

"Os gallwch chi fod mewn sefyllfa ble rydych chi'n gallu arbed bywyd, does dim teimlad gwell i'w gael."

Ffynhonnell y llun, RNLI/Nathan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Madeleine Barber, a ymunodd, fel ei brawd gynt, fel gwirfoddolwr yn syth wedi ei phen-blwydd yn 17 oed

Mae'r teulu wedi hen arfer gweithio gyda'i gilydd, gan redeg teithiau cwch o bentref Gwbert fel bod pobl yn gallu gweld morloi a dolffiniaid ym misoedd yr haf.

Mae Madeleine hefyd yn gweithio mewn caffi drws nesaf i orsaf y bad achub.

"Rwy' wrth fy modd bod yn y criw gyda'r holl deulu," meddai. "Rwy'n tynnu ymlaen yn dda gyda nhw i gyd, sy'n beth da!"

Nadolig llai 'traddodiadol'

"Mae'r pager wastad yn gwybod rywsut pryd ry'n ni'n eistedd lawr ar gyfer cinio [Nadolig]. Bu sawl tro pan fu'n rhaid i Dad adael...

"Mae'ch calon yn suddo... ond hefyd ry'ch chi dymuno'r gorau iddo oherwydd ry'ch chi'n gwybod ei fod yn gwneud rhywbeth mor arbennig.

"Rwy'n sylweddoli falle nad ydy ein Nadolig ni yn un traddodiadol ac mae'n ymddangos yn od i fy ffrindiau y gallwn ni oll orfod rhuthro i'r orsaf pa bynnag adeg o'r dydd neu'r nos y daw galwad.

"Dydw i ddim yn meddwl ddwywaith amdano. Rwy'n edrych ymlaen at fod ar alwad am y tro cyntaf Nadolig yma a gallu helpu rhywun mewn angen."

Ffynhonnell y llun, RNLI/Nathan Williams

Ymunodd Amanda Barber fel gwirfoddolwr yn ddiweddar.

"Wedi sawl blwyddyn o wylio Tony'n rhuthro o'r tŷ ar fyr rybudd a, maes o law, Leo ac yna Madeleine, doedd gen i ddim rheswm mwyach i beidio ymuno â nhw," dywedodd.

"Nawr, yn hytrach nag aros a dyfalu sut ddaru pethau fynd yn dilyn galwad, fe alla'i fod yno yn yr orsaf yn eu cefnogi."

Ffynhonnell y llun, RNLI/Nathan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Tony Barber oedd aelod cyntaf y teulu i wirfoddoli gyda Gwylwyr y Glannau

Dywedodd Madeleine bod ei mam yn y gorffennol "yn amlwg yn llawn pryder ynghylch pryd fydden ni'n dod adref".

"Ry'n ni wrth ein boddau ei bod wedi penderfynu ymuno â ni fel rhan o griw'r glan môr."

Dywedodd Tony Barber bod cyfnod y Nadolig "yn ymwneud yn y bôn â rhoi, felly mae bod ar alwad yn ffordd arall i ni wneud hynny".

Mae'r teulu'n apelio ar y cyhoedd i gymryd pwyll ar hyd yr arfordir, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf pan mae'r môr yn oerach ac yn fwy tymhestlog.

Pynciau cysylltiedig