Cymru yn cofio'r diweddar Archesgob Desmond Tutu

  • Cyhoeddwyd
TutuFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r Archesgob Tutu yng Nghymru ar sawl achlysur

Mae nifer o Gymry ymhlith cannoedd sydd wedi bod yn rhoi teyrngedau i'r Archesgob Desmond Tutu sydd wedi marw yn 90 oed.

Ymwelodd â Chymru ar sawl achlysur gan gwrdd â mudiadau oedd wedi magu cysylltiadau ag Affrica dros y blynyddoedd.

Yn enillydd Gwobr Heddwch Nobel, mae e'n cael ei gofio yn bennaf am ei ran allweddol yn yr ymgyrch i ddod ag apartheid i ben yn Ne Affrica.

'Sicrhau cyfiawnder yn bwysig'

Wrth gofio am ei gyfraniad dywedodd Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn: "Fe wnes i gyfarfod ag e ddwywaith - ei glywed yn annerch yn Llanelwedd yn yr 80au ac yna 2012 mi ges i sgwrs ag e yn ystod ei ymweliad â Chymru.

Disgrifiad,

Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn: 'Dyn cwbl arbennig ac arloesol'

"Roedd o'n ddyn cwbl arbennig ac o flaen ei amser o ran parchu pobl hoyw, ordeinio gwragedd - roedd hynny yn beth dewr iawn i'w wneud yn Ne Affrica.

"Roedd sicrhau cyfiawnder yn bwysig iddo. Ro'dd o'n fodlon herio mewn ffordd effeithiol heb wneud gormod o sŵn na denu sylw at ei hun.

"Mae rhywun yn cofio am ei frwydr yn erbyn apartheid, wrth gwrs, ac yn arbennig am ei faddeuant yn sgil hynny. Roedd e hefyd yn flaenllaw o ran diogelu'r amgylchedd.

"Roedd o'n ddyn mor glên ac yn llwyddo i bontio yr hyn oedd yn anodd."

Yn 1986 fe deithiodd cannoedd ar draws Cymru i weld yr Archesgob Tutu yn annerch ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd - roedd e yno fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Cyngor Eglwysi Cymru.

Tra ar ei ymweliad â Chymru yn 2012 fe aeth i Ysgol Plasmawr, Caerdydd. Dirprwy Bennaeth yr ysgol ar y pryd oedd Edward Howell Jones.

"Roedd gallu yr Archesgob Tutu i gynnal sylw neuadd llawn disgyblion ysgol yn rhyfeddol. Roedd e'n adroddwr storïau heb ei ail," meddai.

Wrth roi teyrnged iddo fore Sul dywedodd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r ymgyrchydd gwrth-apartheid, Peter Hain, bod Desmond Tutu ar yr un lefel â Nelson Mandela - o ran ei weledigaeth, ei onestrwydd, ei ddiffuantrwydd a'i ddewrder.

"Pan ro'dd Nelson Mandela o dan glo ar Ynys Robben, llwyddodd i ysbrydoli ac ennyn ffyddlondeb pobl mewn dulliau meddal ond eto'n galed - hynny yw roedd e'n siarad yn blaen ond mewn ffordd gydymdeimladwy."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Bishop of Bangor

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Bishop of Bangor

Dywedodd Archesgob yr Eglwys yng Nghymru, Andy John, bod yr eglwys yn diolch am fywyd yr Archesgob Tutu.

Mewn neges ar gyfrif Twitter, dywedodd ei fod yn berson o egni diddiwedd, hiwmor, dewrder a chariad. Da Was, da a ffyddlon."

Ar ei gyfrif facebook dywedodd Evan Morgan, Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ei fod yn "arwr, ysbrydoliaeth a phroffwyd" a'i fod wedi ei glywed yn pregethu sawl gwaith - y tro diwethaf yng Nghaerdydd.

Yn 2009 fe gafodd yr Archesgob Tutu radd anrhydeddus gan Brifysgol Bangor. Fore Sul dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Ry'n yn drist o glywed am farwolaeth yr Archesgob Tutu - mae ei gyfraniad i heddwch byd a chymodi yn anfesuradwy."

Dywedodd y Barnwr Ray Singh, Cadeirydd Race Council Cymru: "Ry'n yn cydymdeimlo'n ddwys â'u deulu ac yn cofio am ddyn yr oedd ei lais yn gryfach nag anghyfiawnderau hiliol a'r apartheid a ddioddefodd pobl ddu De Affrica.

"Er bod yna fygythiadau i'w fywyd wrth iddo siarad yn chwyrn yn erbyn gweithredoedd De Affrica ar y pryd, fe barhaodd i siarad am gyfartaledd a chyfiawnder o'r pulpud, yn y gymuned ac yng nghoridorau grym.

"Ry'n wedi colli cawr o ddyn ac ymgyrchydd diflino. Bydded iddo orffwys mewn hedd."

Pynciau cysylltiedig