Gyrrwr yn yr ysbyty wedi i'w gar wyro oddi ar yr A48

  • Cyhoeddwyd
A48Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 4 o'r gloch fore Sul

Mae gyrrwr car yn cael triniaeth ysbyty wedi i'w gerbyd wyro oddi ar ffordd yr A48 ger Crosshands i gae cyfagos.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 4 o'r gloch fore Sul.

Mae plismyn wedi bod yn annog gyrwyr i osgoi'r ardal rhwng Crosshands a Llanddarog.

Dywed yr heddlu nad oedd unrhyw gerbydau eraill yn gysylltiedig â'r digwyddiad.

Mae'r gyrrwr yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Pynciau cysylltiedig