Rhybudd am gwestiynau twyllodrus ar gyfryngau cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Beth oedd eich anifail anwes cyntaf? Pa un oedd y cyngerdd cyntaf i chi fynd iddo? Beth oedd enw eich athro cyntaf?
Os welwch chi gwestiynau tebyg i hyn wrth sgrolio drwy'r cyfryngau cymdeithasol, fe ddylech chi feddwl ddwywaith cyn eu hateb, yn ôl un sefydliad hawliau'r cwsmer.
Fe ddywed gwasanaeth adrodd twyll y DU fod £2.5 biliwn wedi cael ei ddwyn mewn mwy na 480,000 o droseddau seibr dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae sefydliad Which? yn amcangyfrif bod troseddau ar-lein yn y DU wedi cynyddu o 33% ers dechrau'r pandemig.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio y bydd troseddau seibr yn cynyddu eto dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd wrth i fwy o bobl dreulio amser yn siopa ac yn cymdeithasu ar-lein.
Ym mlwyddyn gynta'r pandemig, fe wnaeth troseddau twyll gynyddu yng Nghymru o fwy na chwarter.
Dywedodd Adam French o gylchgrawn Which? fod pobl yn credu eu bod yn ymwybodol o ffyrdd y gallen nhw gael eu twyllo ar-lein, ond bod ffyrdd mwy soffistigedig y twyllwyr yn golygu y gallai pobl gael eu dal yn ddiniwed.
"Yn anffodus mae sgamiau ar-lein yn gallu digwydd mewn nifer o ffyrdd gwahanol, ond yn greiddiol i hyn fel arfer mae cynnwys ffug, boed hynny yn hysbyseb sy'n ymddangos pan ydych chi'n chwilio am rhywbeth ac yn cynnig bargen," meddai.
"Mae troseddwyr yn creu safleoedd llawer mwy credadwy i dwyllo pobl, yn enwedig yn dilyn y cynnydd sylweddol mewn siopa ar-lein dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf."
Mae gofyn am wybodaeth bersonol er mwyn twyllo wedi mynd yn beth cyffredin, ac ychwanegodd Mr French bod rhai cwestiynau'n ymddangos yn ddiniwed, ond eu bod mewn gwirionedd yn gamau i rhywun fedru ateb eich cwestiynau diogelwch ar safleoedd swyddogol.
"Mae'r math o gwestiynau sy'n ymddangos mewn ambell gwis personoliaeth yn ymddangos yn dipyn o hwyl, ond gallai'r wybodaeth gael ei defnyddio yn eich erbyn ac fe fydden ni'n argymell pobl i beidio cymryd rhan mewn pethau felly," meddai.
Dywedodd hefyd fod gan gwmnïau technoleg mawr fel Facebook a Google "gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hysbysebion y maen nhw'n cael eu talu i hybu ddim yn dwyllodrus".
Pam bod twyll o'r fath yn llwyddo?
Yn ôl un seicolegydd ym Mhrifysgol De Cymru, Martin Graff, mae twyll fel hyn yn gallu llwyddo oherwydd ein perthynas ni gyda phobl ar-lein.
Dywedodd: "Mae cwestiynau hollol ddiniwed a welwn mewn cwis yn rhywbeth sy'n denu pobl i gymryd rhan heb feddwl gormod am y peth.
"Mae'n ymddangos fel datgelu pethau lefel isel, a bron fel sgwrsio.
"Fe fyddech chi'n ddigon hapus dweud wrth rhywun yr ydych chi wedi'u cyfarfod nhw mewn tafarn beth yw eich hoff hufen iâ, felly dyw hynny ddim yn ymddangos yn bwysig.
"Ond er bod pobl yn gwybod na ddylen nhw rannu gwybodaeth breifat, maen nhw mewn gwirionedd yn ymddwyn yn wahanol, gan anghofio bod person go iawn yn gallu bod ben arall y cyfrifiadur.
"Fyddai rhywun ddim yn meddwl mynd allan a chyhoeddi peth o'ch gwybodaeth bersonol, ond ar Facebook ac ati, dyna'n union ydych chi'n ei wneud."
Sut i beidio cael eich twyllo
Stopiwch: Cymrwch funud i feddwl cyn gwario arian neu rannu wybodaeth ar-lein;
Heriwch: Allai hwn fod yn safle ffug? Mae'n iawn i wrthod unrhyw gais... dim ond troseddwyr fydd yn ceisio eich gwthio tuag at wneud penderfyniad yn gyflym;
Gwarchodwch: Os ydych chi'n amau eich bod wedi cael eich twyllo, cysylltwch gyda'ch banc ar unwaith.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021