Argyfwng ail dai: Edrych nôl ar flwyddyn o weithredu

  • Cyhoeddwyd
Catrin a Nel Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin a Nel Roberts yn poeni am ddyfodol ardal Morfa Nefyn yn sgil ail gartrefi

Mae ail gartrefi yn un o'r pynciau llosg sydd wedi cael cryn sylw yn 2021 - hynny yn sgil pryderon am y nifer cynyddol ac wrth i gynllun y Blaid Lafur a Phlaid Cymru nodi bod angen "gweithredu ar unwaith i fynd i'r afael â'r cynnydd".

Er yn wreiddiol o ardal Penrhyndeudraeth mae teulu Catrin Roberts wedi gosod eu gwreiddiau yn ardal Morfa Nefyn ers cenedlaethau.

Fe dreuliodd flynyddoedd yn teithio nôl a mlaen o'r ardal pan yn blentyn i ymweld â'i nain a'i thaid a dywed ei bod yn teimlo'n ffodus iawn o etifeddu'r tŷ, lle mae bellach yn magu ei theulu.

Mae Catrin wedi bod yn llais amlwg yn yr ymdrech i godi ymwybyddiaeth am yr argyfwng ail gartrefi ond er iddi groesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r broblem yn gynharach eleni, mae hi dal yn poeni am ddyfodol yr ardal.

Dywed merch Catrin, Nel sy'n 16 oed, ei bod wedi derbyn y bydd hi'n annhebygol y bydd hi'n gallu fforddio aros yn y pentre' lle ei magwyd hi.

Mae'r gwahaniaeth sydd i weld rhwng y gaeaf a'r haf ym Mhen Llŷn yn drawiadol.

Yn ystod y misoedd braf mae'i bron â bod yn amhosib parcio ym Morfa Nefyn - mae'r traeth yn llawn a bwrlwm ar hyd strydoedd y pentref.

Golwg go wahanol sydd yna ar brynhawn oer a gwlyb ym mis Rhagfyr.

"Mae'n wag iawn yma," meddai Catrin.

"Mae'n ardal hyfryd, dyma'r lôn sy'n arwain ni lawr at y traeth ac mae'r rhan fwyaf o'r tai sydd yn yr ardal yma yn ail gartrefi."

Tŷ teras bron yn £300,000

Wrth gerdded ar hyd y stryd dawel fe bwyntiodd Catrin at nifer o dai sydd bellach yn ail gartrefi neu'n dai haf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae tai teras ym Morfa Nefyn yn costio bron £300,000

"Mae 'na fflatiau gwyliau moethus ym mhen y lôn fan hyn, roedd y penthouse yn mynd am filiwn ac mae hynny 'di cael effaith ar brisiau tai eraill.

"Mae 'na dŷ yn mynd am hanner miliwn o bunnoedd ac wedyn rhes o dai, hen dai ar dop y lôn - mae tŷ teras bychan efo croglofft yn mynd am bron i dri chan mil."

Yn ôl Catrin mae hi'n teimlo'n ffodus iawn i gael byw mewn ardal hardd sydd â chymuned glòs ond mae'n dweud mai'r pryder ydi na fydd modd i'w phlant hi a chenedlaethau o blant sydd i ddod fyw yn yr un gymuned.

Mae gweithredu a phrotestio am y cynnydd mewn ail gartrefi wedi bod yn amlwg iawn ym Mhen Llŷn ers degawdau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder cynyddol nad yw pobl leol yn gallu prynu tai yn y fro Gymraeg

Uwchlaw pentref Nefyn llosgwyd tŷ haf ar noson gyntaf ymgyrch Meibion Glyndŵr.

Yn Llanbedrog cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y mudiad 'Cymuned' ugain mlynedd yn ôl.

Ac yn 2021, rhai o aelodau cyngor tref Nefyn sydd wedi arwain protestiadau Hawl i Fyw Adra.

Ym mis Tachwedd 2021 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot yn ardal Dwyfor fyddai'n rhoi pwerau newydd i gynghorau i gyfyngu ar nifer yr ail gartrefi.

Mae'n bosib y bydd rhaid cael caniatâd i drawsnewid tai hefyd.

Mae Rhys Tudur wedi bod yn un o'r ymgyrchwyr mwyaf brwd ac yn croesawu'r cyhoeddiad fel cam cyntaf.

"Cyn y cyhoeddiad doedd gynnon ni ddim math o arwydd fod unrhyw fath o ewyllys gan y llywodraeth i daclo'r sefyllfa ond 'dan ni'n gwybod bod 'na rŵan," meddai.

"Mae rhaid inni barhau rŵan i sicrhau'r mesurau 'dan ni eisiau i daclo'r argyfwng yma".

Wrth gydnabod fod 'na le i rai llety gwyliau sydd o bosib yn cyfrannu i'r economi leol, mynnodd fod 'na lai o fudd' i dai haf i'r rhai hynny sy'n dod yma ambell dymor y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi bod yn casglu mewn gwahanol bentrefi ym Mhen Llŷn gydol 2021 er mwyn tynnu sylw at y broblem

Nôl ym Morfa Nefyn fe aeth Catrin a'i merch Nel o gwmpas stad o dai cyfagos.

Gyda dim ond ambell olau tŷ ymlaen mae'r ddwy yn dweud dyma sut ddyfodol all yr ardal hon wynebu os nad oes rhywbeth yn newid.

"Mi allai'r rhain fod yn dai a chartrefi i deuluoedd lleol, yn olau, yn gynnes ac adeg yma'r flwyddyn wedi eu haddurno gyda golau 'Dolig ond yn anffodus nid felly mae hi," meddai Catrin.

Wrth gerdded ar hyd y strydoedd tywyll oedd wedi eu goleuo gan ambell lamp stryd, dywedodd merch Catrin, Nel, nad oedd hi'n hyderus y byddai hi'n gallu bod yn rhan o ddyfodol y pentref.

"Mae o bron yn rhywbeth 'da ni wedi derbyn... pan fyddai'n hŷn, mae'n annhebygol fyddai'n gallu byw yma oni bod rhywbeth yn digwydd.

"Mae'n rhaid i rywbeth ddigwydd er mwyn arbed y sefyllfa waethygu oherwydd mae'n gwaethygu bob blwyddyn.

"Mae 'na fwy a mwy yn dod yma bob blwyddyn, mwy a mwy o dai haf a llai o fobl lleol yn byw yma".

Erbyn hyn mae 30% o stoc dai Morfa Nefyn yn dai gwyliau.

Dim ond trwy weithredu polisïau cadarn y bydd modd creu newid yn ôl y fam a'r ferch.

Fydd y ddwy yn aros yn eiddgar i weld a fydd arbrawf Llywodraeth Cymru'n ddigon i achub dyfodol y gymuned hon.

Pynciau cysylltiedig