Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-0 Altrincham
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Wrecsam guro Altrincham 2-0 oddi cartref ddydd Mawrth yn y Gynghrair Genedlaethol trwy ddau beniad yn yr hanner gyntaf.
Ar ôl cyrraedd y cae yn bumed yn y gynghrair, llwyddodd y fuddugoliaeth i godi Wrecsam i'r drydydd safle - ac un pwynt i ffwrdd o'r brig.
Daeth hyn wedi gohirio gêm Wrecsam yn erbyn Solihull Moors ddydd Sul yn sgil achosion Covid-19 yn y garfan Gymreig.
Aaron Hayden wnaeth gipio gôl gyntaf y gêm i Wrecsam wedi tua ugain munud o chwarae, gyda pheniad agos yn dilyn fflic gan Ben Tozer a chroesiad Jordan Davies.
Llwyddodd Bryce Hosannah i ddyblu'r fantais trwy sgorio ail gôl i Wrecsam cyn hanner amser, wedi i ymgais gan Jordan Ponticelli ddod oddi ar y postyn.
Er gwaethaf ymdrech cadarn gan Altrincham, llwyddodd Wrecsam i amddiffyn eu mantais trwy gydol yr ail hanner.
Hon oedd gêm gyntaf Wrecsam ers cyflwyno cyfyngiadau Covid newydd yng Nghymru ar Ddydd San Steffan, sydd yn golygu bod yn rhaid chwarae gemau proffesiynol y tu ôl i ddrysau caeedig.
Ond llwyddodd dros 1,000 o gefnogwyr i'w cefnogi oddi cartref yn Lloegr brynhawn dydd Mawrth, yn ôl CPD Wrecsam.