Covid-19: Dros 10,300 achos newydd a 11 marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhywun yn gwneud prawf llif unfforddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dros 10,300 o achosion newydd o Covid-19 wedi'u cofnodi yng Nghymru yn ogystal â 11 marwolaeth arall.

Dyma'r pedwerydd diwrnod yn olynol i Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi'r gyfradd uchaf o achosion Covid-19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.

Mae'r gyfradd saith diwrnod fesul 100,000 o bobl wedi codi unwaith eto o 1,092.5 i 1,190.

Cafodd 10,393 o achosion newydd eu cofnodi mewn cyfnod o 24 awr hyd at 09:00 ar 30 Rhagfyr.

Cafodd 11 marwolaeth yn rhagor yn gysylltiedig â'r feirws eu cofnodi hefyd.

Mae'n golygu bod cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru ers dechrau'r pandemig, yn ôl dull cofnodi ICC, yn 6,567 a chyfanswm yr achosion yn 632,125.

Mae 2,490,223 o bobl wedi cael o leiaf un brechlyn, 2,302,282 wedi cael dau ddos a 1,626,146 wedi cael brechlyn atgyfnerthu.

Ddydd Mercher, roedd cyfanswm yr achosion o'r amrywiolyn Omicron yng Nghymru yn 7,369.