Covid: Dros 12,000 o achosion newydd a thair marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
CovidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 12,378 o achosion newydd o Covid-19 wrth i'r gyfradd achosion gyrraedd ei lefel uchaf ers dechrau'r pandemig.

Mae'r ffigyrau yn sylweddol uwch nag yn y dyddiau blaenorol am eu bod yn cynnwys y 48 awr hyd at 09:00 fore Sul (Dydd San Steffan), yn hytrach na 24 awr.

Cafodd tair marwolaeth arall hefyd eu cofnodi yn y cyfnod hwn, sydd yn golygu fod cyfanswm yr achosion yng Nghymru ers dechrau'r pandemig bellach yn 594,753 ac mae 6,551 wedi marw.

Mae'r gyfradd saith diwrnod am bob 100,000 o bobl yng Nghymru wedi codi i 1,004.1, ei lefel uchaf erioed.

Mae Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud ei fod yn rhy gynnar i weld effaith cymdeithasu dros gyfnod y Nadolig ar gyfraddau Covid.

Mae ffigwr ICC ar gyfer y nifer sydd wedi cael brechlyn atgyfnerthu yn parhau i fod yn 1,490,668, gan nad oedd modd cael unrhyw frechlyn Covid yng Nghymru ar Ddydd Nadolig na Dydd San Steffan.

Dros 6,000 prawf positif ar noswyl Nadolig

Mae'r gyfradd achosion gafodd ei hadrodd ddydd Mawrth dwbl beth oedd y lefel bythefnos yn ôl. Cafodd y gyfradd uchaf diwethaf ei chofnodi ym mis Hydref.

Fe wnaeth y nifer cyfartalog o achosion dyddiol godi gan 67% o fewn wythnos, yn ôl y data diweddaraf.

Yn ogystal, roedd yna 6,775 prawf positif ar noswyl Nadolig, sef y nifer uchaf ers dechrau'r pandemig.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y nifer uchaf o brofion Covid positif ei gofnodi ar noswyl Nadolig

Caerdydd sydd â'r gyfradd achosion uchaf (1,335.5). Fe wnaeth ei chyfradd achosion bron dyblu yn y saith diwrnod hyd at 23 Rhagfyr.

Mae gan 10 sir arall mewn rhannau amrywiol o Gymru hefyd gyfradd dros 1,000.

Powys (681.8), Sir Gaerfyrddin (696.6) a Blaenau Gwent (710.0) yw'r unig rai sydd o dan 800.

'Rhy gynnar i weld effaith y Nadolig'

Dywedodd Dr Shankar na fedrwn ni weld effaith cymdeithasu dros y Nadolig ar sefyllfa Covid yng Nghymru eto.

Ond dywedodd Dr Shakar, oedd eisoes wedi rhybuddio y byswn ni'n gweld "swnami" o achosion Omicron, ein bod ni'n gweld y "cynnydd serth" gafodd ei rhagweld.

"Roedd ein cyfraddau ni'n eithaf cyson o amgylch 500 i bob 100,000 o bobl tan tua wythnos neu 10 diwrnod yn ôl.

"Nawr mae'n mynd tuag at 1,000 i bob 100,000."

Mae'r nifer o gleifion coronafeirws mewn ysbytai yn sylweddol is na'r adeg hon y llynedd, ond rhybuddiodd Dr Shankar bod hyn yn debygol o godi.

Dywedodd bod "y nifer o bobl sy'n cael eu heintio" yn golygu y bydd "nifer sylweddol o bobl sydd yn cwympo'n sâl yn gorfod mynd i'r ysbyty".

Rhybudd llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y data yn dangos "cynnydd sydyn mewn achosion Covid-19 ar draws Cymru wedi ei achosi gan Omicron".

"Mae mwyafrif yr achosion yma mewn pobl ieuengach ac fe fydden nhw wedi dal yr haint cyn y Nadolig," meddai.

"Mae'r amrywiolyn newydd yn lledaenu'n hawdd - mae'n lledaenu'n gyflym ble bynnag mae pobl yn dod at ei gilydd.

"Cymerwch gamau i amddiffyn eich hunan a'ch anwyliaid. Mae hyn yn golygu gwisgo masg dan do mewn llefydd cyhoeddus, cadw pellter o bobl eraill ble mae'n bosib, a lleihau nifer y bobl rydych chi'n cwrdd yn rheolaidd."

Mae dros 54% o oedolion wedi cael brechlyn atgyfnerthu, ond mae'r dirprwy prif swyddog meddygol wedi dweud y dylai pawb gymryd camau ychwanegol i ddiogelu eu hunain.

"Mae hyn yn adeg bryderus, ond os ydyn ni i gyd yn cydweithio ac edrych ar ôl ein gilydd, gallwn ni gadw Cymru'n ddiogel," meddai Dr Chris Jones.