Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth wedi tân carafán

  • Cyhoeddwyd
Richard Grenfell ThomasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Richard Grenfell Thomas, 52, ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yn sgil ei anafiadau

Mae dyn 42 oed o Sir Fynwy sydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth dyn yn dilyn tân mewn carafán wedi ymddangos yn y llys.

Fe ymddangosodd Darren Smith, o Fagwyr, yn Llys y Goron Caerdydd trwy ddolen fideo ddydd Iau.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i barc carafanau The Beeches, Knollbury, am 02:30 fore Llun, 20 Rhagfyr wedi adroddiadau o dân yno.

Fe gafodd Richard Grenfell Thomas, 52, ei gludo i'r ysbyty am driniaeth, ond bu farw o'i anafiadau yn ddiweddarach.

Yn ystod y gwrandawiad ddydd Iau, dywedodd cwnsler amddiffyn Mr Smith y byddan nhw'n gwneud cais am ail archwiliad post-mortem.

Clywodd wrandawiad blaenorol yn Llys Ynadon Casnewydd bod Mr Thomas wedi dioddef "llosgiadau helaeth i'w gorff" a'i fod wedi marw o ganlyniad i'w anafiadau.

Bydd Mr Smith yn cael ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad llys nesaf ar 31 Ionawr.

Pynciau cysylltiedig