'Mis anodd' o asesu'r risg mewn ysgolion o ddydd i ddydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dosbarth wagFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae un asiantaeth yn dweud bod bron pob un o'r 150 o'i hathrawon cyflenwi wedi cael galwad i weithio yr wythnos hon.

Yn ôl Margaret Edwards o gwmni Taro Nod, sy'n darparu athrawon cyflenwi Cymraeg i ysgolion, dydy ei ffôn ddim yn stopio canu.

"Fi lan am chwech o'r gloch, gweld texts sydd wedi dod mewn a phenaethiaid yn edrych am gynorthwywyr ac athrawon nawr," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"Fi'n non-stop, mae eisiau mwy o athrawon a chynorthwyon.

"Mae bob amser angen athrawon a chynorthwyon arnom ni ond ers i Covid ddechrau, mae llwyth o waith i gael."

'Mis anodd' o asesu risg

Ddydd Mawrth ar ddiwrnod cyntaf swyddogol y tymor newydd, fe wnaeth athrawon ddechrau ar ddeuddydd o baratoi ar gyfer derbyn disgyblion yn ôl i ysgolion.

Ansicrwydd o ddydd i ddydd ynghylch faint o staff sydd ar gael wrth i rai orfod hunan-ynysu yn sgil y don ddiweddaraf o achosion Covid-19 yw'r her fwyaf, yn ôl penaethiaid a chynrychiolwyr undeb.

Mae pennaeth ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn rhagweld mis "anodd" o asesu lefelau staffio a mesurau atal lledaenu'r amrywiolyn Omicron dan amgylchiadau mor ansicr.

"Ta beth yw eich cynllun chi heddi, galla hwnna newid erbyn fory achos ni ddim yn gwybod faint o staff fydd gyda ni," dywedodd Lisa Mead, pennaeth Ysgol Gymraeg Glan Ceubal yn ardal Gabalfa, wrth raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

"Ni 'di cael canllawiau - fydd angen i'r staff wneud profion [llif unffordd] tair gwaith yr wythnos, ac felly y boreau hynny allen ni ffeindo mas am hanner awr wedi chwech y bore bod gen i nifer fawr o staff ddim yn gallu dod i mewn i'r ysgol.

"Ni yn lwcus, ni'n cael dau ddiwrnod i gynllunio ond fyddwn ni fel hyn nawr, fydden i'n tybio, am o leia'r mis nesa'."

Amserlen ailagor ysgolion ar draws Cymru

Hyd yn hyn, mae wedi ei gadarnhau bod hi'n fwriad i ddisgyblion ddychwelyd i'w dosbarthiadau:

  • Dydd Iau, 6 Ionawr - yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Casnewydd, Mynwy, Blaenau Gwent a Thorfaen;

  • Dydd Gwener, 7 Ionawr - yng Ngheredigion a Phowys, ond bydd y mwyafrif yn derbyn eu haddysg ar-lein ar y diwrnod hwnnw, gyda'r gobaith o ailagor ysgolion yn llawn ar 10 Ionawr;

  • Dydd Llun, 10 Ionawr - yn Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Sir Y Fflint.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau staff Ysgol Gymraeg Glan Ceubal, ac eithrio'r tîm rheoli, yn gweithio o adref ddydd Mawrth

Dywedodd Lisa Mead bod cael athrawon llanw "yn broblem" a bod rhaid cael system o addasu'n fewnol pan fo staff yn brin, gan gynnwys cyfuno dosbarthiadau.

"Ma' fe'n anodd, yn enwedig os ma'r staff yn gorfod hunan-ynysu," meddai. "Diwedd y peth, falle bydd rhaid mynd yn ôl i ddysgu cyfunol, ond... os ma'r staff i ffwrdd oherwydd Covid... does dim disgwyl wedyn bod nhw'n gallu 'neud dysgu cyfunol tra bod nhw gartre'n sâl."

Bydd ysgolion hefyd, meddai, yn edrych o'r newydd ar gamau i atal lledaeniad y feirws, gan gynnwys "falle mynd yn ôl i systeme un ffordd, falle mae modd i ni edrych ar amseriad a rhediad y diwrnod".

Dywedodd ei bod yn credu bydd modd croesawu disgyblion i ysgol eto o ddydd Iau ymlaen, ond "fi'n credu mae'r mis nesa' yn mynd i fod yn anodd iawn i benaethiaid oherwydd ni jyst gorfod mynd o ddydd i ddydd a ma' petha'n gallu newid."

'Angen negeseuon clir'

Cytunodd Swyddog Polisi Undeb Athrawon UCAC, Rebecca Williams taw ansicrwydd cyson dros lefelau staffio yw'r prif her wrth i staff ddychwelyd i'r gwaith ddydd Mawrth.

"Mae'n fater nawr o benderfynu pa fesurau sydd yn union eu hangen," meddai ar Dros Frecwast.

"Wrth gwrs, does neb yn hoffi swigod a systemau un ffordd mewn ysgolion ond ry'n ni wedi arfer â nhw ac yn gobeithio wrth gwrs mai am gyfnod cymharol fyr y bydd rheiny yn eu lle y tro yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae ysgolion wedi arfer erbyn hyn â mesurau atal Covid os oes angen eu hailgyflwyno, medd Rebecca Williams o undeb athrawon UCAC

Ychwanegodd bod "disgwyliad" i ddisgyblion dderbyn addysg wyneb yn wyneb.

"Mi fydd disgwyl i ysgolion ailagor a chroesawu disgyblion hefyd felly, mae e'n sefyllfa debycach i'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth gofal ble ma' disgwyl bod wyneb yn wyneb gyda'r rhai sy'n derbyn y gwasanaeth."

Dywedodd bod angen sicrhau bod digon o adnoddau diogelwch ar gael, gan gynnwys offer diheintio a mygydau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig help ariannol, meddai, i "helpu gyda lefelau staffio a gwahanol agweddau" yn ystod y pandemig, ond y peth pwysig nawr yw "negeseuon clir" gan y weinyddiaeth a gan awdurdodau lleol ynglŷn â disgwyliadau ar ysgolion.

Pynciau cysylltiedig