Chwe Gwlad 2022: URC yn ystyried chwarae gemau yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Wayne Pivac, George North a'r tîmFfynhonnell y llun, Asiantaeth Huw Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gemau Cymru ym mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2021 eu chwarae heb dorf

Mae Undeb Rygbi Cymru yn ystyried y posibilrwydd o chwarae gemau gartref y Chwe Gwlad yn Lloegr oherwydd cyfyngiadau yng Nghymru.

Gosododd y Prif Weinidog Mark Drakeford gyfyngiadau ar ddigwyddiadau chwaraeon yng Nghymru, gan olygu i bob pwrpas bod gemau proffesiynol y tu ôl i ddrysau caeedig.

Nid oes dyddiad wedi'i bennu ar gyfer pryd y gellir lleddfu mesurau, gyda'r adolygiad nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 7 Ionawr.

Dan y cyfyngiadau lefel dau presennol, byddai'n rhaid i Gymru chwarae eu gemau'n erbyn yr Alban, Ffrainc a'r Eidal yn Stadiwm Principality heb dorf.

Mae tîm yr Alban - sydd i fod i ymweld â Chaerdydd ar 12 Chwefror - mewn sefyllfa debyg gyda'u rheolau Covid presennol.

Yn Lloegr, mae modd croesawu torfeydd i stadiymau gyda phas Covid-19.

Ffynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cymru oedd pencampwyr y Chwe Gwlad yn 2021

Yn ôl un cyfarwyddwr rygbi yn Lloegr, byddai "cynnal y bencampwriaeth mewn un wlad yn well na gorfod canslo".

Dywedodd cyfarwyddwr rygbi Caerwysg, Rob Baxter hefyd y byddai chwarae pob gêm gyda thorf lawn yn Lloegr yn sicrhau cyllid i gyrff rygbi pob un o'r gwledydd.

Mae'r gystadleuaeth i fod i ddechrau yn Nulyn a Chaeredin ar 5 Chwefror, gyda'r bencampwriaeth yn rhedeg dros bum penwythnos rhwng Chwefror a Mawrth.

Roedd yn rhaid i Gymru chwarae gemau'r bencampwriaeth y llynedd heb dorf hefyd, ond daeth hyd at 74,000 o bobl i'w gwylio yng ngemau prawf yr hydref.

Ers dydd San Steffan, does dim hawl gan bobl i fynd i wylio gêm ryngwladol mewn stadiwm oherwydd lledaeniad amrywiolyn Omicron.

Dywedodd Rob Baxter: "Hanfod y Chwe Gwlad yw bod newid mewn amgylchiadau, newid yn y tywydd, mynd i'r Alban, Cymru, Iwerddon - maen nhw'n heriau gwych.

"Wedi dweud hynny, allwn ni ddim eistedd yn fan hyn ac esgus bod y byd yn lle delfrydol ar hyn o bryd.

"Os mai'r sefyllfa gorau posib yw chwarae mewn un wlad, lle allwch chi gael torfeydd a gwerthu pob tocyn, gallwch chi godi rhywfaint o refeniw a chadw'r llif yna o incwm ar gyfer yr holl gyrff, yna mae'n mynd i fod yn well na'i ganslo.

"Ry'n ni i gyd wedi gorfod dod o hyd i ffordd o gadw pethau i fynd, i geisio cadw'r cyllid i ddod mewn. Mae'r un peth gydag unrhyw fusnes, mae'n rhaid archwilio'r opsiynau."

'Ergyd i'r economi'

Fe ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y byddai cynnal y gemau yn Lloegr yn hytrach na Chaerdydd yn "ergyd arall i economi Cymru".

"Byddai nifer o bobl yng Nghymru yn dweud wrthoch bod y rheolau presennol ddim yn gwneud synnwyr.

"Fel welon ni dros y Nadolig, roedd gemau rygbi'n cael eu cynnal gyda thair gwaith yn fwy o bobl yn yfed yn y clybiau ac yn gwylio'r gêm tu fewn nag oedd o gwmpas y cae.

"Byddai'n ergyd arall i'r economi Cymreig os oes rhagor o arian Cymru'n cael ei wario yn Llundain a ddim yng Nghaerdydd."

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru adolygu'r cyfyngiadau Covid-19 ddydd Gwener.