Cyfyngiadau ar dorfeydd chwaraeon yn 'hollol hurt'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Chwaraeon plantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ansicr ar hyn o bryd a fydd chwaraeon plant yn dod o dan y rheolau newydd

Mae cyfyngiadau newydd Llywodraeth Cymru ar ddigwyddiadau chwaraeon wedi cael eu beirniadu fel rhai "hollol hurt", gydag ansicrwydd ymysg nifer o glybiau am sut i'w gweithredu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gemau chwaraeon yn cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig o 26 Rhagfyr ymlaen er mwyn helpu i reoli lledaeniad amrywiolyn Omicron Covid-19.

Mae'r cyfyngiadau yn berthnasol i bob digwyddiad chwaraeon dan do, awyr agored, proffesiynol a chymunedol.

Ond mae'n ansicr ar hyn o bryd beth yn union fydd yn dod o dan y rheolau newydd, yn enwedig ar lefel gymunedol a chwaraeon plant.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd mwy o fanylder ar y materion hynny yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cadeirydd clwb Uplands Abertawe fod manylion y rheolau newydd am wneud gwahaniaeth mawr ar lefel gymunedol

Fe wnaeth Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn dynnu sylw at anghysondebau ynglŷn â'r rheolau newydd, dolen allanol ar Twitter.

Dywedon nhw ar gyfer eu gêm nesaf, ar y funud, y bydd modd i'r clwb a'r bar fod ar agor yn llawn heb unrhyw gyfyngiadau, ond na fyddai cefnogwyr yna'n cael mynd tu allan i'r awyr agored i wylio'r gêm.

'Ergyd i goffrau'r clybiau'

Ychwanegodd cadeirydd Clwb Rygbi Uplands Abertawe, Cameron Lowe fod y cyfyngiadau diweddaraf yn "bendant yn mynd i'n taro ni, a nifer o glybiau eraill, yn eithaf caled".

"Mae angen i ni weld ble fydd y llinell rhwng beth sy'n cael ei ddiffinio fel cefnogwr sy'n gwylio'r gêm yn fyw, ac os fydd modd i bobl barhau i ddod i gael cwrw yn y bar a gwylio chwaraeon ar y teledu," meddai.

"Mae'r math yna o fanylion am wneud gwahaniaeth i chwaraeon ar lefel gymunedol.

"Os nad ydy cefnogwyr yn cael mynd i'r clwb a chael cwrw ac ychydig o fwyd, mae hynny'n mynd i fod yn ergyd i goffrau'r clybiau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl cadeirydd Y Seintiau Newydd mae'n "hurt" fod yn rhaid i gefnogwyr fynd i lefydd fel Llundain i wylio eu clybiau

Dywedodd cadeirydd Y Seintiau Newydd, Mike Harris mai'r cyfan y bydd y rheolau newydd yn ei wneud ydy "gyrru pobl i mewn i dafarndai a thai pobl eraill", a gyrru nifer o gefnogwyr dros y ffin i wylio eu timau oddi cartref.

"Dydyn ni ddim eisiau gorfodi pobl i wneud y siwrneiau hynny dros y ffin er mwyn mynd i'w wylio rhywle arall," meddai ar Radio Wales.

"Mae'n hollol hurt - bydd gêm Abertawe yn Millwall ymlaen [ar Ŵyl San Steffan], a Llundain sydd â'r niferoedd uchaf o achosion Omicron.

"Bydd cefnogwyr yn neidio yn y car neu ar y trên ac yn mynd i wylio'r gêm yn fyw ym Millwall."

Er bod stadiwm y Seintiau dros y ffin yn Lloegr, dywedodd y bydd yn rhaid i'r clwb ddilyn rheolau Cymdeithas Bêl-droed Cymru am eu bod yng nghynghreiriau Cymru.

Mae'r gymdeithas bêl-droed wedi dweud eu bod yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf, ac y byddan nhw'n rhyddhau datganiad maes o law.

'Siom i'r cefnogwyr'

Yn ymateb i'r newyddion dywedodd Robin Edwards, cefnogwr Clwb Pêl-droed Wrecsam ei fod yn "siom i'r cefnogwyr i gyd bod o'n digwydd, ac mor gyflym hefyd".

Ychwanegodd ei fod yn teimlo fod y llywodraeth wedi colli cyfle i ehangu'r cynllun pasys Covid yn hytrach na gorfod cau stadiymau yn llwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pryder Robin Edwards yw y bydd y cyhoeddiad yn arwain at fwy o gefnogwyr i deithio dros i ffin i wylio'u timau

"Maen nhw wedi bod yn annog pawb i gael y Covid passports ac ati ar ôl y jabs a'r boosters - maen nhw wedi bod yn defnyddio y Covid passports mewn torfeydd o dros 10,000 o ffans," meddai ar Dros Frecwast.

"Pam bo' nhw jyst ddim yn cyflwyno rheiny a 'neud o i lai o dorf? Mae Wrecsam fel arfer yn cael rhwng 8,000 a 9,000 - 'sa hi wedi bod yn gyfle i ddefnyddio rheiny.

"Mewn ffordd mae'r cam yna wedi diflannu, ac wedi mynd yn syth i ddim cefnogwyr o gwbl.

"Yn Wrecsam mae 'na gemau oddi cartref yn Altrincham a Notts County. Beth fydd yn debygol o ddigwydd rŵan yw bod mwy o bobl yn mynd i fanna rhwng y Dolig a'r Flwyddyn Newydd, sydd ddim yn mynd i helpu.

"Gyda mwy o bobl o bosib yn dod ag Omicron yn ôl - falle bod o'n counterproductive o bosib."