Colli gemau'r Chwe Gwlad i Loegr yn 'ergyd i economi' Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Torf enfawr o gefnogwyr rygbi yng nghanol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 100,000 yn ymweld â chanol Caerdydd ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol fel arfer

Os na chaiff gemau Chwe Gwlad Cymru eu cynnal yng Nghaerdydd, gallai'r effaith ariannol fod yn "ofnadwy" yn ôl busnesau.

Mae disgwyl i Gymru chwarae tair gêm gartref yn Stadiwm Principality, ond mae rheolau Covid presennol Cymru'n golygu na fydd torf yn gallu bod yno.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ystyried chwarae eu gemau cartref yn Lloegr lle nad oes cyfyngiadau ar dorfeydd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn "monitro'r" sefyllfa yn y cyfnod yn arwain at y Chwe Gwlad, meddai gweinidog iechyd Cymru.

"Rydyn ni'n ymwybodol bod angen penderfyniad ar yr Undeb yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach," meddai Eluned Morgan fore Sul.

"Ond mae'r Undeb trwy gydol y pandemig hwn wedi gweithredu'n wirioneddol gyfrifol."

Ychwanegodd: "Yr hyn y byddwn bob amser yn ei wneud yw sicrhau y byddwn yn rhoi amddiffyniadau iechyd cyhoeddus yn gyntaf."

Dywedodd fod y llywodraeth yn "ymwybodol iawn o'r niwed sy'n cael ei achosi yn economaidd ar hyn o bryd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cael stadiwm yng nghanol y ddinas yn hwb enfawr i fusnesau

Mae Mark Drakeford eisoes wedi rhybuddio bod "storm Omicron wedi cyrraedd Cymru" a bod gan y wlad "fis heriol o'n blaen".

Ond yn dilyn bron i ddwy flynedd o gyfyngiadau Covid, mae perchnogion busnesau wedi rhybuddio y gallai colli allan ar ddiwrnodau'r gemau Chwe Gwlad fod yn hoelen olaf yn yr arch i'r sector.

'Erioed wedi profi adeg fel hyn'

Dywedodd perchennog tafarn The City Arms, sydd gyferbyn â Stadiwm Principality, y gallai ennill tua £15,000 ar ddiwrnod gêm fel arfer.

Ond, os na fyddai'r gemau'n cael eu cynnal yno, mae'n dweud y byddai'n "lwcus i wneud £2,000".

"Bydd miliynau o'r economi leol yn mynd i'r gwter, fel y mae wedi dros y Nadolig, a ni all hi gario 'mlaen fel hyn," dywedodd Gary Corp.

"Ry'n ni 'di colli allan ar rai o nosweithiau mwyaf llwyddiannus y flwyddyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr rygbi o Ffrainc yn mwynhau'r awyrgylch tu allan i dafarndai Caerdydd

"Dwi erioed wedi profi adeg fel hyn," ychwanegodd.

""Os nad oes cefnogwyr yn mynd i allu mynd i'r stadiwm yn ystod y Chwe Gwlad, bydd hi'n ofnadwy i ni."

Gyda Stadiwm Principality yng nghalon y ddinas, mae busnesau a siopau'n dibynnu ar ymwelwyr a chefnogwyr i wario'u harian.

Mae ymchwil yn awgrymu bod pob gêm Chwe Gwlad yng Nghaerdydd yn hybu economi Cymru gan tua £20m.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i gefnogwyr yr Alban ymweld â Chaerdydd oedd ym mis Mawrth 2020, pan gafodd y gêm ei gohirio oherwydd Covid-19

Y cynllun yw y bydd Cymru'n chwarae'i gêm cyntaf yn y bencampwriaeth yn Stadiwm Principality yn erbyn yr Alban ar 12 Chwefror.

Bydd Cymru'n wynebu Ffrainc a'r Eidal yn y brifddinas yn ddiweddarach.

"Gall Chwefror a Mawrth fod yn amser araf i ddinasoedd ac i'r sector manwerthu a hamdden fel gwestai a bwytai, mae'r gemau hyn yn bwysig," eglurodd economegydd o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Max Munday.

"Mae'n werth cofio o ble mae'r cefnogwyr yn dod oherwydd bod pobl yn aros yma - o'r Alban, Ffrainc a'r Eidal - maen nhw'n hoffi gwario mwy o arian na fyddai pobl sy'n dod am ddiwrnod o Loegr, er enghraifft."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cefnogwyr Cymru eu croesawu'n ôl i Stadiwm Principality yn haf 2021

Yn ôl aelod o staff yn nhafarn Pontcanna Inn, penwythnosau'r Chwe Gwlad yw'r rhai prysuraf.

Dywedodd Lowri Davies: "Eleni, mae ambell un wedi bwcio ar gyfer y penwythnos cyntaf, ac yna mae'n prysuro.

"Ond, os yw'r rheolau'n aros yr un peth ar gyfer cefnogwyr, mae'r rheiny'n debygol o gael eu canslo.

"Ry'n ni'n arfer gweld 500 o bobl i mewn, y bar yn llawn, a rhestr aros ar gyfer ystafelloedd," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Yn ddelfrydol, fydden ni'n hoffi ei weld fel yr oedd cyn Covid o ran niferoedd, ond dy'n ni ddim yn gweld hynny'n digwydd am fwy nag un rheswm," ychwanegodd Ms Davies.

"Mae'r rheolau'n rhan o'r rheswm, ond hefyd, mae pobl yn dewis cadw draw.

"Welon ni hynny dros y Nadolig, dyw pobl ddim yn dod allan fel yr oedden nhw'n arfer gwneud."

Rhybuddiodd Mr Drakeford yr wythnos ddiwethaf y bydd cyfyngiadau presennol Cymru'n aros yn eu lle am o leiaf bythefnos - hyd at 21 Ionawr.