Dyn, 20, wedi marw'n sydyn ar gaeau chwarae

  • Cyhoeddwyd
caeau cwaraeFfynhonnell y llun, Google

Mae dyn 20 oed wedi marw'n sydyn ar gaeau chwarae yn Rhondda Cynon Taf, meddai'r heddlu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 16:30 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael digwyddiad meddygol ar gaeau chwarae Tonysguboriau (Talbot Green) ger Pontyclun.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 20 oed wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac nid oes unrhyw amgylchiadau amheus, medd y llu.

Pynciau cysylltiedig