Cymru o bosib yn troi cornel ar Covid, meddai gweinidog

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dyn mewn mwgwd yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae "arwyddion positif iawn" bod Cymru yn "dod i'r brig" ac "o bosib yn troi'r gornel" ar y don coronafeirws, meddai gweinidog.

Roedd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn siarad cyn y cyhoeddiad ddydd Gwener am yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau Covid.

"Byddai'n rhyddhad enfawr, enfawr" pe bai Cymru'n cyrraedd y cam hwnnw, meddai.

Cafodd rheolau Cymru eu tynhau ddiwethaf ar 26 Rhagfyr, gan olygu na all mwy na 50 o bobl fynychu digwyddiad chwaraeon.

Mae'r rheolau wedi gorfodi llawer o dimau i orfod chwarae tu ôl i ddrysau caeedig.

Mae cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol hefyd ar waith mewn busnesau ac mae rheol o chwech yn berthnasol mewn lleoliadau lletygarwch fel tafarndai a bwytai.

'Rhyddhad enfawr'

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd a Chymdeithasol ddydd Iau, dywedodd Ms Morgan: "Rwy'n gwybod bod tua 10% o'r boblogaeth yn Llundain yn sâl gyda Covid ac yng Nghymru mae tua 6%.

"Felly mae hynny'n wahaniaeth sylweddol ac, yn amlwg, rydyn ni'n gobeithio ein bod ni'n dod i'r brig nawr.

"Ac os ydyn ni'n cyrraedd uchafbwynt o 6% a'u bod nhw ar 10% yna, mewn gwirionedd, mae achos gwirioneddol i ddathlu, mae hwnnw'n giplun y gallwch chi edrych arno.

"Rydym yn amlwg yn cadw llygad barcud ar y data ar hyn o bryd ond mae rhai arwyddion cadarnhaol iawn, rwy'n falch o ddweud, o ran ein bod o bosibl yn troi'r gornel, a fyddai'n rhyddhad enfawr, enfawr."

1px transparent line
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn gobeithio bod Cymru ar ei hanterth yn y don ddiweddaraf o Covid

Cyfraddau achosion yn disgyn

Mae cyfradd achosion Cymru wedi disgyn i'r lefel isaf ers 27 Rhagfyr - 1,492.4 fesul 100,000 o bobl dros saith diwrnod.

Er bod hynny'n cynnwys newid mewn polisi lle nad oes angen profion PCR bellach ar bobl nad ydyn nhw'n dangos symptomau ond sy'n profi'n bositif ar ddyfeisiau llif unffordd, roedd achosion yn gostwng dridiau cyn i hynny ddigwydd.

Mae dyfnder y cwymp hefyd yn ddyfnach nag y gellir ei esbonio gan y newid hwnnw.

Castell-nedd Port Talbot sydd â'r gyfradd achosion uchaf o hyd, gyda 1,893 o achosion fesul 100,000 ac erbyn hyn mae gan 92% o gymunedau lleol gyfraddau achosion uwch na 1,000 - mae'r gyfran wedi gostwng o'r 98% a welwyd yr wythnos ddiwethaf.

Pen-bre a Phorth Tywyn ac Abercynon yw'r ddau uchaf gyda 2526.2 o achosion fesul 100,000.

Mae'r gyfradd bositifrwydd wedi disgyn i 44.6% - yr isaf ers 27 Rhagfyr 2021, gydag Ynys Môn â'r gyfradd uchaf ar 48.3%.

Mae pob grŵp oedran yn dangos gostyngiad mewn achosion, yn enwedig y grwpiau oedran iau hynny oedd yn sbarduno'r cynnydd mawr dros gyfnod y Nadolig, gyda phob un ond pedair ardal cyngor lleol yng Nghymru hefyd yn dangos gostyngiad mewn cyfraddau achosion ymhlith y rhai dan 25 oed.

Roedd cyfartaledd o 8.5% o'r holl ddisgyblion cynradd a 14.3% o'r holl ddisgyblion uwchradd yn absennol oherwydd Covid-19 tua 6 Ionawr.

Cyfnod hunan-ynysu

Yn y cyfamser, dywedodd gweinidogion Cymru nad oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i dorri'r cyfnod hunan-ynysu i bobl sy'n profi'n bositif am Covid-19.

Yn Lloegr, mae'r cyfnod hunan-ynysu yn cael ei dorri o saith i bum diwrnod llawn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth ac yn edrych ymlaen at weld y dystiolaeth glinigol sydd wedi llywio'r penderfyniad hwn."

O ddydd Llun ymlaen, bydd pobl yn Lloegr yn gallu gorffen y cyfnod ynysu ar ôl profion llif unffordd negyddol ar ddiwrnodau pump a chwech.