'Ystyried llacio rheolau Covid wythnos nesaf'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tafarn
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond hyd at chwech o bobl sy'n cael cwrdd mewn bwyty neu dŷ tafarn ar hyn o bryd

Bydd gweinidogion yn ystyried y posibilrwydd o lacio rheolau Covid Cymru wythnos nesaf wrth adolygu'r cyfyngiadau, yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Ond fe rybuddiodd bod yna gryn ansicrwydd a fyddai'r sefyllfa wedi gwella digon i ganiatáu newid y rheolau.

Fe wrthododd galwadau yn y Senedd i lacio cyfyngiadau ar nifer y bobl all wylio digwyddiadau chwaraeon mawr, yn dilyn cyhoeddiad yn cadarnhau y bydd hynny yn digwydd yn Yr Alban o ddydd Llun nesaf.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies bod Llywodraeth Cymru'n mynnu bod yn wahanol i wledydd eraill y DU gyda'u "cyfyngiadau gor-danbaid" ar y sector chwaraeon.

Ers 26 Rhagfyr, ni all mwy na 50 o bobl fynd i ddigwyddiad chwaraeon yng Nghymru, ac mae llawer o dimau wedi chwarae gemau tu ôl i ddrysau caeëdig.

Mae busnesau'n gorfod cynnal pellter cymdeithasol o ddau fedr, a dim ond hyd at chwech o bobl sy'n cael cwrdd mewn lleoliadau lletygarwch fel tafarndai a bwytai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen tystiolaeth sicr bod y don ddiweddaraf o achosion wedi mynd heibio'r brig cyn newid rheolau, medd Mark Drakeford

"Yr wythnos nesaf fe fydd y cyfnod adolygu tair wythnos yn dod i ben," meddai Mr Drakeford wrth ASau ddydd Mawrth.

"Os rydym yn ffodus iawn, ac mae'n 'os' fawr iawn, ac yn gweld ein bod wedi pasio'r brig [o ran achosion] a bod yna ostyngiad sicr o ran impact coronafeirws arnom, yna fe edrychwn i weld be allwn ni wneud i allu dweud bod modd llacio rhywfaint o'r camau gwarchodol y bu'n rhaid i ni eu gosod.

"Ond wnawn ni ddim gwneud hynny nes ein bod yn hyderus bod ein cyngor gwyddonol a meddygol yn cadarnhau bod hi'n ddiogel i symud i'r cyfeiriad yna."

Ffynhonnell y llun, Andy Evans/ Parkrun
Disgrifiad o’r llun,

Dydy digwyddiadau Parkrun heb cael eu cynnal yng Nghymru yn sgil y cyfyngiadau mwyaf diweddar

Gan alw am newid, dywedodd Andrew RT Davies bod hi'n amhosib cynnal digwyddiadau Parkrun ac mae cyrff fel Undeb Rygbi Cymru angen "cyfeiriad clir" pa bryd bydd modd llacio'r rheolau.

Dywedodd bod chwaraeon ac ymarfer corff "nid yn unig yn gwella iechyd corfforol pobl, ond eu hiechyd meddwl hefyd".

Galwodd yr AC Plaid Cymru Llyr Gruffydd ar Mr Drakeford i "ystyried codi uchafswm y cefnogwyr fel y gallai clybiau chwaraeon lawr gwlad weithredu". Awgrymodd hefyd y gallai clybiau mawr lenwi "efallai, draean neu hanner capasiti'r stadiwm cyn belled a bod yna bellter cymdeithasol a gwisgo mygydau".

Gwrthododd Mr Drakeford alwad Mr Davies, gan ddweud ei fod wedi gweld "llawer o bobl yn rhedeg mewn parc mewn grwpiau".

"Unwaith ein bod mewn sefyllfa o wybod bod Cymru wedi mynd heibio'r uchafbwynt... byddwn ni'n dymuno, mor gyflym a diogel â phosib, dechrau llacio rhai o'r camau gwarchodol oedd yn angenrheidiol tra bo'r don Omciron yn parhau i'n taro.

"Ond nid ydym wedi cyrraedd y pwynt yna heddiw."

Cyfeiriodd Mr Drakeford hefyd at sefyllfa Clwb Pêl-Droed Caer, sydd wedi gohirio'i gêm gartref nesaf, gan fod rhan fwyaf safle stadiwm y clwb Seisnig ar ochr Cymru i'r ffin â Lloegr.

Dywedodd y Prif Weinidog bod angen cael "datrysiad pragmataidd sy'n glir o ran y gyfraith yng Nghymru - ac mae'r gyfraith yr un fath i bob clwb yng Nghymru" tra'n cydnabod bod yna faterion penodol yn achos CPD Caer "a cheisio eu helpu gyda'r materion hynny".